Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 43

43
SALM XLIII.
8.7.
1Barn fi, O Dduw! a dadleu troswy’
’N erbyn cenedl ddrwg ei naws;
Gwared fi o law ’r twyllodrus,
Rhag y dyn anghyfiawn traws;
2Canys ti yw Duw ’m cadernid,
Pa’m y bwri heibio ’th was?
Pa’m yr af fi yn alarus
Dan orthrymder gelyn câs?
3Anfon dy oleuni nefol,
A’th wirionedd oddi fry,
I fy nhywys, a fy arwain,
I dy fynydd, ac i’th dŷ;
4Yna deuaf at dy allor,
Etto mewn gorfoledd gwiw
Canaf i ti ar y delyn,
O fy Nuw! — fy Nuw — fy Nuw!
5Pa’m y’th ddarostyngir, f’ enaid?
Pa’m terfysgi dan fy mron?
Yn dy Dduw gobeithia etto,
Fe ä heibio ’r dymmestl hon;
Ti gei etto ei foliannu,
Mewn llawenydd, ac â chân,
Am yr iachawdwriaeth hyfryd,
Dardd o wedd ei wyneb glân.
Nodiadau.
Parhâd o’r salm flaenorol ydyw hon. Y mae yr un teimlad hiraethus a galarus, yr un ymdrech rhwng ofnau a gobeithion, yn cael eu gosod allan, ac yn yr un cyffelyb ymadroddion, yn y ddwy. Ei ffydd a’i obaith sydd yn buddugoliaethu ar ei ofnau a’i ammheuon yn niwedd hon, fel yn niwedd hono. Addawa iddo ei hun ymwared o’i drallod, adferiad o’i alltudiaeth, ac y byddai iddo drachefn gael mwynhau yr hyn a ddymunai uwch law pob peth arall; sef, myned at allor ei Dduw, a’i fwynhau ef yn ordinhadau ei dŷ.

Dewis Presennol:

Salmau 43: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda