Luc 17
17
1A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Ni ddichon na ddêl maglau, eithr gwae’r hwn y deuant drwyddo; 2buddiol iddo ef fyddai fod maen melin wedi ei ddodi o amgylch ei wddf, a’i fod wedi ei fwrw i’r môr, yn hytrach nag iddo faglu un o’r rhai bychain hyn. 3Edrychwch atoch eich hunain. Os pecha dy frawd, cerydda ef, ac os edifarhâ, maddau iddo; 4ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd a throi atat seithwaith, gan ddywedyd, ‘Mae’n edifar gennyf,’ ti faddeui iddo.” 5A dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd, “Chwanega at ein ffydd ni.” 6A dywedodd yr Arglwydd, “A bwrw bod gennych ffydd megis hedyn mwstard, chwi ddywedech wrth y ferwydden hon, ‘Dadwreiddier di, a phlanner di yn y môr’; a hi ufuddhâi i chwi. 7Pwy ohonoch, a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho wedi iddo ddyfod i mewn o’r maes, ‘Brysia a thyred ac eistedd wrth y bwrdd’? 8Eithr oni ddywed wrtho, ‘Hwylia swper i mi ac ymwregysa a gweinydda arnaf nes imi fwyta ac yfed, ac wedi hynny cei dithau fwyta ac yfed’? 9A yw’n ddiolchgar i’r gwas am iddo wneuthur y pethau a orchmynnwyd? 10Felly chwithau hefyd, wedi ichwi wneuthur popeth a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, ‘Gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom’.”
11A digwyddodd, wrth deithio i Gaersalem, iddo dramwy rhwng Samaria a Galilea. 12Ac wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, cyfarfu ag ef ddeg o wahangleifion, y rhai a safodd o bell; 13a hwy godasant eu llef, gan ddywedyd, “Iesu Feistr, trugarha wrthym.” 14Ac wedi iddo’u gweled, fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid.” A phan oeddent ar y ffordd fe’u glanhawyd. 15A phan welodd ei fod wedi ei iacháu, fe ddychwelodd un ohonynt dan ogoneddu Duw â llef uchel, 16a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed, a diolch iddo. A Samariad oedd hwnnw. 17Atebodd yr Iesu, a dywedyd, “Oni lanhawyd y deg? Ond ple mae’r naw? 18Oni chafwyd i ddychwelyd i roi gogoniant i Dduw neb oddieithr yr estron hwn?” 19A dywedodd wrtho, “Cyfod a dos ymaith; dy ffydd a’th iachaodd.”
20Pan ofynnwyd iddo gan y Phariseaid pa bryd yr oedd teyrnas Dduw yn dyfod, fe atebodd iddynt, “Nid yw teyrnas Dduw yn dyfod pan fo gwylio, 21ac ni ddywedant, ‘Wele yma!’ neu ‘Acw!’ Canys wele, o’ch mewn chwi#17:21 Neu efallai yn eich mysg chwi y mae teyrnas Dduw.” 22A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch. 23A dywedant wrthych, ‘Dacw! Dyma!’ Nac ewch o’ch ffordd, nac erlid ar eu hôl. 24Canys fel y mae’r fellten wrth fflachio yn goleuo o’r naill gwr dan y nen i’r llall, felly y bydd Mab y dyn yn ei ddydd ef. 25Ond yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, ai wrthod gan y genhedlaeth hon. 26Ac fel y bu yn nyddiau Nöe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn; 27yr oeddent yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cymryd gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, a daeth y diluw a’u difetha hwynt oll. 28Yn gyffelyb i fel y bu yn nyddiau Lot; yr oeddent yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; 29a’r dydd yr aeth Lot allan o Sodom, glawiodd dân a brwmstan o’r nef a’u difetha hwynt oll. 30Felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn. 31Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar nen y tŷ, a’i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgynned i’w cyrchu, a’r dyn yn y maes yr un modd, na ddychweled yn ei ôl. 32Cofiwch wraig Lot. 33Pwy bynnag a geisio gadw ei fywyd, a’i cyll, a phwy bynnag a’i collo, a’i ceidw’n fyw. 34Meddaf i chwi, y nos honno bydd dau mewn un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 35Bydd dwy yn malu gyda’i gilydd; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.” 37Ac atebasant, a dywedyd wrtho, “Pa le, Arglwydd?” Dywedodd yntau wrthynt, “Lle bo’r corff, yno yr ymgasgl y fwlturiaid.”
Dewis Presennol:
Luc 17: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945