Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Joel 1

1
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel. 2Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau? 3Mynegwch hyn i’ch plant, a’ch plant i’w plant hwythau, a’u plant hwythau i genhedlaeth arall. 4Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust. 5Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min. 6Oherwydd cenhedlaeth gref annifeiriol a ddaeth i fyny ar fy nhir; dannedd llew yw ei dannedd, a childdannedd hen lew sydd iddi. 7Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a’m ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
8Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid. 9Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod: y mae yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, yn galaru. 10Difrodwyd y maes, y ddaear a alara; canys gwnaethpwyd difrod ar yr ŷd: sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew. 11Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes. 12Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a’r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion. 13Ymwregyswch a griddfenwch, chwi offeiriaid; udwch, weinidogion yr allor; deuwch, weinidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sachliain: canys atelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd, a’r offrwm diod.
14Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd; 15Och o’r diwrnod! canys dydd yr Arglwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw. 16Oni thorrwyd yng ngŵydd ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, y llawenydd, a’r digrifwch? 17Pydrodd yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd. 18O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd. 19Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys y tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes. 20Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.

Dewis Presennol:

Joel 1: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda