1 Cronicl 17
17
1A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr Arglwydd dan gortynnau. 2Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi.
3A’r noson honno y daeth gair Duw at Nathan, gan ddywedyd, 4Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo. 5Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd. 6Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? 7Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel. 8A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear. 9Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf, 10Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.
11A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef. 12Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth. 13Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di. 14Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair ef a sicrheir byth. 15Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
16A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? 17Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O Dduw; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O Arglwydd Dduw, fel ar gyflwr dyn uchelradd. 18Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was. 19O Arglwydd, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd. 20O Arglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â’n clustiau. 21A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft? 22Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, a aethost yn Dduw iddynt hwy. 23Am hynny yr awr hon, Arglwydd, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist. 24A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di. 25Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di. 26Ac yr awr hon, Arglwydd, ti ydwyt Dduw, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn; 27Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O Arglwydd, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 17: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.