Mathew 17
17
1Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan ei frawd ef, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu. 2A gweddnewidiwyd ef yn eu gwydd hwynt; a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aeth yn wyn fel y goleuni. 3Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elïas yn ymddiddan ag ef. 4A llefarodd Pedr a dywedodd wrth yr Iesu, “Arglwydd, da yw ein bod ni yma; os mynni, mi wnaf yma dair pabell, i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.” 5Ac yntau eto’n llefaru, dyna gwmwl golau yn eu cysgodi hwynt, a dyma lef o’r cwmwl yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab annwyl#17:5 Gwel. iii, 17. a ryngodd fy modd; gwrandewch arno ef.” 6A phan glywodd y disgyblion syrthiasant ar eu hwynebau, ac ofnasant yn ddirfawr. 7A daeth yr Iesu atynt, a chan gyffwrdd â hwynt dywedodd, “Codwch ac nac ofnwch.” 8Ac wedi dyrchafu eu llygaid ni welsant neb ond Iesu ei hun yn unig. 9Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, “Na ddywedwch i neb y weledigaeth hyd oni chyfodo Mab y dyn o feirw.” 10A gofynnodd y disgyblion iddo, “Paham, ynteu, y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?” 11Atebodd yntau, “Elias yn wir sy’n dyfod ac a adfer bopeth; 12ond meddaf i chwi, fe ddaeth Elïas eisoes, ac nis adnabuant ef, eithr gwnaethant ag ef yr hyn a fynasant. Felly hefyd y mae Mab y dyn ar ddioddef ganddynt.” 13Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai wrthynt.
14Ac wedi eu dyfod at y dyrfa daeth ato ddyn gan benlinio iddo, 15a dywedyd, “Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys y mae’n lloerig ac yn ddrwg ei gyflwr; mynych y syrth i’r tân, a mynych i’r dŵr. 16A dygais ef at dy ddisgyblion, ac ni allasant ei iacháu.” 17Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddiffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef yma i mi.” 18A cheryddodd yr Iesu ef, ac aeth y cythraul allan ohono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno. 19Yna daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, a dywedasant, “Paham na allasom ni ei fwrw allan?” 20Medd yntau wrthynt, “Oherwydd prinder eich ffydd; canys yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd fel hedyn mwstard, chwi ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw,’ ac fe symuda; ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.”
22Ac a hwy’n cyniwair yng Ngalilea dywedodd yr Iesu wrthynt, “Y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion, 23a lladdant ef, ac ar y trydydd dydd fe gyfyd.” A thristáu a wnaethant yn ddirfawr.
24Ac wedi eu dyfod i Gapernaum, daeth casglyddion y ddeuswllt#17:24 Gr., didrachma; swm treth y deml. at Bedr, a dywedasant, “Oni fydd eich athro’n talu’r ddeuswllt?” 25Medd ef, “Bydd.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen gan ddywedyd, “Beth a debygi di, Simon? Gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear drethi neu deyrnged? Ai gan eu meibion, ai gan estroniaid?” 26A phan ddywedodd “Gan estroniaid,” meddai’r Iesu wrtho, “Felly y mae’r meibion yn rhydd. 27Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny, ac wedi agor ei enau ti gei ddarn pedwar swllt; cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof i a thithau.”
Dewis Presennol:
Mathew 17: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945