Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 4

4
1Ac Iesu’n llawn o’r Ysbryd Glân a ddychwelodd oddi wrth Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn y diffeithwch 2ddeugain niwrnod, a’r diafol yn ei demtio. Ac ni fwytaodd ddim yn y dyddiau hynny, ac wedi iddynt ddiweddu, daeth arno newyn. 3A dywedodd y diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed wrth y garreg hon am droi’n fara.” 4Ac atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, Nid ar fara’n unig y bydd byw dyn.” 5A dug ef i fyny a dangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd ar amrantiad; 6a dywedodd y diafol wrtho, “I ti y rhof yr awdurdod hwn oll, a’r gogoniant sydd eiddynt, canys i mi y traddodwyd ef, ac i’r neb y mynnwyf y rhoddaf ef. 7Os ymgrymi di gan hynny ger fy mron i, bydd y cwbl yn eiddot ti.” 8Atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, ‘I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi’.” 9A dug ef i Gaersalem, a gosododd ef ar ganllaw’r deml, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma; 10canys y mae’n ysgrifenedig, I’w angylion y gorchymyn ef amdanat i’th gadw, 11a hefyd ar eu dwylo y’th ddaliant, rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.” 12Ac atebodd yr Iesu iddo, “Fe ddywedwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.” 13Ac wedi i’r diafol orffen pob temtiad, ymadawodd ag ef hyd amser cyfaddas.
14A dychwelodd yr Iesu yng ngrym yr Ysbryd i Galilea; a sôn a aeth allan drwy’r holl gymdogaeth amdano. 15Ac yr oedd ef yn dysgu yn eu synagogau hwy, a phawb yn ei anrhydeddu.
16Ac fe ddaeth i Nasara, lle’r oedd wedi ei fagu, ac aeth i mewn yn ôl ei arfer ar ddydd Sabbath i’r synagog, a chododd i ddarllen. 17A rhoed iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac wedi agor y llyfr, fe gafodd y man lle’r oedd yn ysgrifenedig,
18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf i,
achos eneiniodd fi i fynegi newyddion da i dlodion,
danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ryddhâd
ac i ddeillion eu golwg,
i ollwng rhai ysig yn rhydd,
19 i gyhoeddi blwyddyn gymeradwy’r Arglwydd.
20Ac wedi cau’r llyfr a’i roi i’r swyddog, fe eisteddodd; a llygaid pawb yn y synagog oedd yn craffu arno. 21A dechreuodd ddywedyd wrthynt, “Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.” 22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau o ras a ddeuai allan o’i enau ef, ac yn dywedyd, “Onid mab Ioseff yw hwn?” 23A dywedodd wrthynt, “Eithaf tebyg y dywedwch wrthyf y ddihareb hon, ‘Y meddyg, iachâ dy hun; y pethau y clywsom eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna hefyd yma yn dy wlad dy hun’.” 24A dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. 25Mewn gwirionedd meddaf i chwi, Yr oedd llawer o weddwon yn nyddiau Elïas yn Israel, pan gaewyd y nef am dair blynedd a chwe mis, pryd y bu newyn mawr dros yr holl dir; 26ac nid at yr un ohonynt hwy yr anfonwyd Elïas eithr i Sarepta Sidonia at wraig weddw. 27Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd, ac nid yr un ohonynt hwy a lanhawyd, eithr Naiman y Syriad.” 28A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y synagog wrth glywed y pethau hyn, 29a chodasant a bwriasant ef allan o’r ddinas, a’i ddwyn hyd ael y bryn yr adeiladesid eu dinas arno i’w fwrw dros y dibyn. 30Yntau a aeth drwy eu canol, ac i ffwrdd. 31Ac fe ddaeth i lawr i Gapernaum, dinas yng Ngalilea. Ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath; 32a synnent at ei ddysgeidiaeth, canys llefarai gydag awdurdod. 33Ac yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan, ac fe waeddodd â llef uchel, 34“Och, beth sydd rhyngom ni a thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.” 35A cheryddodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, “Taw, a dos allan ohono.” Ac wedi i’r cythraul ei daflu i’r canol, aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo. 36A daeth arswyd ar bawb, a siaradent â’i gilydd gan ddywedyd, “Pa fath lefaru yw hyn? canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn ef yr ysbrydion aflan, ac ânt allan.” 37Ac aeth sôn amdano i bob man drwy’r gymdogaeth.
38Ac wedi cychwyn o’r synagog fe aeth i dŷ Simon; ac yr oedd chwegr Simon yn dioddef dan dwymyn dost, a deisyfasant arno drosti. 39Ac fe safodd uwch ei phen, a cheryddu’r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; cododd hithau ar unwaith, a mynd i weini arnynt. 40A chyda machlud haul, pawb a chanddynt gleifion dan amrywiol anhwylderau a’u dug hwynt ato; yntau, gan osod ei ddwylo ar bob un ohonynt, a’u hiachâi hwynt. 41Ac âi cythreuliaid hefyd allan o lawer, dan grochlefain a dywedyd, “Ti yw Mab Duw.” A cheryddodd hwynt, ac ni adai iddynt siarad, gan y gwyddent mai ef oedd y Crist.
42Ac wedi iddi ddyddio, fe aeth allan a myned i le anghyfannedd; a chwiliai’r tyrfaoedd amdano, a daethant hyd ato; a cheisient ei atal rhag mynd oddi wrthynt. 43Dywedodd yntau wrthynt, “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw i’r dinasoedd eraill hefyd, canys i hyn y’m danfonwyd.” 44Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Iwdea.

Dewis Presennol:

Luc 4: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda