Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 19

19
1Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel, 2A dywed, Beth yw dy fam? llewes: gorweddodd ymysg llewod, yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon. 3A hi a ddug i fyny un o’i chenawon: efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion. 4Yna y cenhedloedd a glywsant sôn amdano; daliwyd ef yn eu ffos hwynt, a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft. 5A phan welodd iddi ddisgwyl, a darfod am ei gobaith, hi a gymerodd un arall o’i chenawon, ac a’i gwnaeth ef yn llew ieuanc. 6Yntau a dramwyodd ymysg y llewod; efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion. 7Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt, a’u dinasoedd a anrheithiodd efe; ie, anrheithiwyd y tir a’i gyflawnder gan lais ei ruad ef. 8Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o’r taleithiau, ac a daenasant eu rhwyd arno; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt. 9A hwy a’i rhoddasant ef yng ngharchar mewn cadwyni, ac a’i dygasant at frenin Babilon: dygasant ef i amddiffynfeydd, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.
10Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd: ffrwythlon a brigog oedd, oherwydd dyfroedd lawer. 11Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a’i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau. 12Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i’r llawr, a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a’u hysodd. 13Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir cras a sychedig. 14A thân a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.

Dewis Presennol:

Eseciel 19: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda