Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 42

42
SALM XLII.
8.7.
I’r Pencerdd, Maschil. i feibion Corah.
1Fel y brefa ’r hydd lluddedig
Am afonydd dyfroedd byw,
Felly yr hiraetha f’ enaid
I am danat ti, O Dduw!
2Am y bywiol Dduw mae ’m calon
Yn sychedu ’r funyd hon —
Bryd caf ddyfod? bryd caf ddyfod,
I ymddangos ger dy fron?
3Dagrau heilltion oedd fy ymborth
Tra dywedent wrthyf fi,
Ddydd a nos fel hyn yn wastad,
P’le mae’th Dduw? — anghofiodd di.
4Ymdywalltai ’m henaid ynof
Wrth adgofio amser fu,
Pan awn gyda ’r gynnulleidfa
I’th foliannu yn dy dŷ.
Rhan II.
8.7.
5Pa’m y’th ddarostyngir, f’ enaid?
Pa’m terfysgi dan fy mron?
Yn dy Dduw gobeithia etto,
Er mor gref yw ’r dymmestl hon;
Etto, ti gei ei foliannu
Gydag adnewyddol flas,
Am yr iachawdwriaeth hyfryd
Sy’n ngwynebpryd pur ei ras.
6F’enaid ymddarostwng ynof;
Ac am hyny cofiaf di,
Yma o diroedd yr Iorddonen,
Acw o fryn Misar fry;
7Dyfnder glywa’i ’n galw ar ddyfnder,
Wrth bistylloedd gwlaw y nen,
Dy holl donau a’th lifeiriaint,
Arglwydd, aethant dros fy mhen.
Rhan III.
8.7.
8Etto ’r Arglwydd a orchymyn
Ei drugaredd im’ liw dydd,
A lliw nos fy nghân a’m gweddi
’N esgyn at Dduw f’ einioes fydd;
9D’wedaf, Duw fy nghraig a’m nodded,
Pa’m ’r anghofiaist fi, dy was?
Pa’m y rhodiaf yn alarus
Dan orthrymder gelyn câs?
10Fel â chleddyf yn fy esgyrn
Mae’m gelynion i’n sarhau,
Pan y d’wedant beunydd wrthyf,
I ble’r aeth dy Dduw? — p’le mae?
11Pa’m y’th ddarostyngir, f’ enaid?
Pa’m terfysgi? — cred yn Nuw:
Canys etto cei ’i foliannu —
Duw dy iachawdwriaeth yw.
Nodiadau.
Y mae y salm hon yn dechreu yr ail o’r pump dosbarth‐ran o’r Salmau, yn ol yr hen ddosbarthiad Hebreaidd, a’r ail dan y teitl ‘Maschil,’ neu salm er addysg; a chyflwynir hi i feibion Corah — dosbarth o gantorion y cyssegr. Mae y tebygolrwydd yn gryf iawn mai pan yr oedd wedi ffoi dros yr Iorddonen, yn amser gwrthryfel Absalom, y cyfansoddodd Dafydd y gân doddedig hon:— y trallod trymaf a chwerwaf o’i holl drallodau. Yr ydym yn ei weled yma fel un ar foddi yn ymdrechu am ei fywyd:— weithiau yn suddo o’r golwg yn y dyfnder, ac yn codi i’r wyneb drachefn, ac yn y diwedd yn cael y lan yn ddihangol. Ei hiraeth angerddol am y cyssegr ac ordinhadau y cyssegr oedd ei deimlad dwysaf o’r cwbl yn ei absennoldeb hwn o Ierusalem. Nid yw yn cwyno dim ar ol mwynderau ei lys, pan yr oedd wedi ei yru yn alltud o hono; ond am y mwynhâd o Dduw yn ei dŷ y sychedai ei enaid, fel yr hydd am yr afonydd dyfroedd. Gall yr enaid duwiol fyw heb bob peth, ond heb ei Dduw.

Dewis Presennol:

Salmau 42: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda