1 Cronicl 18
18
1A darfu wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philistiaid. 2Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.
3Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates. 4A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. 5A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. 6A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth. 7A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. 8Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres.
9A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba; 10Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.
11Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec. 12Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.
13Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
14A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. 15A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; 16A Sadoc mab Ahitub, ac Abimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd; 17Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 18: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.