Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jonah 4

4
PEN. IV.—
1A bu ddrwg iawn#drwg mawr. Hebr. gofid mawr. gan Jonah, ac efe a ddigiodd.#gynhyrfwyd. LXX. a bu blinder mawr iddo. Syr. 2Ac efe a weddiodd ar yr Arglwydd ac a ddywedodd, Oh#atolwg. Arglwydd, oni ddywedais i hyn tra yr oeddwn i eto yn fy ngwlad; am hyny y ffoais yn mlaen#brysiais i ffoi. i Tarshish: am y gwyddwn dy fod ti yn Dduw grasol a thrugarog; hwyrfrydig i ddig,#ymarhous dy ysbryd. Syr. ac aml o drugaredd, a thosturiol wrth ddrwg.#yr adfyd. y drygau. LXX. 3Ac yn awr, Arglwydd, cymer, atolwg, fy einioes oddiwrthyf: canys gwell i mi farw na byw o honof.#gwell i mi angeu nag einioes. Vulg. 4A’r Arglwydd a ddywedodd, ai da yw i ti ymddigio. 5A Jonah a#a dristawyd di yn fawr. LXX. ai da dy fod yn anfoddloni. Syr. aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain#ar gyfer y. LXX. gyferbyn a dwyrain y. Vulg. i’r ddinas: ac a wnaeth iddo yno fwth,#babell. LXX. gysgodfa. Syr., Vulg. ac a eisteddodd tano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn#i’r. LXX, Syr., Vulg. y ddinas. 6A’r Arglwydd a ddarparodd gicaion,#colocynth. LXX. iorwg. Vulg. ac efe a gododd oddiar Jonah i fod yn gysgod ar ei ben ef i’w waredu o’i ofid: a bu Jonah lawen iawn am y cicaion. 7A Duw a ddarparodd bryf ar godiad y wawr dranoeth, ac efe a darawodd y cicaion ac efe a wywodd. 8A bu fel y codai yr haul i Dduw ddarparu hefyd boethwynt dwyrain;#dwyrein-wynt llosgawl. LXX. gwynt poeth a llosgawl. Vulg. a’r haul a darawodd#boethodd. Syr. ar ben Jonah, ac efe a lewygodd:#afrywiogodd. Vulg. ac efe a ddeisyfodd iddo gael marw, ac a ddywedodd, gwell i mi farw nac i mi fyw.#y mae ar dy law i gymeryd fy einioes oddiwrthyf, canys nid wyf fi well na’m tadau. Syr. 9A Duw a ddywedodd wrth Jonah, ai da yw ymddigio o honot#a dristauwyd di yn fawr. LXX. am y cicaion: ac efe a ddywedodd, 10da yw i mi ymddigio hyd angeu. A’r Arglwydd a ddywedodd, ti a dosturiaist#dosturiesit wrth, arbedasit. wrth y cicaion yr hwn ni lafuriaist wrtho, 11ac nas peraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu ac mewn noswaith y darfu.#yr hwn fu yn fab noswaith, ac yn fab noswaith y darfu. Hebr. A minau oni thosturiwn wrth Ninefeh y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeg myrdd#deuddeg deng mil, cant ugain mil. Vulg. o ddynion y rhai ni wyddant wahaniaeth rhwng eu llaw ddeheu a’u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer.

Dewis Presennol:

Jonah 4: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda