Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 62

62
SALM LXII
CYFFES YR HYDERUS.
O Lyfr Canu’r Pencerdd. Caner yn null Côr Iedwthwn.
Salm Dafydd.
1 Bydd dawel yn Nuw yn unig, fy enaid;
Ohono Ef y daw fy ngobaith.
2 Ef yn unig yw fy nghraig a’m gwaredigaeth,
Fy uchel dŵr yw, ni’m hysgogir byth.
3O haid o lofruddwyr, pa hyd y bygythiwch ddyn
Fel pe bai ond mur yn gogwyddo, neu bared ar syrthio?
4Bwriadu ynghyd y maent i’m gwthio i lawr o’m safle.
Hoffant gelwydd. Bendith sydd ar eu tafod, ond melltith yn eu calon.
5 Bydd dawel yn Nuw yn unig, fy enaid;
Ohono Ef y daw fy ngobaith.
6 Ef yn unig yw fy nghraig am gwaredigaeth,
Fy uchel dŵr yw, ni’m mawr ysgogir.
7Ar Duw y dibynna fy ngwaredigaeth a’m hanrhydedd,
Duw yw fy nghraig gadarn a’m lloches.
8Holl gynulleidfa’r bobl, ymddiriedwch ynddo.
Tywelltwch eich calonnau o’i flaen.
Duw sydd loches i ni.
9Nid yw’r werin ond gwynt, a’r mawrion ond twyll:
Ynghyd yn y glorian y maent yn ysgafnach nag awel o wynt.
10Na roddwch ymddiried mewn trais, na hyder ar ladrad:
Os cynydda golud na rowch eich calon arno.
11Un peth a ddywedodd Duw, yn wir, clywais ddeubeth:
“Eiddo Duw yw cadernid.
12A thrugaredd sydd eiddot Ti hefyd, O Arglwydd,
Canys teli i bob dyn yn ôl ei waith”.
salm lxii
Gellir cymharu’r Salm hon â Salm 4 neu 39. Y mae tuedd i briodoli 4 a’r Salm hon i’r un awdur. Y mae yma fynegiant anghymharol o hyder ac ymddiried tawel a digyffro yn Nuw. Ni wyddys ei chyfnod, ond gŵr o ddylanwad sydd yma ynghanol gelynion ffals sydd wedi ymdynghedu i’w fwrw i lawr o’i safle a’i urddas yn y gymdeithas y perthynai iddi.
Nodiadau
1, 2. Cytgan ar ddechrau pennill, ac adroddir yr un gytgan yn 5 a 6. Defnyddia liaws o dermau sy’n britho’r Salmau i fynegi ei hyder llonydd yn Nuw. Anodd mynegi mewn Cymraeg rym brawddeg gyntaf y Salm, — “Yn unig ar Dduw yr wyf yn llonydd”.
3, 4. Bu raid newid tipyn ar y testun i gael y darlleniad uchod, ond cyflea, yn ddiau, ystyr geiriau’r bardd. Ystyriant ef yn eiddil, ac yn hawdd i’w ddinistrio, heb wybod am y cryfder sydd tu cefn iddo yn Nuw. Y mae ffalster yn rhan o’u cynllwyn.
7, 8. Ei urddas a’i anrhydedd yw gogoniant y Salmydd. Y mae y LXX. yn ategu “Holl gynulleidfa’r bobl”.
9, 10. — Gelynion ffals y Salmydd yw’r ‘werin’ a’r ‘mawrion’ yma, — llai na diddim ydynt.
11 a 12. Fe ŵyr y cyfarwydd fod ymadroddion cyffelyb i rhain yn britho llyfr y Diarhebion. Gellir eu cymharu â Thrioedd y Cymry. “Eiddo Duw yw cadernid” oedd y cyntaf peth a glywodd, ac “Eiddo Duw yw trugaredd” yr ail.
Pynciau i’w Trafod:
1. A ydyw’r Salmydd yn 1 a 2 yn dirmygu ymdrechion dyn i ennill tawelwch? Onid ydyw llenyddiaeth, gwasanaeth cymdeithasol etc. yn rhoddi cysur a thawelwch i ddyn mewn adfyd?
2. A ellir rhoddi gormod pwyslais ar ymostyngiad llwyr i ewyllys Duw, a rhy fach ar ymdrech y dyn ei hun?
3. Meddyliwch am danoch eich hunan yn dal swydd o urddas ac anrhydedd, a gelynion cenfigennus yn cynllwyn eich dinistr, a rheini yn wendeg yn eich wyneb, beth a fuasai eich ymarweddiad chwi?
4. Gelwir talu i ddyn yn ôl ei waith yn ‘gyfiawnder’ gennym ni. Yn yr adnod olaf cyfystyr yw cyfiawnder â thrugaredd. A ydyw felly yn ein cylch a’n cymdeithas ni? A geir yn aml drugaredd a chadernid wedi eu priodi yng nghymeriad dyn?

Dewis Presennol:

Salmau 62: SLV

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda