Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 16

16
1A daeth y Phariseaid a’r Sadwceaid ato i’w brofi, a gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd, o’r nef. 2Atebodd yntau, “[Pan ddêl yr hwyr chwi ddywedwch, ‘Hindda fydd, canys coch yw’r awyr’; 3ac yn y bore ‘Heddiw drycin fydd, canys coch wgus yw’r awyr,’ Chwi ellwch ddirnad wyneb yr awyr, ond arwyddion yr amserau nis medrwch.]#16:3 Ni cheir y geiriau rhwng cromfachau yn y mwyafrif o’r llawysgrifau hynaf. 4Cenhedlaeth ddrwg a godinebus#16:4 Gwel, xii, 39. sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd. Ionas.” A gadawodd hwynt ac aeth ymaith. 5Ac erbyn i’r disgyblion fyned i’r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dyfod â bara. 6A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gwyliwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.” 7Ymresyment hwythau yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, “Am na ddaethom ni â bara!” 8A gwybu’r Iesu, a dywedodd, “Paham yr ymresymwch yn eich plith eich hunain, rai bychain eu ffydd, am nad oes gennych fara? 9Onid ydych yn deall eto, ac onid ydych yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch? 10Na saith dorth y pedair mil a pha sawl cawellaid a gawsoch? 11Pa fodd na welwch nad am fara y dywedais wrthych? Ond ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.” 12Yna y deallasant na ddywedodd wrthynt am ymogelu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.
13Ac wedi i’r Iesu ddyfod i dueddau Cesarea Philippi, gofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy medd dynion yw Mab y dyn?” 14Dywedasant hwythau, “Rhai Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill Ieremïas neu un o’r proffwydi.” 15Medd ef wrthynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” 16Atebodd Simon Pedr, “Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.” 17Atebodd yr Iesu iddo, “Gwyn dy fyd di, Simon Barionas, canys nid cig a gwaed a’i datguddiodd i ti, ond fy Nhad sydd yn y nefoedd. 18A minnau a ddywedaf wrthyt mai Pedr (Craig) wyt ti, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth Annwn ni orfydd arni. 19Rhoddaf i ti allweddau teyrnas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymych ar y ddaear, bydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, bydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.” 20Yna rhybuddiodd ei ddisgyblion na ddywedent wrth neb mai ef oedd y Crist.
21O hynny allan dechreuodd Iesu Grist ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Gaersalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi’r trydydd dydd. 22A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu, gan ddywedyd “Nawdd drosot, Arglwydd! Ni chaiff hyn byth fod i ti.” 23Troes yntau, a dywedodd wrth Bedr, “Dos yn fy ôl i, Satan; magl wyt i mi; canys nid ar bethau Duw y mae dy fryd, ond ar bethau dynion.” 24Yna dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi. 25Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, fe’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei fywyd er fy mwyn i, fe’i caiff. 26Canys pa faint gwell fydd dyn, os ennill yr holl fyd, a’i golledu o’i fywyd? Neu, pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd? 27Canys y mae Mab y dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y tâl i bob un yn ôl ei ymddygiad. 28Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled Mab y dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”

Dewis Presennol:

Mathew 16: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda