Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 1

1
PENNOD I.
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri,
yn nyddiau Usia, Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd
Iowda, ac yn nyddiau Ieroboam, mab Ioas, brenin Israel.
2Dechreu gair yr Arglwydd trwy Hosea oedd, pan ddywedodd
yr Arglwydd wrth Hosea, —
Dos, cymer iti wraig buteinllyd a phlant puteinllyd;#1:2 Yn llythyrenol, “wraig puteinderau a phlant puteinderau.” Sylweddeiriau a arferir yn aml yn yr Hebraeg yn lle yr ansawddeiriau.
Canys gan buteinio puteinia y wlad,
Yn hytrach na myned ar ol yr Arglwydd.#1:2 Arwydda hyn yn eglur mai eilun-addoliaeth yw y puteindra yr oedd Israel yn euog o hono. “Yn hytrach,” — nid oeddynt yn dilyn yr Arglwydd, ond eilunod. O herwydd hyn, meddylia rhai mai wrth “wraig buteinllyd,” &c., yr amcenir gwraig eilun-addolgar: ond ni fyddai hyn yn arwyddnodi pechod y bobl. O ran y wraig a’r plant, tuedd buteinllyd yn ei ystyr lythyrenol yn ddïau a feddylir. Tybia rhai i’r hyn a adroddir yma gymeryd lle yn wirioneddol, ond eraill a dybiant mai dychymyg yw, neu yr hyn a amlygwyd i’r prophwyd mewn gweledigaeth. Os cysylltwn yr hyn a ddywedir yma â’r hyn a gynnwys y drydedd bennod, yr ystyr olaf yw yr un mwyaf tebygol.
3Yna aeth a chymerodd Gomer, merch Diblaim;
4A beichiogodd hi a dygodd iddo fab: a dywedodd yr
Arglwydd wrtho, —
Galw ei enw Iesreel;#1:4 Dyma y lle y preswyliai Iehw a’i ganlynwyr yn fynych ynddo: yr oedd ganddynt balas yno. Wrth “waed Iesreel” y deallir y gwaed a dywalltwyd gan Iehw a’i had. Erlidwyr creulawn pobl Dduw oeddent.
Canys yn mhen ychydig ymwelaf
Waed Israel ar dŷ Iehw,
A therfynaf deyrnas tŷ Israel:
5A bydd ar y dydd hwnw,
Y toraf fwa Israel yn nyffryn Iesreel.#1:5 Tori’r “bwa” oedd dyddymu holl allu milwraidd Israel: cynnwysir yn y “bwa” holl offerynau rhyfel.
6A beichiogodd hi eilwaith a dygodd ferch; ac efe a ddywedodd
wrtho, —
Galw ei henw, “Heb-drugaredd;”
Canys ni chwanegaf eto drugarhau wrth dŷ Israel,
Fel gan faddeu y maddeuwyf iddynt:#1:6 Felly yn ddiau y dylai y geiriau fod. Gwel Esay 2:9.
7Ond wrth dŷ Iowda mi a drugarhaf;
Ië, achubaf hwynt trwy’r Arglwydd eu Duw;
Ac ni wnaf eu hachub trwy fwa, neu gleddyf,
Neu ryfel, neu feirch, neu farchogion.
8Pan ddyddyfnodd hi “Heb-drugaredd,” yna beichiogodd a
9dygodd fab: ac efe a ddywedodd, —
Galw ei enw, “Nid fy mhobl;”
Canys chwi nid fy mhobl ydych;
Minnau ni fyddaf yn Dduw i chwi:
10Eto bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,
Yr hwn nis mesurir ac nis cyfrifir;
A bydd yn y man lle y dywedir wrthynt,
“Nid fy mhobl ydych,”
Y gelwir hwynt yn blant y Duw byw:
11A chesglir plant Iowda a phlant Israel ynghyd,
A gosodant arnynt un Pen,
Ac esgynant o’r wlad.#1:11 Sef, gwlad eu caethiwed — Babilon.
O herwydd mawr fydd dydd Iesreel.#1:11 Nid y lle neu’r ddinas a feddylir yma, megys yn adn. 4, ond pobl Dduw, Israel, yn dychwelyd o’r caethiwed. Ystyr y gair yw, “hauad Duw.” Gwel pen. 2:23.

Dewis Presennol:

Hosea 1: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda