Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 6

6
PENNOD VI.
1“Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd;
Canys efe a larpiodd, ac a’n iachâ ni;
Tarawodd, a rhwym ni i fyny.
2Bywha ni wedi deuddydd#6:2 “Deuddydd,” a’r “trydydd,” ydynt eiriau diarebol, yn dynodi amser byr. Gwel gyffelyb arferiad o’r gair “dau” yn 1 Bren. 17:12; Esay 7:21. “Byw;” dengys hyn y byddai eu caethiwed megys yn farwolaeth.
Y trydydd dydd y cyfyd ni,
Fel y byddom byw ger ei fron:
3Yna yr adwaenwn, y dilynwn i adwaen, yr Arglwydd:
Fel y bore y sefydlwyd ei fynediad allan;
A daw fel y cynnar-wlaw arnom,
Fel y diweddar-wlaw a ddyfrha’r ddaear.”#6:3 “Cynnar-wlaw” oedd yn yr Hydref, er parotoi y tir i dderbyn yr hâd; a’r “diweddar-wlaw” oedd yn y Gwanwyn, er addfedu ffrwyth y ddaear.
4Beth a wnaf i ti Ephraim?#6:4 Pregeth newydd yw hon; neu os nad felly, y cysylltiad sydd â’r hyn a fygythir yn y bennod flaenorol, sef y caethiwed; a rhoir yma yr achos pam yr oedd y farn hòno yn anghenrheidiol: yr oedd y cwbl a wnaethai Duw trwy ei brophwydi yn ddïeffeithiol.
Beth a wnaf i ti Iowda?
Mae eich daioni#6:4 Eu “daioni” oedd eu crefydd: diwygiant am ychydig amser, yna dychwelant i’w hen arferion. fel cwmwl bore,
Neu fel gwlith y wawr, yn myned heibio!
5Am hyn cymynais hwynt trwy y prophwydi,
Lleddais hwynt â geiriau fy ngenau;
A bu dy farnau yn oleuni yn myned allan.#6:5 “Cymyno” a “lladd” oeddynt y bygythiadau a gyhoeddai y prophwydi. “Dy farnau,” sef y rhai a fygythid ac a benodid i’r genedl: gwnaed hwynt mor eglur a goleu y dydd.
6Dïau daioni a ddymunais, ac nid aberth,
A gwybodaeth o Dduw yn fwy na phoeth-offrymau.#6:6 Parod oeddynt i aberthu ac i offrymu, ond nid i fyw yn dduwiol, ac i geisio gwybodaeth o Dduw, yr hyn oedd efe yn ei ofyn benaf. Gellir cyflawni defodau crefyddol heb wybod dim yn wirioneddol am Dduw.
7Ond hwy, fel Adda, torasant gyfammod;#6:7 Nid oes modd arall i iawn gyfieithu y geiriau.
Yn hyn anffyddlawn a fuont i mi.
8Gilead — dinas gweithredwyr anwiredd oedd,
Halogedig gan waed.
9Ac fel y dysgwyl yspeiliaid ddyn,
Felly tyrfa’r offeiriaid, ar y ffordd;
Lladdant yn Sychem;
O herwydd y ddyfais a gyflawnant.#6:9 “Gilead” oedd tuhwnt i’r Iorddonen, ond “Sychem” oedd o fewn gwlad Canaan, yn llwyth Ephraim. Y “gwaed” a’r “lladd” yma ydynt yr un ag yn pen. 5:2. Yr oedd yr offeiriaid, naill ai yn lladron pen ffordd, yn lladd y rhai a yspeilient, neu ynte yn maglu dynion i eilun-addoliaeth, ac felly yn lladd eu heneidiau. Yr ystyr ddiweddaf yw’r mwyaf tebygol, gan eu cymharir i yspeiliaid neu ladron pen ffordd. Y “ddyfais” oedd y bwriad i rwydo.
10Yn nhŷ Israel y gwelais erchylldod;
Yno y mae puteindra Ephraim;
Halogwyd#6:10 “Israel” yma oeddynt y naw llwyth, gan yr enwir Ephraim yn y linell flaenorol, ac yna Iowda yn yr un a ganlyn. Israel:
11Hefyd Iowda — gosododd blanigyn i ti,#6:11 Sef i Israel neu i Ephraim. Y “planigyn” oedd o ddelw-addoliaeth.
Pan oeddwn yn dychwelyd gaethiwed fy mhobl!#6:11 Caethiwid amryw o Iowda yn aml gan Israel, — Edom, Moab. Y cyfeiriad yma, fel y tybir, sydd at yr hyn a nodir yn 2 Cron. 27:8-12, 22-25. Tan yr amgylchiad hwn, gwnai Iowda gefnogi eilun-addoliaeth.

Dewis Presennol:

Hosea 6: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda