Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 8

8
1A bu wedi hyny, ac Efe a ymdeithiodd trwy ddinas a phentref yn pregethu ac efengylu teyrnas Dduw, 2ac y deuddeg ynghydag Ef, a gwragedd rai, y rhai a iachasid oddiwrth ysprydion drwg a chlefydau; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon y bu i saith gythraul fyned allan; 3ac Ioanna, gwraig Cwza goruchwyliwr Herod, a Shwshanna, ac eraill lawer, y rhai a weinient Iddo o’u heiddo.
4Ac wedi dyfod ynghyd o dyrfa fawr, a’r rhai o bob 5dinas yn dyfod Atto, dywedodd trwy ddammeg, Aeth yr hauwr allan i hau; ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a’i bwyttasant; 6a pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi tyfu o hono, gwywodd am nad oedd iddo wlybwr. 7Ac arall a syrthiodd ynghanol y drain, ac wedi cyd-dyfu o’r drain ynghydag ef, tagasant ef. 8A pheth arall a syrthiodd ar y tir da; ac wedi tyfu dug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, llefodd, Y neb sydd a chanddo glustiau, gwrandawed.
9A gofynodd Ei ddisgyblion Iddo, pa beth oedd y ddammeg hon. 10Ac Efe a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; ond i’r lleill ar ddamhegion, 11fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. 12A hon yw’r ddammeg: Yr had yw Gair Duw; a’r rhai ar ymyl y ffordd yw y rhai a glywsant; gwedi’n dyfod y mae diafol, ac yn dwyn ymaith y Gair o’u calon, rhag, wedi credu o honynt, iddynt fod yn gadwedig. 13A’r rhai ar y graig yw y rhai pan glywont, a dderbyniant y Gair gyda llawenydd; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai am amser y credant, ac yn amser profedigaeth y ciliant. 14A’r hwn a syrthiodd ym mysg y drain, y rhai hyn yw’r rhai a glywsant, a chan ofalon a golud a phleserau buchedd, wrth fyned eu ffordd, y’u tagir, ac ni ddygant ffrwyth i berffeithrwydd. 15A’r hwn ar y tir da, y rhai hyn yw’r rhai wedi iddynt a chalon fad a da glywed y Gair, a’i cadwant, ac a ddygant ffrwyth gydag amynedd.
16Nid yw neb wedi goleu llusern yn ei gorchuddio â llestr, neu tan wely y gesyd hi, eithr ar safle’r llusern y gesyd hi, fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni; 17canys nid oes dim dirgel na ddaw yn amlwg, na chuddiedig na wybyddir ac na ddaw i’r amlwg. 18Edrychwch, gan hyny, pa fodd y clywch; canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo; a phwy bynnag nad oes ganddo, ïe, yr hyn y tybia ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19A daeth Atto Ei fam a’i frodyr, ac ni allent ddyfod hyd Atto o achos y dyrfa. 20A mynegwyd Iddo, Dy fam a’th frodyr sy’n sefyll allan, yn ewyllysio Dy weled. 21Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Fy mam ac Fy mrodyr yw y rhai hyn, sef y rhai y sy’n clywed Gair Duw ac yn ei wneuthur.
22A bu ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe a aeth i mewn i gwch, ac Ei ddisgyblion hefyd; a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn; a chychwynasant. 23Ac a hwynt yn hwylio, hunodd Efe; a disgynodd cawod o wynt ar y llyn, ac yr oeddynt yn llenwi o ddwfr, ac mewn enbydrwydd; 24ac wedi dyfod Atto, deffroisant Ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, ar ddarfod yr ydym. Ac Efe wedi deffro a ddwrdiodd y gwynt a’r tonnau dwfr; 25a pheidiasant, a bu tawelwch: a dywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd? Ac wedi eu dychrynu rhyfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan mai i’r gwyntoedd y gorchymyn, ac i’r dwfr; ac ufuddhant Iddo?
26A hwyliasant i wlad y Geraseniaid, yr hon sydd gyferbyn â Galilea. 27Ac wedi dyfod allan o Hono i dir, cyfarfu ag Ef ryw ŵr o’r ddinas, a chanddo gythreuliaid: ac am amser maith ni wisgai gochl; ac mewn tŷ nid arhosai, eithr yn y beddau. 28A chan weled yr Iesu, gan waeddi, syrthiodd ger Ei fron Ef, ac â llef fawr y dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, O Iesu, fab y Duw Goruchaf? 29Attolygaf i Ti na’m poenech i: canys gorchymynasai Efe i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dyn: canys llawer o amserau y cipiasai ef; a rhwymesid ef â chadwynau a llyffetheiriau, ac mewn cadwraeth; a chan ddryllio y rhwymau, gyrrid ef gan y cythraul i’r anial-leoedd. 30A gofynodd yr Iesu iddo, Pa beth yw dy enw di? Ac efe a ddywedodd, Lleng, canys cythreuliaid lawer a aethent i mewn iddo. 31A deisyfiasant Arno na orchymynai iddynt fyned ymaith i’r dyfnder. 32Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y mynydd; a deisyfiasant Arno ganiattau iddynt fyned i mewn iddynt hwy; a chaniattaodd iddynt. 33Ac wedi myned o’r cythreuliaid allan o’r dyn, aethant i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn i’r llyn, a boddwyd hwynt. 34A chan weled o’r meichiaid yr hyn a ddigwyddodd, ffoisant a mynegasant yn y ddinas ac yn y wlad. 35Ac aethant allan i weled yr hyn a ddigwyddasai; a daethant at yr Iesu, ac yn ei eistedd y cawsant y dyn o’r hwn y bu i’r cythreuliaid fyned allan, wedi ei wisgo, ac yn ei iawn bwyll, wrth draed yr Iesu; a dychrynwyd hwynt. 36Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd yr iachasid y cythreulig. 37Ac Iddo y gofynodd yr holl liaws o gylch gwlad y Geraseniaid, i fyned ymaith oddi wrthynt, canys ag ofn mawr y daliwyd hwynt; ac Efe, wedi myned i mewn i’r cwch, a ddychwelodd. 38A deisyf Arno a wnaeth y gŵr o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, am fod gydag Ef: ond gollyngodd Efe ef ymaith, gan ddywedyd, 39Dychwel i’th dŷ, ac adrodda faint a wnaeth Duw i ti. Ac ymaith yr aeth efe, dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas, faint a wnaethai yr Iesu iddo.
40Ac wrth ddychwelyd o’r Iesu, derbyniodd y dyrfa Ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl am Dano. 41Ac wele, daeth gŵr a’i enw Iair; ac efe, llywodraethwr y sunagog ydoedd; ac wedi syrthio wrth draed yr Iesu, 42attolygodd Iddo ddyfod i mewn i’w dŷ, canys merch unig-anedig oedd ganddo, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw; ac wrth fyned o Hono y torfeydd a’i gwasgent Ef.
43A gwraig yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar feddygon ei holl fywyd, ni allai gael gan neb ei hiachau; 44ac wedi dyfod Atto o’r tu cefn, cyffyrddodd ag ymyl ei gochl, ac yn uniawn y safodd diferlif ei gwaed. 45A dywedodd yr Iesu, Pwy yw’r hwn a gyffyrddodd â Mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y torfeydd a’th warchaeant ac a bwysant Arnat. 46A’r Iesu a ddywedodd, cyffwrdd â Mi a wnaeth rhyw un; canys Mi a ganfyddais allu yn myned allan o Honof. 47A chan weled o’r wraig nad oedd hi guddiedig, dan grynu y daeth, ac wedi syrthio ger Ei fron, mynegodd yngwydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag Ef, ac fel yr iachasid hi yn uniawn. 48Ac Efe a ddywedodd wrthi, O ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
49Ac Efe etto yn llefaru, daeth un o dŷ yr arch-sunagogydd, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: na phoena yr Athraw. 50A’r Iesu wedi clywed hyn a attebodd iddo, Nac ofna; cred yn unig, ac iacheir hi. 51Ac wedi dyfod i’r tŷ, ni adawodd i neb fyned i mewn gydag Ef, oddieithr Petr ac Ioan ac Iago, a thad yr eneth ac ei mam. 52A gwylo yr oeddynt oll, a chwynfan am dani. Ac Efe a ddywedodd, Na wylwch, canys ni bu farw, eithr cysgu y mae. 53A chwarddasant am Ei ben, gan wybod ei marw hi. 54Ac Efe, wedi ymaflyd yn ei llaw, a lefodd, gan ddywedyd, Eneth, cyfod. 55A dychwelodd ei hyspryd, a chyfododd hi yn uniawn; a gorchymynodd Efe y rhodder iddi beth i’w fwytta. 56A synnodd ei rhieni; ac Efe a orchymynodd iddynt na ddywedent wrth neb yr hyn a ddigwyddasai.

Dewis Presennol:

S. Luc 8: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda