Salmau 50
50
SALM L
GER BRON BRAWDLE DUW.
Salm Asaph.
1-6: Duw yn ymddangos yn Sion i gyhoeddi barn yn erbyn Ei bobl.
1Llefarodd Iehofa, Duw y duwiau: Galwodd ar y ddaear
O’r Dwyrain pell hyd y Gorllewin.
2Duw sydd yn dyfod allan o Sion, perffeithrwydd tegwch,
Gyda disgleirdeb mawr.
3Y mae ein Duw yn dyfod, — ni ellir ei ddistewi,
O’i flaen tân sydd yn ysu,
O’i amgylch y mae drycin enbyd.
4Geilw ar y nefoedd uchod, ac ar y ddaear
I’r farn ar Ei bobl.
5Cesglwch ato Ei saint
A wnaeth gyfamod ag Ef trwy aberth.
6Cyhoedded y nefoedd Ei gyfiawnder,
Canys Duw cyfiawn yw Ef.
7-15: Nid yw Duw yn chwenychu aberthau.
7“Fy mhobl, clywch: rho gennad i Mi lefaru, O Israel,
Yn dy erbyn di y tystiolaethaf:
Duw, dy Dduw di, ydwyf Fi.
8Nid am dy aberthau y rhoddaf iti gerydd, —
Y mae dy boethoffrymau yn wastad o’m blaen.
9Ni chymeraf fustach o’th feudy,
Na bwch gafr o’th gorlan.
10Canys Myfi piau holl fwystfilod y coed,
A’r miloedd gwartheg ar y mynyddoedd.
11Yr wyf fi’n adnabod holl adar y nefoedd,
A’m meddiant i yw ymlusgiaid y maes.
12Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf wrthyt ti,
Canys Myfi piau’r byd a’i gyflawnder.
13A fwytâf Fi gig teirw
Neu yfed waed geifr?
14I Dduw rho aberth moliant,
I’r Arglwydd tâl dy addunedau.
15Galw arnaf yn nydd trallod,
Gwaredaf di, a thithau a’m hanrhydeddi.”
16-23: Ffiaidd gan Dduw yw rhagrith crefyddol.
16Ond dyma a ddywed Duw wrth yr annuwiol:
“Tydi o bawb yn adrodd fy neddfau,
Ac yn sôn am gadw Fy nghyfamod!
17Yr wyt ti’n casáu Fy awdurdod,
Ac yn dirmygu Fy ngeiriau.
18Pan weli leidr yr wyt ti wrth dy fodd,
A chyfaill wyt i odinebwyr.
19Bwrw allan ddrygioni y mae dy safn di,
A phlethu dichell y mae dy dafod di.
20Dywedi bethau cywilyddus yn erbyn dy frawd,
A rhoddi absen i fab dy fam dy hun.
21Dyma’r pethau a wnaethost, ac am Fy mod yn dawel,
Tybiaist Fy mod yn debyg i ti.
Ond argyhoeddaf di, a dangosaf yn eglur i ti.
22Chwi anghofwyr Duw, deellwch hyn,
Rhag i Mi eich rhwygo heb neb i’ch gwared chwi.
23Y gŵr a ddyry i mi aberth diolch sydd yn fy anrhydeddu;
A dangosaf Fy iechydwriaeth
I’r gŵr a chyfeiriad ei fywyd yn iawn”.
salm l
Salm ac ynddi olion amlwg dysgeidiaeth y proffwydi diweddar. Cynnal Duw Ei frawdlys, a geilw ar nefoedd a daear yn dystion, a chrefydd ddi-fudd a chrefydd ragrithiol yw’r cyhuddiadau yn erbyn yr anffyddloniaid. Aberth moliant ac adduned yn unig sydd dderbyniol.
Nodiadau
1—6. Gelwir ar yr holl ddaear yn dyst i edrych ar Dduw yn barnu Ei bobl. Gelwir ar y nefoedd uchod, ac efallai wrth hyn y golygir Moses a henuriaid Israel; y maent hwy ynghyd â’r saint i fod yn dystion o ddedfryd Duw. Y mae awgrym fod y Deml eto ar ei thraed, canys o Sion, preswylfa y Brenin y daw Duw, ac fel arfer, darlunir ef yn dyfod mewn cynnwrf a thymestl. Yng ngoleuni y cyfamod y cyhoeddir hwynt yn euog neu’n ddieuog.
7—15. Nid am gysondeb ac amldra’r aberthau y condemnir hwynt, canys nid oedd ball yn hynny o beth, ond oherwydd iddynt gamddeall ystyr gwir aberth. Nid derbyniol gan Dduw yr aberthau mwyaf dewisol, sef bustach a geifr, canys perthynas y bobl â Duw a benderfyna gwerth eu hebyrth. A pha beth a all dyn ei aberthu i Dduw sydd a’r holl fyd yn eiddo iddo? Wrth ‘aberth moliant’ y golygir nid emynau mawl a diolchgarwch, ond unrhyw aberth a roir yn wirfoddol. Nid oedd ystyr i Dduw i’r ebyrth gorfod, ond ebyrth a oedd yn fynegiant o gariad a diolchgarwch calon dyn. Felly nid yw’r Salmydd yn condemnio pob math ar aberthau, yr aberthau hynny a roir er mwyn cyflawni defod a gorchymyn yn unig, a gondemnir.
16—23. Y mae cyfeiriad pendant yma at y Deg Gorchymyn, yn arbennig at y 7, 8 a’r 9 gorchymyn. Rhyfygu fwyfwy a wnaethant oherwydd bod Duw yn dawel, yn gadael eu pechodau yn ddi-gosb. Y mae’r frawddeg olaf yn adnod 23 yn anodd iawn, ond dyry’r cyfieithiad uchod yr ystyr yn weddol glir.
Pynciau i’w Trafod:
1. Gwelwch Pwnc 2 yn Salm 40. A ydyw dysgeidiaeth y Salm hon am aberth yn wahanol i ddysgeidiaeth y Salm honno? Caniateir yma ‘aberth moliant’.
2. Beth ydyw gwasanaeth defodau a seremonïau ynglŷn â chrefydd? A ydyw’r gri am fwy o ddefodaeth yn un iach? Defodau ac nid aberthau sydd yn cynrychioli i ni heddiw allanolion crefydd.
3. Beth yw penyd mawr rhagrith crefyddol? Ad. 21. “Tybiaist fy mod yn debyg i ti”.
Dewis Presennol:
Salmau 50: SLV
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.