Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 2

2
PENNOD II.
1Dywedwch wrth eich brodyr, “Fy mhobl;”
Ac wrth eich chwiorydd, “Trugaredd.”
2Ymddadleuwch â’ch mam,#2:2 Y “fam” oedd y genedl yn gyffredin; a’r rhai a gynghorir i ymddadleu â hi oeddynt yr ychydig dduwiolion yn y wlad. Yr oeddynt i gydnabod addolwyr Duw fel eu “brodyr” a’u “chwiorydd,” fel pobl Dduw, ac yn wrthddrychau “trugaredd,” ond y genedl eilun-addolgar fel gwraig odinebus. ymddadleuwch
(Canys hi — nid fy ngwraig i yw;
Minnau — nid ei gŵr hi ydwyf);
Fel y symudo ei phuteindra o’i gwyneb,
A’i godineb oddi rhwng ei bronau;#2:2 Dengys puteiniaid beth ydynt, yn enwedig yn eu “gwyneb” ac yn eu “bronau.”
3Rhag y dïosgwyf hi yn noeth,
Ac y gadäwyf hi fel yn nydd ei genedigaeth,#2:3 Dydd “genedigaeth” y genedl oedd eu dyfodiad o’r Aipht.
Ac y gwnelwyf hi fel y diffeithwch,
Ac y gosodwyf hi fel tir sych,
Ac y lladdwyf hi â syched,
4Ac na thrugarhawyf wrth ei phlant,
Am mai plant puteindra ydynt.
5Gan y puteiniodd eu mam,
Y parodd warth, yr hon a’u hymddygodd, —
Gan y dywedodd, “Af ar ol fy nghariadau,#2:5 Y “cariadau” oeddynt eilunod, neu eilun-addolwyr.
Sy’n rhoddi fy mara a’m dwfr,
Fy ngwlan a’m llin,
Fy olew a’m dïodydd;”#2:5 “Dïodydd” oeddynt win, dïod gadarn, &c.; pob peth a yfent, oddieithr dwfr.
6O herwydd hyn, wele mi a gauaf dy ffordd â drain;
Ïe, muriaf fur, fel na chaffo ei llwybrau;
7A dilyn a wna ei chariadau, ond ni oddiwedda hwynt;
A chais hwynt, ond nis caiff:
Yna dywed, “Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf;
Canys gwell oedd arnaf y pryd hyny nag yn awr.”
8Ond hi ni wyddai mai myfi
A roddasai iddi yr yd a’r gwin a’r olew,
Ac a amlhasai iddi yr arian a’r aur,
A gyflwynasant i Baal:
9Am hyn dychwelaf a chymeraf ymaith
Fy yd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymmor;
A dygaf ymaith fy ngwlan a’m llin,
Oeddent er cuddio eu noethni.#2:9 Sef y plant. Felly hefyd y plant a feddylir yn yr adnod flaenorol, “A gyflwynasant i Baal.”
10Y pryd hyn hefyd dadguddiaf ei ffolineb#2:10 Neu, gwaeledd, neu aflendid; ond ffolineb, neu ynfydrwydd, sydd fwyaf cymhwys.
O flaen llygaid ei chariadau;
Ac ni wared neb hi o’m llaw:
11A dyddymaf ei holl orfoledd, —
Ei chylch wyl, ei newydd loer,
A’i Sabboth, a phob ymgynnull arbennig;#2:11 Felly y cawn y geiriau, yn y rhif unigol.
12Difrodaf hefyd ei gwinwydden a’i ffigysbren,
Y rhai y dywedodd am danynt, — #2:12 Nid “gwobrau” a feddylir, ond dylid ei gyfieithu fel hyn, gan mai rhagenw ydyw a flaenddodir â rhagosodydd (preposition), ac eglurha “y rhai” o flaen y parwyddiad, “dywedodd.” Dyma nodwedd y iaith, ac felly yn y Gymraeg. Gwel Ier. 1:2; “Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato:” “yr hwn” ac “ato,” yr un ydynt. Gwel hefyd yr adnod nesaf.
“Y rhai’n sydd genyf, canys rhoddodd fy nghariadau hwynt i mi;”
Am hyny troaf hwynt yn goedwig,
Fel y bwytao hwynt fwystfil y maes:
13Ymwelaf arni hefyd ddyddiau Baalim,
Y rhai yr arogldarthodd iddynt,
Pan y gwisgodd ei modrwy a’i thlws,
Ac y rhodiodd ar ol ei chariadau,
Ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.
14O herwydd hyn, wele myfi a’i denaf,#2:14 Golyga y genedl fel benyw, a ddenir gan ei chariadau: am hyny arferir ymadrodd perthynol i’r fath amgylchiad. Ei dygiad i’r “anialwch” oedd ei dygiad i gaethiwed.
Ac a’i dygaf i’r anialwch;
Yna llefaraf yn garedig wrthi,
15A rhoddaf iddi ei gwinllanoedd oddi yno,#2:15 Sef, o’r anialwch; rhoddai iddi addewid yno o adferiad eu gwinllanoedd. Er fod “Achor” yn arwyddo “trallod,” eto byddai yn “ddrws gobaith,” yn agoriad gobeithiol o ddychweliad; ac er i blant Israel gael “trallod” yno, eto cafodd Josua yno addewid o berchenogi gwlad Canaan; Ios. 8:1.
A dyffryn Achor yn ddrws gobaith;
A chân yno#2:15 Sef, yn nyffryn Achor, neu drallod. fel yn nyddiau ei hieuenctid,
Ac fel yn nydd ei hesgyniad o wlad yr Aipht.
16A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,
Y geilw fi, “Fy ngŵr;”
Ac ni eilw fi mwyach, “Fy Maal:”
17Ïe, tynaf enwau Baalim o’i genau,
Fel nas coffëir hwynt mwyach wrth eu henwau:#2:17 Ymddengys yr arferai Israel alw y gwir Dduw yn “Baal:” ystyr y gair yw Arglwydd, neu berchenog. Ond gan y gelwid gau-dduwiau wrth yr enw, ni fynai Duw ei alw felly. Enwau a defodau, diniwed ynddynt eu hunain, dylid ymwrthod â hwynt, pan eu cysylltir âg eilun-addoliaeth. “Baalim” yw y rhif liosog o Baal, a gellir eu henwi Baalau yn ein hiaith ni. Yr oedd amryw gau-dduwiau dan yr enw hwn, megys Baalpeor, Baalsephon, Baalgad, Baalammon, &c.
18Gwnaf erddynt hefyd gyfammod, y dydd hwnw,
A’r anifel y maes, ac â’r adar y nefoedd,
Ac â’r ymlusgiad y ddaear;
A’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel
A doraf ymaith o’r wlad;
A pharaf iddynt orwedd mewn dïogelwch.
19A dyweddïaf di i mi fy hun yn dragywydd,#2:19 Deallir hyn yn ol yr ammod a wnaed âg Israel: yr oedd yr addewid o Ganaan (Gen. 13:15) wedi ei gwneyd yr un modd, a’r addewid o ran yr offeiriadaeth. Ar ammod o ufudd-dod y sefydlwyd yr oruchwyliaeth.
Ïe, dyweddïaf di i mi fy hun
Mewn cyfiawnder ac mewn barn,
Mewn trugaredd hefyd, ac mewn tosturiaethau;
20Ïe, dyweddïaf di i mi fy hun mewn ffyddlondeb;#2:20 Addawa Duw i ymddwyn tuag ati, fel gŵr, mewn “cyfiawnder a barn” — mewn ymddygiad cyfiawn a chywir tuag ati, a thrwy ei hamddifiyn rhag camwedd eraill, a chosbi ei gelynion. Chwanega “drugaredd” a “thosturiaethau” — teimladau yn dynodi serch, cariad, a chydymdeimlad yn y radd uchaf. Diwedda gyda “ffyddlondeb,” hyny yw, fel gŵr, neu yn ei addewidion iddi.
Ac adnabyddi yr Arglwydd.
21A bydd yn y dydd hwnw yr atebaf, medd yr Arglwydd —
Yr atebaf y nefoedd,
Hwythau a atebant y ddaear,
22A’r ddaear a ateb yr yd a’r gwin a’r olew,
A hwythau a atebant Iesreel:#2:22 Wrth “Iesreel” y meddylir pobl Dduw, wedi dychwelyd i’w gwlad ei hun. Hynod fel y gosodir yma yr ymddibyniad sydd rhwng amryw ranau o’r byd gweledig; a Duw yn rheolydd, a dyn yn derbyn y lleshâd. “Ateb,” yn hytrach na “gwrando,” yw ystyr y gair gwreiddiol, a mwy cymhwys yw.
23Canys hauaf hi i mi fy hun yn y tir,
A thrugarhaf wrth “Heb-drugaredd,”
A dywedaf wrth “Nid-fy-mhobl,”
Fy mhobl ydych chwi,
A hwy a ddywedant, “Ein Duw ni ydwyt ti.”

Dewis Presennol:

Hosea 2: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda