Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 14

14
1Ymchwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd. 2Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr Arglwydd: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau. 3Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.
4Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho. 5Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus. 6Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus. 7Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus. 8Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di. 9Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr Arglwydd, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.

Dewis Presennol:

Hosea 14: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda