Mathew 15
15
1Yna daw at yr Iesu o Gaersalem Phariseaid ac ysgrifenyddion, gan ddywedyd, 2“Paham y trosedda dy ddisgyblion di draddodiad yr hynafiaid? Canys ni olchant eu dwylo pan fwytaont fara.” 3Atebodd yntau iddynt, “Paham y troseddwch chwithau orchymyn Duw oherwydd eich traddodiad chwi? 4Canys dywedodd Duw, Anrhydedda dy dad a’th fam, ac a felltithio dad neu fam lladder ef yn farw. 5Ond dywedwch chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Offrwm yw hynny o fudd a gawsit gennyf i, nid yw i anrhydeddu ei dad neu ei fam; 6a gwnaethoch air Duw’n ddirym oherwydd eich traddodiad chwi. 7Ragrithwyr, gwych y proffwydodd Eseia amdanoch,
8 Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda,
ond eu calon sydd bell oddi wrthyf;
9 ond yn ofer y’m haddolant,
gan ddysgu fel athrawiaethau osodiadau dynion.”
10Ac wedi galw ato’r dyrfa, dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deellwch: 11nid yr hyn sy’n mynd i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hynny sy’n halogi dyn.” 12Yna daeth y disgyblion ato, a dywedyd wrtho, “A wyddost ti i’r Phariseaid dramgwyddo wrth glywed yr ymadrodd?” 13Atebodd yntau, “Pob planhigyn nis plannodd fy Nhad nefol a ddiwreiddir. 14Gedwch iddynt: arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a dywys ddall, syrthiant ill dau i bwll.” 15Atebodd Pedr a dywedodd wrtho, “Eglura i ni’r ddameg.” 16Dywedodd yntau, “A ydych chwithau o hyd yn ddi-ddeall? 17Oni welwch chwi fod popeth a êl i mewn i’r genau yn mynd i’r cylla, ac y bwrir ef allan i’r geudy? 18Ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant, a’r rheini sy’n halogi dyn. 19Canys o’r galon y daw allan feddyliau drwg, llofruddiaethau, godinebau, anniweirdeb, lladradau, gau-dystiolaethau, cableddau. 20Dyna’r pethau sy’n halogi dyn; ond bwyta â dwylo heb eu golchi nid yw’n halogi dyn.”
21Ac aeth yr Iesu oddi yno, ac ymneilltuodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22A dyna wraig o Gananëes o’r gororau hynny yn dyfod allan ac yn gweiddi gan ddywedyd, “Tosturia wrthyf, Arglwydd, fab Dafydd; blinir fy merch yn arw gan gythraul.” Yntau nid atebodd iddi air. 23A daeth ei ddisgyblion ymlaen, a gofyn iddo, “Gollwng hi ymaith, canys y mae hi’n llefain o’n hôl.” 24Atebodd yntau, a dywedodd, “Ni’m danfonwyd ond at ddefaid colledig tŷ Israel.” 25Daeth hithau, ac ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Syr, cymorth fi.” 26Atebodd yntau, “Nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.” 27Atebodd hithau, “Ydyw, Syr; canys y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” 28Yna atebodd yr Iesu a dywedodd wrthi, “O wraig, mawr yw dy ffydd; boed i ti fel y mynni.” Ac iachawyd ei merch o’r awr honno.
29A symudodd yr Iesu oddi yno a daeth gerllaw môr Galilea, ac wedi esgyn i’r mynydd eisteddodd yno. 30A daeth ato dyrfaoedd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, anafusion, deillion, mudion, a llawer eraill, a bwriasant hwynt wrth ei draed ef; ac fe’u hiachaodd hwynt; 31nes synnu o’r dyrfa weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio a deillion yn gweled; a gogoneddent Dduw Israel.
32A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato a dywedodd, “Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta; a’u gollwng ar eu cythlwng nis mynnaf, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.” 33Ac medd ei ddisgyblion wrtho, “O ba le y cawn ni mewn diffeithwch ddigon o fara i ddiwallu cymaint o dyrfa?” 34Ac medd yr Iesu wrthynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith, ac ychydig o fân bysgod.” 35Ac wedi gorchymyn i’r dyrfa eistedd ar y ddaear, 36fe gymerth y saith dorth a’r pysgod, ac wedi diolch, torrodd hwynt, a’u rhoi i’r disgyblion, a’r disgyblion yn rhoi i’r tyrfaoedd. 37A bwytaodd pawb ac fe’u diwallwyd, a gweddill y darnau a godasant yn saith gawellaid llawn. 38A’r bwytawyr oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39Ac wedi iddo ollwng y tyrfaoedd, fe aeth i’r llong a daeth i ororau Magadan.
Dewis Presennol:
Mathew 15: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945