Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 20

20
1Yn y seithfed flwyddyn, o fewn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â’r Arglwydd, ac a eisteddasant ger fy mron i. 2Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 3Ha fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni fynnaf gennych ymofyn â mi. 4A ferni di hwynt, mab dyn, a ferni di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd-dra eu tadau:
5A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ar y dydd y dewisais Israel, ac y tyngais wrth had tŷ Jacob, ac y’m gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft, pan dyngais wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi; 6Yn y dydd y tyngais wrthynt ar eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft, i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl, yr hon yw gogoniant yr holl diroedd: 7Yna y dywedais wrthynt, Bwriwch ymaith bob un ffieidd-dra ei lygaid, ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 8Er hynny gwrthryfelasant i’m herbyn, ac ni fynnent wrando arnaf: ni fwriasant ymaith ffieidd-dra eu llygaid bob un, ac ni adawsant eilunod yr Aifft. Yna y dywedais, Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd, a gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft. 9Eto gwneuthum er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg; yng ngŵydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy, wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft.
10Am hynny y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, ac a’u dygais hwynt i’r anialwch. 11A rhoddais iddynt fy neddfau, a hysbysais iddynt fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwna hwynt. 12Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau, i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt, a wybod mai myfi yw yr Arglwydd a’u sancteiddiodd hwynt. 13Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i’m herbyn yn yr anialwch: ni rodiasant yn fy neddfau, ond diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr. Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch, i’w difetha hwynt. 14Eto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd. 15Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i’r wlad a roddaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl; honno yw gogoniant yr holl wledydd: 16Oherwydd iddynt ddiystyru fy marnedigaethau, ac na rodiasant yn fy neddfau, ond halogi fy Sabothau: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod. 17Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio, ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch. 18Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, Na rodiwch yn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt, nac ymhalogwch chwaith â’u heilunod hwynt. 19Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: rhodiwch yn fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt: 20Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 21Y meibion hwythau a wrthryfelasant i’m herbyn; yn fy neddfau ni rodiasant, a’m barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt: halogasant fy Sabothau: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch. 22Eto troais heibio fy llaw, a gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd. 23Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a’u taenu hwynt ar hyd y gwledydd; 24Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a’u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau. 25Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt: 26Ac a’u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd.
27Am hynny, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eto yn hyn y’m cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn. 28Canys dygais hwynt i’r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod-offrymau. 29Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn. 30Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd-dra hwynt? 31Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymofynnir â mi gennych. 32Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, Byddwn fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen.
33Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch. 34A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o’r gwledydd y rhai y’ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig. 35A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb. 36Fel yr ymddadleuais â’ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr Arglwydd Dduw. 37A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwym y cyfamod. 38A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar, a’r rhai a droseddant i’m herbyn: dygaf hwynt o wlad eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 39Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â’ch offrymau, ac â’ch eilunod. 40Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr Arglwydd Dduw, yno y’m gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o’r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenffrwyth eich offrymau, gyda’ch holl sanctaidd bethau. 41Byddaf fodlon i chwi gyda’ch arogl peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a’ch casglu chwi o’r tiroedd y’ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd. 42Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i’r tir y tyngais am ei roddi i’ch tadau. 43Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch. 44A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
45Daeth drachefn air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 46Gosod dy wyneb, fab dyn, tua’r deau, ie, difera eiriau tua’r deau, a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau; 47A dywed wrth goed y deau, Gwrando air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cynnau ynot ti dân, ac efe a ysa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych: ffagl y fflam ni ddiffydd, a’r holl wynebau o’r deau hyd y gogledd a losgir ynddo. 48A phob cnawd a welant mai myfi yr Arglwydd a’i cyneuais: nis diffoddir ef. 49Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, y maent hwy yn dywedyd amdanaf, Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?

Dewis Presennol:

Eseciel 20: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda