Luc 9
9
A.D. 31. —
1 Crist yn anfon ei apostolion i wneuthur rhyfeddodau, ac i bregethu. 7 Herod yn chwennych gweled Crist. 10 Crist yn porthi pum mil: 18 yn ymofyn beth yr oedd y byd yn ei dybied amdano: 22 yn rhagfynegi ei ddioddefaint: 23 yn gosod allan i bawb siampl o’i ddioddefgarwch. 28 Ei weddnewidiad ef. 37 Mae yn iacháu y lloerig: 43 a thrachefn yn rhagrybuddio ei ddisgyblion am ei ddioddefaint: 46 yn canmol gostyngeiddrwydd, 51 yn gorchymyn iddynt ddangos llarieidd‐dra tuag at bawb, heb chwennych dial. 57 Rhai yn chwennych ei ganlyn ef, ond dan amod.
1Ac #Mat 10:1; Marc 3:13; 6:7efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau. 2Ac #Mat 10:7; Marc 6:12; Pen 10:1efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iacháu’r rhai cleifion. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un. 4Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch. 5#Mat 10:14A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, #Act 13:51ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. 6Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy’r trefi, gan bregethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle.
7 #
Mat 14:1; Marc 6:14 A Herod y tetrarch a glybu’r cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw; 8A rhai eraill, ymddangos o Eleias; a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai. 9A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10 #
Marc 6:30
A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. #Mat 14:13Ac efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida. 11A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu. 12#Mat 14:15; Marc 6:35; Ioan 6:1, 5A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd. 13Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll. 14Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain. 15Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd. 16Ac efe a gymerodd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl. 17A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.
18 #
Mat 16:13; Marc 8:27 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i? 19Hwythau gan ateb a ddywedasant, #Mat 14:2Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gynt a atgyfododd. 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? #Ioan 6:69A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist Duw. 21Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb; 22Gan ddywedyd, #Mat 17:22Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd atgyfodi.
23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, #Mat 10:38; 16:24; Marc 8:34; Pen 14:27Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi. 24Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi. 25#Mat 16:26; Marc 8:36Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli? 26#Mat 10:33; Marc 8:38; 2 Tim 2:12Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd. 27#Mat 16:28; Marc 9:1Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.
28 #
Mat 17:1; Marc 9:2 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r #9:28 pethau.geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo. 29Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. 30Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias: 31Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem. 32A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt #Dan 8:18; 10:9wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef. 33A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl. 35A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, #Mat 3:17Hwn yw fy Mab annwyl; #Act 3:22gwrandewch ef. 36#9:36 A chyda bod, & c.Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
37A #Mat 17:14; Marc 9:17darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.
43A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 44#Mat 17:22Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion. 45#Marc 9:32; Pen 2:50; 18:34Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
46 #
Mat 18:1; Marc 9:34 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt. 47A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, 48Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.
49 #
Marc 9:38; Edrych Num 11:28 Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni. 50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys #Mat 12:30; Pen 11:23y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae.
51A bu, pan gyflawnwyd #Marc 16:19; Act 1:2y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a #9:51 osododd ei wyneb i fyned.roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem. 52Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef. 53Ac #Ioan 4:4, 9nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn #9:53 Gr. myned.tueddu tua Jerwsalem. 54A’i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, #2 Bren 1:10, 12megis y gwnaeth Eleias? 55Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. 56Canys #Ioan 3:17; 12:47ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.
57 #
Mat 8:19
A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 58A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. 59Ac #Mat 8:21efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 60Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. 61Ac un arall hefyd a ddywedodd, #1 Bren 19:20Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. 62A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.
Dewis Presennol:
Luc 9: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society