Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 10

10
A.D. 32. —
1 Crist yn anfon allan ar unwaith ddeg disgybl a thri ugain i wneuthur gwyrthiau, ac i bregethu; 17 yn eu rhybuddio hwy i fod yn ostyngedig, ac ym mha beth y gorfoleddent: 21 yn diolch i’w Dad am ei ras: 23 yn mawrygu dedwydd gyflwr ei eglwys: 25 yn dysgu y cyfreithiwr y modd i gael bywyd tragwyddol, ac i gymryd pawb yn gymydog iddo, a’r a fo ag eisiau ei drugaredd ef arno: 41 yn argyhoeddi Martha, ac yn canmol Mair ei chwaer hi.
1Wedi’r pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd, ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod. 2Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y #Mat 9:37; Ioan 4:35cynhaeaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: #2 Thess 3:1gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf, am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf. 3Ewch: #Mat 10:16wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ymysg bleiddiaid. 4#Mat 10:9, 10; Marc 6:8Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac #2 Bren 4:29na chyferchwch well i neb ar y ffordd. 5#Mat 10:12Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. 6Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orffwys arno: os amgen, hi a ddychwel atoch chwi. 7#1 Cor 10:27Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys #1 Cor 9:4, &c; 1 Tim 5:18teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ. 8A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwytewch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau: 9Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, #Mat 3:2; 4:17Daeth teyrnas Dduw yn agos atoch. 10Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’w heolydd, a dywedwch, 11#Mat 10:14; Pen 9:5; Act 13:51; 18:6Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith #10:11 yn eich erbyn chwi. fel Pen 9:5i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch. 12Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno. 13#Mat 11:21Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon #10:13 y nerthoedd.y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw. 14Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. 15A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern. 16#Mat 10:40; Ioan 13:20Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; #1 Thess 4:8a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a’r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu’r hwn a’m hanfonodd i.
17A’r deg a thrigain a ddychwelsant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di. 18Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef. 19Wele, #Marc 16:18; Act 28:5yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi. 20Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi; ond llawenhewch yn hytrach, am fod #Exod 32:32; Salm 69:28; Esa 4:3; Dan 12:1; Phil 4:3; Heb 12:23; Dat 13:8; 20:12; 21:27eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.
21 # Mat 11:25 Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly #10:21 Gr. yr oedd boddlonrwydd.y gwelid yn dda yn dy olwg di. 22#10:22 Amryw hen gopïau a ychwanegant y geiriau hyn, A chan droi at ei ddisgyblion, efe a ddywedodd.#Mat 28:18; Ioan 3:35; 17:2Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac #Ioan 1:18; 6:44, 46ni ŵyr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.
23Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neilltu, #Mat 13:16Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled: 24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, #1 Pedr 1:10ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, #Mat 19:16; 22:35Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol? 26Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni? 27Ac efe gan ateb a ddywedodd, #Deut 6:5Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; #Lef 19:18a’th gymydog fel ti dy hun. 28Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a #Lef 18:5; Esec 20:11, 13, 21byw fyddi. 29Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog? 30A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw. 31Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, #Salm 38:11efe a aeth o’r tu arall heibio. 32A’r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth o’r tu arall heibio. 33Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd, 34Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd. 35A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti. 36Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron? 37Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
38A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a’i henw #Ioan 11:1; 12:2, 3Martha, a’i derbyniodd ef i’w thŷ. 39Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, #1 Cor 7:32, &cyr hon hefyd #Act 22:3a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef. 40Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio. 41A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau: 42Eithr #Salm 27:4un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.

Dewis Presennol:

Luc 10: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda