Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 41

41
SALM XLI.
8.7.4.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwyn ei fyd yr hwn ystyrio
Wrth y tlawd, gan wrando ’i lef,
Pan ddêl amser adfyd arno
’R Arglwydd a’i gwareda ef:
2Ceidw’i fywyd, & c.,
A bywha ei ysbryd gwan.
Gwynfydedig ar y ddaear
Fydd dan gysgod nawdd y nef;
I ewyllys ei elynion,
Arglwydd, na ddod dithau ef:
3Nertha ’i galon, & c.,
Pan fo ar ei wely ’n glaf.
Duw gyweiria ei holl wely
’N esmwyth iawn, â’i ddwylaw ’i hun,
Fel y caffo ’r gŵr trugarog
Orphwys arno pan fo’n flin:
4Wrthyf finnau, & c.,
Felly, Arglwydd, trugarhâ.
O! iachâ fy enaid, Arglwydd!
Pechais, ’rwyf yn haeddu ’th ŵg,
5A’m gelynion sydd am danaf
Beunydd yn llefaru drwg:
Bryd y derfydd, & c.,
Meddant, am ei enw ef?
6Ac os daw y gelyn taeog
Ataf, i ymwel’d â mi,
Dywed gelwydd, casgla ’i galon,
Anwireddau fwy na rhi’:
Pan êl allan, & c.,
Traetha ’r anwireddau hyn.
Rhan II.
8.7.4.
7Fy nghaseion gydhustyngant
Yn fy erbyn yn sarhaus;
Yn fy erbyn y dych’mygant
Ddrwg a niwed yn barhaus:
8Aflwydd, meddant, & c.,
A lŷn wrtho, ac ni chwyd.
9’R hwn oedd anwyl genyf, hwnw
Yr hyderwn arno — bu
Wrth fy mwrdd yn bwyta ’m bara,
Godai ’i sawdl i’m herbyn i:
10Ti, O Arglwydd! & c.,
Trugarhâ, a bydd o’m tu.
Cwyd fi fel y talwyf iddynt,
11Felly y gwybyddaf fi
Mod i’n gymmeradwy yn d’ olwg,
Ac yn hoffus genyt ti:
Ni cha’r gelyn, & c.,
Orfoleddu i’m herbyn mwy.
12Ond am danaf fi, mi gredaf
Y cynneli fi yn llon,
Yn f’ uniondeb, gan fy ngosod
Yn dragywydd ger dy fron:
Pan fo’m gelyn, & c.,
Olaf wedi ei ddileu.
13Bendigedig fyddo’r Arglwydd
Dduw, o dragwyddoldeb draw,
Cyn yr oesau hyd ddiderfyn
Oesau ’r tragwyddoldeb ddaw:
Felly y byddo, & c.,
Felly y byddo, byth, Amen.
Nodiadau.
Salm wedi ei chyfansoddi mewn cystudd ydyw hon etto, megys y xxxviii. a’r xxxix. Yn gyntaf, y mae yn bendithio, ac yn gweddïo dros gyfeillion a ddangosasent gydymdeimlad âg ef, a charedigrwydd iddo yn ei gystudd a’i iselder. Sicrha fel ffaith fod sylw caredig Duw yn wastad ar y dynion tosturiol a thrugarog wrth drueiniaid tlodion a chystuddiedig, ac y bydd efe yn dyner a gofalus am y cyfryw pan fyddant mewn cystudd eu hunain; a gweddïa am hyny iddynt. Yn nesaf, y mae yn coffau am ymddygiad angharedig, dideimlad, a chreulawn rhywrai tuag ato yn ei gystudd, oeddynt yn llawenhau yn ei adfyd, ac yn dymuno na chyfodai byth o’i gystudd; ac yn neillduol am ryw rith gyfaill, neu gyfeillion, a ymwelsent âg ef, gan gymmeryd arnynt deimlo a gofidio drosto; ond wedi myned allan, a ddangosent bob llawenydd yn y gobaith y darfyddai am dano. Y mae cyfeillion cywir, cyfeillion mewn adfyd, yn un o fendithion gwerthfawrocaf bywyd, a gau gyfeillion yn un o ffynnonellau chwerwaf gofid dyn da. Un o’r siomedigaethau mwyaf gofidus ydyw y siomedigaeth mewn dyn yr ymddiriedid iddo fel cyfaill mynwesol, ac a gawsai lawer o garedigrwydd oddi ar law yr hwn y tröai yn fradwr iddo! Dichon fod Ahitophel yn neillduol mewn golwg gan y Salmydd yma.
Gweddïa y Salmydd am fod i’w elynion gael eu siomi yn eu disgwyliadau am ei farwolaeth yn y cystudd a’r trallod yr oedd ynddo, ac ymgyssura yn yr hyder yn nhrugaredd Duw iddo mai felly y byddai:— y byddai iddo gael ei gyfodi o’i gystudd i dalu i’w elynion penaf; a’i gynnal, drwy ras, i rodio mewn perffeithrwydd calon ger bron Duw, ac yn y diwedd ei osod a’i sicrhau byth ger ei fron ef mewn gogoniant; ac yn yr hyder hwn, terfyna gan foliannu Duw gyda gwresawgrwydd mawr. “A oes neb yn eich plith mewn adfyd? — gweddïed.” Dyna wnai y Salmydd adfydus bob amser; ac mewn gweddi, a thrwy weddïo yn unig, y byddai efe yn cael ymwared ac esmwythâd.

Dewis Presennol:

Salmau 41: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda