Luc 5
5
1A phan oedd y bobl yn gwasgu ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau’n sefyll wrth lyn Gennesaret; 2a gwelodd ddwy long yn sefyll wrth y llyn; yr oedd y pysgodwyr wedi disgyn ohonynt ac yn golchi’r rhwydau. 3Ac aeth i mewn i un o’r llongau, sef un Simon, a gofynnodd iddo wthio ychydig oddi wrth y tir; ac wedi eistedd, fe ddechreuodd ddysgu’r tyrfaoedd o’r llong. 4A phan orffennodd lefaru, dywedodd wrth Simon, “Gwthia i’r dwfn; a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.” 5Ac atebodd Simon, “Meistr, trwy gydol nos y llafuriasom, heb ddal dim; ond ar dy air di, mi ollyngaf y rhwydau.” 6Ac wedi iddynt wneuthur hyn, caeasant am liaws mawr o bysgod; ac yr oedd eu rhwydau yn rhwygo. 7Ac amneidiasant ar eu cymdeithion yn y llong arall i ddyfod i’w cynorthwyo; a daethant, a llanwasant y ddwy long, nes eu bod yn dechrau suddo. 8A phan welodd Simon Pedr, fe syrthiodd wrth liniau Iesu, gan ddywedyd, “Dos ymaith oddi wrthyf i, canys dyn pechadurus wyf, Arglwydd.” 9Oblegid arswyd a ddaethai arno, ac ar bawb a oedd gydag ef, wrth y ddalfa bysgod a gawsent, 10a’r un ffunud ar Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn gyfranogion â Simon. A dywedodd Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan, ti fyddi’n dal dynion.” 11Ac wedi dwyn y llongau i dir, gadawsant y cwbl a’i ddilyn ef.
12A phan oedd ef yn un o’r dinasoedd, dyma ŵr yn llawn gwahanglwyf; ac wrth weled yr Iesu fe syrthiodd ar ei wyneb, a deisyf arno, gan ddywedyd: “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.” 13Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn ebrwydd ymadawodd y gwahanglwyf ag ef. 14Yntau a orchmynnodd iddo na ddywedai wrth neb, “eithr dos ymaith a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yn ôl fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.” 15Ond ymledodd fwyfwy y sôn amdano, ac ymgasglai tyrfaoedd lawer i wrando, ac i’w hiacháu o’u hafiechydon. 16Âi yntau o’r neilltu yn y diffeithleoedd a gweddïo.
17Ac un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y gyfraith, a ddaethai o bob pentref yn Galilea ac Iwdea ac o Gaersalem; ac yr oedd iddo nerth yr Arglwydd i iacháu. 18A dyma wŷr yn dwyn ar wely ddyn a oedd yn barlysedig, a cheisient ei ddwyn i mewn, a’i osod ger ei fron ef. 19Ac wedi methu canfod pa ffordd y dygent ef i mewn oherwydd y dyrfa, esgynasant hyd ar nen y tŷ, a thrwy’r priddlechau gollyngasant ef gyda’r gwely i’r canol o flaen yr Iesu. 20Ac wrth weled eu ffydd hwynt fe ddywedodd, “Ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.” 21A dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid feddwl a dywedyd, “Pwy yw hwn sy’n siarad cableddau? Pwy all faddau pechodau ond Duw yn unig?” 22A phan wybu’r Iesu eu meddyliau hwynt, atebodd iddynt, “Beth a feddyliwch yn eich calonnau? 23Beth sydd hawsaf, ai dywedyd ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau,’ ai dywedyd ‘Cyfod a rhodia’? 24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau — ” eb ef wrth y parlysedig, “Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, a chymer dy wely, a dos adref.” 25Ac ar unwaith fe safodd i fyny ger eu bron, a chodi’r hyn y gorweddai arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw. 26A syfrdandod a ddaeth ar bawb, a gogoneddent Dduw, a llanwyd hwynt o ofn, a dywedasant, “Gwelsom bethau anhygoel heddiw.”
27Ac ar ôl y pethau hyn, aeth allan a chanfu drethwr o’r enw Lefi yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Dilyn fi.” 28Ac fe adawodd bopeth, a chododd, a’i ddilyn ef. 29A gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa fawr o drethwyr, ac o rai eraill a oedd gyda hwynt, yn eistedd wrth y bwrdd. 30A grwgnachai’r Phariseaid a’u hysgrifenyddion wrth ei ddisgyblion, gan ddywedyd, “Paham y bwytewch ac yr yfwch gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?” 31Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai gwael. 32Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.” 33Dywedasant hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio’n fynych; ac yn arfer gweddïau, felly hefyd rhai’r Phariseaid, ond mae dy rai di’n bwyta ac yn yfed.” 34A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A ellwch chwi wneuthur i westeion y briodas ymprydio tra fo’r priodfab gyda hwynt? 35Ond fe ddaw dyddiau, a phan ddygir y priodfab oddi wrthynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.” 36Dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “Ni thyr neb glwt allan o ddilledyn newydd a’i osod ar hen ddilledyn; onid e, fe fydd yn torri’r newydd, a hefyd ni bydd y clwt allan o’r newydd yn cydweddu â’r hen. 37Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin newydd y crwyn, ac yntau a red allan a’r crwyn a ddifethir. 38Ond rhaid rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd. 39Ac nid oes neb wedi iddo yfed hen win yn chwennych newydd; canys, fe ddywed, ‘Yr hen sy dda’;”
Dewis Presennol:
Luc 5: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945