Salmau 51
51
SALM LI
FFORDD Y PURO.
‘O Lyfr Canu’r Pencerdd.’
Salm Dafydd, pan ddaeth y proffwyd Nathan ato, ar ôl iddo ymweld â Bathseba.
1Yn dy drugaredd, bydd rasol wrthyf, O Dduw,
Yn Dy dosturi mawr dilea fy nghamweddau.
2Golch fi’n llwyr oddi wrth fy mai,
A glanha fi oddi wrth fy mhechod.
3Yr wyf yn adnabod fy nghamwedd,
Ac yn f’ymyl yn wastad mae fy mhechod.
4Yn Dy erbyn Di y pechais,
Ac o’th flaen Di y gwneuthum fawrddrwg.
Cyfiawn yn wir yw Dy orchymynion Di,
A phur yw Dy farnedigaethau.
5Wele, mewn bai y’m ganed,
Ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6Gwirionedd yn y galon a hoffi Di,
Am hynny rho i mi wybod cyfrinach gwir ddoethineb.
7Glanha fi ag isop, a phur fyddaf,
Golch fi’n wynnach nag eira.
8Llanw fi â gorfoledd a llawenydd,
A llawenyched yr esgyrn a ddrylliaist.
9Cuddia Dy wyneb oddi wrth fy mhechodau,
A dilea fy holl feiau.
10Crea galon lân ynof, O Dduw,
A rho i mi ysbryd newydd diysgog.
11Na fwrw fi o’th bresenoldeb,
Ac nac atal Dy Ysbryd santaidd rhagof.
12Adfer i mi lawenydd Dy gymorth,
A chynnal fi â’th Ysbryd ardderchog.
13Dysgaf Dy ffyrdd i droseddwyr,
A phechaduriaid a dry atat.
14Rhag tywallt gwaed, gwared fi, O Dduw, fy Ngwaredwr,
A’m tafod a seinia Dy ffyddlondeb.
15Agor fy ngwefusau, O Arglwydd,
A’m geneuau a fynega Dy foliant.
16Canys ni chwenychi aberth,
Poethoffrwm ni fynni.
17Aberth Duw ydyw ysbryd drylliedig,
Calon ddrylliog ysig, O Dduw, ni ddirmygi.
18Yn Dy garedigrwydd gwna dda i Sion,
Adeilada furiau Ieriwsalem.
19Yna hyfryd gennyt fydd yr aberthau priodol, sef poethoffrwm a llosg aberth;
Yna offrymir bustych ar Dy allor.
salm li
Un o’r Salmau edifeiriol. Ni ellir rhoddi dim coel ar y teitl, ac fe’i rhoddwyd yma gan un a fu’n myfyrio ar hanes Dafydd, a chredu ohono mai addas a fyddai’r Salm hon yn ei enau ar ôl ei bechod deublyg ynglŷn â Bathseba ac Urias.
Fe dybir nad profiad ungwr sydd yma, ond profiad cenedl gyfan neu gynulleidfa Israel, a thrafodir y pwnc diddorol hwn yn y Rhagymadrodd.
Nodiadau
1—4. Defnyddir yma dri gair am bechod: Camwedd yn cynnwys y syniad o wrthryfel yn erbyn Duw a’i Gyfraith. Bai yn golygu gwyro oddi wrth uniondeb, a Pechod yn golygu methu â chyrraedd nod ac amcan bywyd.
Yn gyfochrog a’r tri gair hyn am bechod dodir tri gair am drugaredd Duw: Dileu, Golchi, Glanhau: Y cyntaf yn golygu symud staen, yr ail symud fudreddi o ddillad bryntion, a defnyddir y trydydd ynglŷn â chyhoeddi gwahanglwyf yn lân o’i haint.
Nid peth ysgafn yw pechod i’r Salmydd hwn, — y mae’n staenio dyn, yn ei lygru a’i wneud yn aflan. Nid digon diwydrwydd ynglŷn â defodau i’w symud, rhaid wrth ffafr Duw a’i ras. Y mae ei dinc yma yn llwyr Efengylaidd. A meddwl ffieiddied yw ei bechod, nid oes amau tegwch Duw yn ei farnu.
5—9. Nid oes yma gyfeiriad at ‘bechod gwreiddiol’. Efallai fod Es. 43:27 yn ei feddwl. Etifeddodd fel pob dyn dueddiadau pechadurus, ond nid oes sôn yn yr Hen Destament am ddyn yn etifeddu euogrwydd pechod. Dyry’r Salmydd y pwyslais i gyd ar ei bechod ei hun, er mwyn grymuso ei apêl at drugaredd Duw. Nid oes sicrwydd am ystyr ‘isop’, ond fe’i defnyddid yn y seremonïau glanhau, — tybir mai llysieuyn tebyg i ‘fintys y creigiau’ ydoedd. Gorfoledd a llawenydd ydyw canlyniad gollyngdod oddi wrth euogrwydd pechod. Cyffelybir cnofeydd cydwybod i ddryllio esgyrn.
Yn adn. 9 ceir syniad arall am agwedd Duw tuag at bechod, sef cuddio ei wyneb rhagddo a pheidio â’i ystyried.
10-14. Yr Ysbryd Dwyfol a olygir wrth ‘Ysbryd santaidd’ ac ‘Ysbryd ardderchog’ yn 11 a 12. (Gwêl Es. 63:10, 11), cynrychiolydd Iehofa ydyw a sicrwydd Ei bresenoldeb. Ef a arweiniodd y genedl drwy’r anialwch, ac Ef sydd yn ei harwain i bresenoldeb Duw.
O gael y mwynder hwn gan Dduw try yn genhadwr dros Dduw i ddwyn y gwrthgiliwr yn Israel ato.
Gweddïa am ei wared rhag angau, yn llythrennol ‘rhag gwaed’. Deil rhai mai’r ystyr ydyw ‘rhag cosb am dywallt gwaed’, a dywedir mai addas oedd y weddi hon ar enau Dafydd lofruddiog, ond yr oedd y weithred honno wedi ei chyflawni. Gwell ei ystyried fel ‘unrhyw beth a barai iddo golli ei waed’, hynny yw, a achosai farwolaeth iddo.
15—19. Y mae’n werth cymharu dysgeidiaeth y Salm hon am werth aberth â dysgeidiaeth y Salm o’i blaen. Ychwanegwyd y ddwy adnod olaf gan un a gredai fod yr awdur yn mynd yn rhy bell wrth lwyr ddiystyru aberthau. Y mae esboniad arall yn haeddu sylw: — Priodolir y Salm i gyfnod y Gaethglud — ni allai’r Iddewon aberthu mewn gwlad estron, ond gallent feithrin yr ysbryd oedd yn rhoddi bri ar bob aberth, a phan adeiledir muriau Ieriwsalem drachefn a dychwel ohonynt yn ôl i’w gwlad, a chodi eto yr allorau, yna hyfryd gan Dduw a fyddai yr offrymau gweddus i’r Deml.
Pynciau i’w Trafod:
1. Dywedir nad yw’n hoes ni “yn poeni am ei phechodau”. Ystyriwch hyn yng ngoleuni profiad y Salmydd hwn.
2. A oes yn y Salm hon gyfeiriad at ‘bechod gwreiddiol’? A ydych chwi yn credu’r athrawiaeth honno?
3. Yn adnod 3 y mae’r frawddeg ‘Yn Dy erbyn Di’ yn un gref A ydyw pob pechod yn erbyn dyn yn bechod yn erbyn Duw, a phob pechod yn erbyn Duw yn bechod yn erbyn dyn?
4. Pa oleuni a deifl y termau a ddefnyddiai’r Salmydd hwn am bechod ar ddylanwad pechod ar fywyd?
Dewis Presennol:
Salmau 51: SLV
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.