Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 39

39
SALM XXXIX.
M. S.
Salm Dafydd, i’r Pencerdd, sef i Ieduthun.
1Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd mau,
Rhag pechu ’n frau â’m tafod;
Mi gadwaf ffrwyn i’m genau ’n dỳn,
Tra’r annuw yn fy ngwyddfod.
2Ac felly ’n hir drwy ddyfal gais,
Mi dewais â daioni;
A dolur f’ ysbryd cyffroi wnaeth,
A’m calon aeth i ferwi.
3Tra ’roeddwn yn myfyrio, tân
A dorodd allan ynof;
Lleferais wedi hyny, aeth
F’adduned gaeth yn anghof.
4Pâr i mi, Arglwydd, wybod hyn,
Sef diwedd sỳn fy nyddiau;
A beth yw mesur hyd fy oes,
Yn myd y groes a’r drygau.
5Fy nyddiau wnaethost fel dwrnfedd,
Daw iddynt ddiwedd ebrwydd;
A diddim yw fy einioes i,
Ger dy fron di, O Arglwydd!
Rhan II.
M. S.
Diau mai cwbl wagedd yw,
Pob dyn byw ar y gorau;
6Mewn cysgod rhodia, ac yn llwyr
Drafferthus hwyr a borau.
Fe dyra olud fwy na mwy,
Heb wybod pwy ’i meddianna;
Ac felly ei fywyd byr ei hyd
Ef yn y byd a dreulia.
7Yn awr, O Arglwydd! beth a wnaf?
Beth a ddisgwyliaf hefyd —
Fy ngobaith ynot ti y sydd,
Ti ’n unig rydd im’ iechyd.
8Gwared, O Dduw! yr enaid mau
O’i holl gamweddau dybryd;
Na âd im’ fyn’d, trwy syrthio i fai,
Yn w’radwydd i’r rhai ynfyd.
9Mi aethum ger dy fron yn fud,
Heb air i’w ddwedyd; canys
Tydi, O Arglwydd! wnaethost hyn,
A thewi ’n sỳn oedd weddus.
Rhan III.
M. S.
10Oddi wrthyf tỳn, O Dduw! ’r awr hon
Dy bla — ’rwyf bron a darfod;
Gan ddyrnod dy law gadarn di,
Mae ’m natur i ’n ymddattod.
11Pan gospit egwan ddyn mewn barn,
Cyfiawn‐farn, am anwiredd,
Dattodit fel na bo i’w gael,
Fel pryfyn gwael, ei fawredd.
Diau mai gwagedd yw pob dyn,
A hyny sy’n wirionedd,
Selah: mi ail ddywedaf hyn —
Nad yw pob dyn ond gwagedd.
12O! gwrandaw, Arglwydd, doed fy llef,
Fry hyd y nef, i’th glustiau;
Na thaw wrth fy wylofain trist,
A dagrau f’ athrist ruddiau.
Ymdeithydd ydwyf yn y byd,
Ac alltud, fel fy nhadau;
13O! paid â mi — gâd im’ gryfhau,
Cyn myn’d i bau yr angau.
Nodiadau.
Gelwir hon, yn bur briodol, y salm angladdol. Darllenir hi fel rhan o wasanaeth claddedigaeth y marw yn mysg Cristionogion yn gyffredinol er amser boreuol iawn. Y mae llais un cystuddiol a gofidus mewn corph a meddwl i’w glywed ynddi. Rhydd y Salmydd yma hanes un o frwydrau ei ryfel ysbrydol — yr ymdrech caled y buasai ynddo i gadw llywodraeth ar ei ysbryd ac ar ei eiriau yn awr y brofedigaeth; teimlai yn awr pa mor anhawdd oedd ymddwyn yn ol y cynghorion a roddasai efe ei hun i ereill yn Salm xxxvii. — pa fodd i ymddwyn yn deilwng mewn amgylchiadau cyffelyb i’r rhai yr oedd efe ynddynt yn awr; ac felly, fod yn llawer haws i un gynghori ereill na gwneyd yn ol y cynghor pan ddelo i’r prawf, fel y nodwyd, ar y salm hono. Arweiniai ei gystudd a’i drallod feddwl y Salmydd i ystyried freued ac ofered yw einioes dyn, ac i weddïo am gael o hono ei addysgu i gadw yr ystyriaeth hono ar ei galon. Nid oes un ystyriaeth yn fwy priodol er ein dysgu yn y ddoethineb o iawn brisio pethau y byd a’r bywyd hwn, ac i dawelu y meddwl yn wyneb croesau a phrofedigaethau, na’r ystyriaeth o freuder a byrder ein heinioes, ac anwadalwch pob peth daearol, ac i’n dwyn i ddewis ac ymofyn am y “rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arnom.”

Dewis Presennol:

Salmau 39: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda