Luc 11
11
A.D. 33. —
1 Crist yn dysgu gweddïo, a hynny heb ddiffygio: 11 gan sicrhau y rhydd Duw felly i ni bethau da. 14 Wrth fwrw allan gythraul mud, y mae ef yn ceryddu y Phariseaid cablaidd: 28 ac yn dangos pwy sydd fendigedig: 29 ac yn pregethu i’r bobl; 37 ac yn argyhoeddi ffug sancteiddrwydd y Phariseaid, a’r ysgrifenyddion, a’r cyfreithwyr.
1A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion. 2Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 6:9Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. 3Dyro i ni #11:3 Neu, tros y diwrnod.o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol. 4A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. 5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn; 6Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf #11:6 allan o’i ffordd.wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef: 7Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti. 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, #Pen 18:1 &cEr na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau. 9#Mat 7:7; 21:22; Marc 11:24; Ioan 15:7; Iago 1:5; 1 Ioan 3:22Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. 10Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 11#Mat 7:9Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn? 12Neu os gofyn efe wy, a #11:12 gynnig.ddyry efe ysgorpion iddo? 13Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?
14 #
Mat 9:32; 12:22 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru: a’r bobloedd a ryfeddasant. 15Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, #Mat 9:34; 12:24Trwy #11:15 Gr. Beelsebwl : ac felly ad. 18, 19Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. 16Ac eraill, gan ei demtio, #Mat 12:38; 16:1a geisiasant ganddo arwydd o’r nef. 17#Mat 12:25; Marc 3:24Yntau, #Ioan 2:25yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth. 18Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid. 19Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 20Eithr os myfi #Exod 8:19trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi. 21#Mat 12:29Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch: 22Ond #Mat 12:30pan ddêl un cryfach nag ef arno, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. 23#Mat 12:30Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru. 24#Mat 12:43Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. 25A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu. 26Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a #Ioan 5:14; Heb 6:4; 10:26; 2 Pedr 2:20diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad.
27A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist. 28Ond efe a ddywedodd, #Mat 7:21Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.
29 #
Mat 12:38
Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd: 30Canys fel y bu #Jona 1:17; 2:10Jonas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. 31#1 Bren 10:1Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma. 32Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am #Jona 3:5iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma. 33#Mat 5:15; Marc 4:21; Pen 8:16Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni. 34#Mat 6:22Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll. 35Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. 36Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.
37Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta. 38#Marc 7:3A’r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio. 39#Mat 23:25A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond #Titus 1:15eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. 40O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd? 41#Esa 58:7; Dan 4:27; Pen 12:33Yn hytrach rhoddwch elusen #11:41 yn ôl eich gallu.o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi. 42#Mat 23:23Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur. 43#Mat 23:6; Marc 12:38, 39Gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd. 44#Mat 23:27Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.
45Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd. 46#Mat 23:4Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â’r beichiau ag un o’ch bysedd. 47#Mat 23:29Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt. 48Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau: canys hwynt‐hwy yn wir a’u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt. 49Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, #Mat 23:34Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant: 50Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd; 51#Gen 4:8O waed Abel hyd #2 Cron 24:20, 21waed Sachareias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml; diau meddaf i chwi, Gofynnir ef i’r genhedlaeth hon. 52#Mat 23:13Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned a #11:52 Neu, rwystrasoch.waharddasoch chwi. 53Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn daer iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau; 54Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o’i ben ef, i gael achwyn arno.
Dewis Presennol:
Luc 11: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society