Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 38

38
SALM XXXVIII.
M. B. C.
Salm Dafydd — er coffa.
1O Arglwydd! yn dy lid,
O blegid fy anwiredd,
Na chospa fi — ni allaf ddal
Mo ddial dy ddigllonedd.
2Dy saethau sydd o hyd
Ynglŷn wrth f’ ysbryd clwyfus,
A’th law arnaf sy’n drom iawn,
Yr wyf yn llawn ofidus.
3’Does iechyd yn fy nghnawd,
Wyf wan a thlawd o’th ddigter;
Na hedd i’m hesgyrn i’w fwynhau,
O herwydd fy mai ysgeler.
4Camweddau f’ oes is nen,
Hwy dros fy mhen a aethant;
Mae’u baich yn drwm, rhy drwm i mi,
I lawr i’r lli y’m soddant.
5Fy nghleisiau pydru maent,
Llygrasant gan f’ ynfydrwydd;
6Crymwyd, gostyngwyd fi ’n dra mawr —
Yr wyf mewn dirfawr dywydd.
7Fy lwynau sydd yn llawn
Ffieiddglwyf digllawn, rhyfedd;
Ac nid oes iechyd yn fy nghnawd,
O blegid nawd f’ anwiredd.
8Gwanhawyd, drylliwyd fi—
Mawr yw’m trueni weithion;
Rhuais yn isel yn y llwch,
Gan aflonyddwch calon.
Rhan II.
M. S.
9O’th flaen, O Dduw! ’n ddigoll,
Y mae fy holl ddymuniad;
Ni chuddiais fy ngofidus gri,
Oddi wrthyt ti, fy Ngheidwad.
10Fy nghalon, llamu wnaeth,
A’m nerth a aeth oddi wrthyf;
A llewyrch gwiw fy llygaid llaith,
Nid ydyw chwaith ddim genyf.
11Fy nghyfneseifiaid gau,
A’m perthynasau safent,
Draw oddi ar gyfer i fy mhla —
Oddi wrthyf ymbellhäent.
12Y rhai a’m llwyr gasânt,
A osodasant faglau;
Rhai geisient niwed f’ enaid gwan,
Draethasant anwireddau.
Hwynthwy ar hyd y dydd,
Dych’mygion efrydd lunient:
13A mi fel byddar yn y fan,
Ni chlywn hwy pan lefarent.
Yr oeddwn fel y mud
Heb fedru agoryd genau;
14Fel mud a byddar hurt yn syn
Heb atteb yn ei enau.
Rhan III.
M. B. C.
15O herwydd im’, O Dduw!
Roi’m gobaith byw yn wastad,
A’m hyder ynot ti — gwna farn
Ar f’achos, gadarn Geidwad.
16-17Can’s d’wedais, Gwrandaw fi,
Rwy’ bron yn cloffi beunydd;
O hyd mae’m dolur ger fy mron,
A’m holl ofidion cerydd.
18Mynegu ’m bai a wnaf,
Pryderaf am fy mhechod;
19Byw ydynt fy ngelynion llym,
Cedyrn o rym i’m gorfod.
O hyd yr amlhânt,
Y rhai ’m casânt fel gelyn;
20Y rhai dros dda a dalant ddrwg
A ddaliant ŵg i’m herbyn.
Am ’mod i’n dilyn da
Y’m llwyr gasâ’m gelynion —
21O Dduw! fy nerth, nac ymbellhâ;
22I’m gwared, brysia ’n union.
Nodiadau.
Gelwir hon yn Salm Dafydd — er coffa. Un o’i saith salm edifeiriol ydyw, lle y mae efe yn coffa, yn laf, Ei anwireddau a’i bechodau, gyda galar a hunan‐ffieiddiad ger bron Duw o’u herwydd. Yn 2il, Ei drallodau blinion o herwydd ei bechodau. Ymddengys ei fod dan gystudd trwm ar y pryd, neu wedi bod yn ddiweddar felly. 3ydd, Coffa am falais, a dygasedd anghymmodlawn ei elynion tuag ato: y rhai a osodent faglau iddo, a draethent anwireddau am dano, ac a ddychymygent ddichellion yn ei erbyn beunydd. 4ydd, Anffyddlondeb ac angharedigrwydd ei gyfeillion a’i berthynasau; y rhai, fe ymddengys, oeddynt ar yr adeg hono yn troi eu cefnau arno yn ei drallod. 5ed, Coffâ ei obaith a’i hyder yn ei Dduw, fel ei unig gyfaill dianwadal a ffyddlawn, pan wedi ei adael gan bawb; a therfyna mewn gweddi am ei gymmhorth iddo yn ei drallod.
Hon yw y salm fwyaf cwynfanus drwyddi oll o holl salmau Dafydd. Nid oes ynddi nemawr i ddim ond cwynfanau trymion a gofidus. At ba drallod yn neillduol yn ei fywyd y cyfeirir yma, nis gellir penderfynu.

Dewis Presennol:

Salmau 38: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda