Luc 3
3
1Yn y bymthegfed flwyddyn o lywodraeth Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn, llywodraethu Iwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a Phylip ei frawd yn detrarch gwlad Itwrea a Thrachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene, 2yn ystod archoffeiriadaeth Annas a Chaiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sacharïas yn y diffeithwch. 3Ac fe aeth i holl gyffiniau’r Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau, 4fel yr ysgrifennwyd yn llyfr geiriau Eseia’r proffwyd:
Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch,
Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch ei lwybrau ef.
5 Pob cwm a lenwir,
a phob mynydd a bryn a wastateir,
a bydd y lleoedd gŵyrgam yn ffyrdd union,
a’r ffyrdd geirwon yn llyfn;
6 a gwêl pob cnawd iachawdwriaeth Duw
7Felly dywedai wrth y tyrfaoedd a âi allan i’w bedyddio ganddo, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? 8Dygwch, ynteu, ffrwythau teilwng o’ch edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Y mae gennym ni Abraham yn dad’; canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. 9Eisoes yn wir y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr a’i daflu yn tân.” 10A gofynnai’r tyrfaoedd iddo, “Beth, ynteu, a wnawn?” 11Atebai yntau iddynt, “Y neb sydd ganddo ddwy grysbais, rhanned â’r sawl sydd heb yr un, a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.” 12A daeth hefyd drethwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, “Athro, beth a wnawn?” 13Dywedodd yntau wrthynt, “Na chodwch ddim mwy na’r dreth osodedig.” 14A gofynnai milwyr hefyd iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Dywedodd yntau wrthynt, “Na yrrwch ofn ar neb ac na chamachwynwch; a byddwch fodlon ar eich cyflogau.”
15A’r bobl yn disgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonnau ynghylch Ioan, ai ef tybed oedd y Crist, 16atebodd Ioan iddynt oll, “Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio â dwfr; ond y mae fy nghryfach yn dyfod, un nad wyf deilwng i ddatod carrai ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân; 17a’i wyntyll sydd yn ei law, i lwyr-lanhau ei lawr dyrnu, ac i gasglu’r ŷd i’w ysgubor, ond yr us a lysg ef â thân anniffoddadwy.” 18A chan annog llawer o bethau eraill arnynt, efengylai i’r bobl; 19ond Herod y tetrarch, a oedd dan gerydd ganddo am Herodias gwraig ei frawd ac am yr holl ddrygau a wnaethai Herod, 20a chwanegodd hyn hefyd at y cwbl, — carcharodd Ioan.
21Wedi iddo fedyddio’r holl bobl, ac Iesu hefyd wedi ei fedyddio ac yn gweddïo, agorodd y nef, 22a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llef o’r nef, “Ti yw fy Mab annwyl, ynot ti y’m bodlonwyd.” 23Ac Iesu ei hun, i ddechrau, oedd tua deg ar hugain oed, ac yn fab, fel y tybid, i Ioseff, fab Heli, 24fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Iannai, fab Ioseff, 25fab Matathias, fab Amos, fab Nahwm, fab Esli, fab Naggai, 26fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Iosech, fab Ioda, 27fab Ioanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri, 28fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er, 29fab Iesu, fab Elieser, fab Iorim, fab Mathat, fab Lefi, 30fab Simeon, fab Iwda, fab Ioseff, fab Ionam, fab Eliacim, 31fab Melea, fab Menna, fab Matatha, fab Natham, fab Dafydd, 32fab Iessai, fab Iobed, fab Boos, fab Sala, fab Naasson, 33fab Aminadab, fab Admin, fab Arni, fab Esrom, fab Phares, fab Iwda, 34fab Iacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor, 35fab Serwch, fab Rhagaw, fab Phalec, fab Eber, fab Sala, 36fab Cainam, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech, 37fab Mathwsala, fab Enoch, fab Iaret, fab Maleleel, fab Cainam, 38fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.
Dewis Presennol:
Luc 3: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945