Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Joel 3

3
PEN. III.—
1A bydd ar ol hyn,#y pethau hyn. LXX., Vulg.
Y tywalltaf fy ysbryd#anadl. ar bob cnawd;
A’ch meibion a’ch merched a broffwydant:
Eich henafgwyr a freuddwydiant freuddwydion,
Eich gwyr ieuainc;
A welant weledigaethau.
2A hefyd ar y#fy. LXX., Vulg. gweision, ac ar y morwynion:
Yn y dyddiau hyny;
Y tywalltaf fy ysbryd.
3A gwnaf ryfeddodau;
Yn y nefoedd#ryfeddodau yn y—, ac ar y. LXX., Vulg. ac ar y ddaear:
Gwaed a thân;
A cholofnau#a tharth mwg. Syr. mwg.
4Yr haul a droir yn dywyllwch;
A’r lleuad yn waed:
Cyn dyfod dydd yr Arglwydd,
Y dydd mawr ac ofnadwy.#eglur. LXX.
5A bydd yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd:
Canys yn mynydd Sion ac yn Jerusalem y bydd ymwared,#gwaredol. LXX.
Fel y dywedodd yr Arglwydd;
Ac yn mhlith y gweddillion#a rhai yn cael newyddion da y rhai a alwodd. LXX. wrth y gwaredigion y rhai a alwodd. Syr.;
A alwo yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Joel 3: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda