Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 18

18
1Yr adeg honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, “Pwy, tybed, sy fwyaf yn nheyrnas nefoedd?” 2A galwodd ato blentyn, a gosododd ef yn eu canol, 3a dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, oddieithr eich troi a dyfod fel plant, nid ewch ddim i mewn i deyrnas nefoedd. 4Y neb, gan hynny, a’i darostyngo’i hun fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. 5A phwy bynnag a dderbynio un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i; 6ond pwy bynnag a baro rwystr i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof i, fe dalai iddo fod maen melin mawr#18:6 Gr. maen-melin [a droir gan] asyn wedi ei grogi am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr. 7Gwae’r byd o achos rhwystrau; canys rhaid dyfod rhwystrau, eithr gwae’r dyn y daw’r rhwystr drwyddo. 8Ac os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith a thafl oddi wrthyt; gwell i ti yw myned i mewn i’r bywyd yn anafus neu’n gloff nag â dwy law neu ddau droed gennyt dy daflu i’r tân tragwyddol. 9Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt; gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn unllygeidiog nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân Gehenna.
10Gwyliwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn; canys meddaf i chwi, y mae eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd. 12Beth a debygwch chwi? Os bydd i ryw ddyn gant o ddefaid a chrwydro o un ohonynt, oni edy ef y cant namyn un ar y mynyddoedd a myned i geisio’r grwydredig? 13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, mwy y llawenycha am honno nag am y cant namyn un nad oeddent ar grwydr. 14Felly nid ewyllys eich Tad sydd yn y nefoedd yw colli un o’r rhai bychain hyn.
15Os pecha dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os gwrendy arnat, enillaist dy frawd; 16ac oni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau dyst neu dri y safo pob gair; 17ac os diystyra hwynt, dywed wrth yr eglwys; ac os diystyra’r eglwys hefyd, boed ef i ti megis y cenedl-ddyn a’r trethwr.
18Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhyddhau yn y nef. 19Drachefn yn wir meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear ar ddim oll a’r a ofynnont, fe ddaw iddynt oddi wrth fy Nhad sydd yn y nefoedd. 20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf yn eu canol.”
21Yna daeth Pedr ato a dywedyd wrtho, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy mrawd i bechu yn fy erbyn ac i minnau faddau iddo? ai hyd seithwaith?” 22Medd yr Iesu wrtho, “Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd saith dengwaith saith. 23Am hynny cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a benderfynodd wneuthur cyfrif gyda’i weision. 24Dechreuodd ei wneuthur, a dygwyd un ato a oedd yn ei ddyled o ddeng mil o dalentau. 25A chan nad oedd ganddo fodd i dalu, gorchmynnodd yr arglwydd ei nerthu ef a’i wraig a’i blant a chwbl a feddai, i doddi’r ddyled. 26Yna syrthiodd y gwas a phenlinio iddo, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf y cwbl i ti.’ 27A thosturiodd arglwydd y gwas hwnnw, a rhyddhaodd ef, a maddeuodd y benthyg iddo. 28Aeth y gwas hwnnw allan, a chafodd un o’i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gan swllt, a gafaelodd ynddo, a’i lindagu gan ddywedyd ‘Tâl dy ddyled.’ 29Yna syrthiodd ei gydwas, ac ymbil ag ef, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf i ti.’ 30Ond ni fynnai, eithr aeth a bwriodd ef i garchar hyd oni thalai’r ddyled. 31Yna pan welodd ei gydweision yr hyn a ddigwyddasai, bu ddrwg dros ben ganddynt, ac aethant i hysbysu i’w harglwydd y cwbl a ddigwyddasai. 32Yna galwodd ei arglwydd ef ato, ac medd wrtho, ‘Y gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti, am i ti ymbil â mi; 33oni ddylasit tithau drugarhau wrth dy gydwas, fel y trugarheais innau wrthyt ti?’ 34A’i arglwydd yn ei lid a’i traddododd i’r arteithwyr hyd oni thalai’r cwbl o’i ddyled. 35Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i’w frawd o’ch calon.”

Dewis Presennol:

Mathew 18: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda