Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micah 2

2
PEN. II.—
1Gwae y rhai a ddychymygant anwiredd,#buont yn meddwl blinderau. LXX. gwae chwi a ddychymygwch beth difudd. trais. Syr.
A’r rhai a wnant#gynlluniant. Vulg. ddrygioni ar eu gwelyau:
Pan oleuo y boreu y gwnant,#a chyda’r dydd y cwblhasant. LXX.
Am ei fod ar eu llaw hwynt.#am na chodasant eu dwylaw at Dd. LXX. am fod eu llaw yn erbyn D. Vulg. ac yn codi eu dwylaw at Dd. Syr.
2A maesydd a chwenychant ac a ysbeiliant;#ysbeiliant amddifaid. LXX. maesydd, a thai, a. Syr.
A thai, ac a’u cymerant:
Gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ;#yn ei feddiant a’i etif. Syr.
A dyn a’i etifeddiaeth.
3Gan hyny fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dy wedodd yr Arglwydd;
Wele myfi yn dychymygu drwg#drygau LXX. yn erbyn y teulu#y llwyth. LXX. Syr. hwn:
Yr hwn ni thynwch eich gyddfau oddiwrtho,
Ac ni rodiwch yn uchel:#yn sythion. LXX. yn feilchion. Vulg.
Canys amser drygfyd#drwg iawn. Vulg. fydd hwnw.
4Yn y dydd hwnw y codir diareb am danoch,
A galerir#mewn cân y. LXX. Syr. y cenir cân yn felus. Vulg. galarnad gofidus,
Yn dywedyd,#rhai yn dy. Vulg.
Gan anrheithio y’n anrheithiwyd;#mewn adfyd y buom adfydus. LXX.
Etifeddiaeth fy mhobl a newidiodd:#a fesurwyd â llinyn. LXX.
Oh am iddo ymadael a mi#i mi. Hebr. ac ni bu a’i gwaharddai i’w droi ymaith. LXX. ac nid oes a ddychwel ein maesydd â llinyn. Syr. i ddychwelyd;#gan y dychwel yr hwn a rana ein maesydd. Vulg.
Ein maesydd a rana.
5Am hyny ni bydd i ti;
A fwrw linyn mesur am etifeddiaeth;
Yn nghynulleidfa yr Arglwydd.#yn—Arglwydd na wylwch ddagrau, ac na wylwch am y pethau hyn. Syr.
6Na phroffwydwch;#ddefnynwch. Hebr. nac wylwch â dagrau. LXX. gan lefaru na leferwch. Vulg.
Proffwydant:
Ni phroffwydant i’r rhai hyn;
Nid ymedy eu cywilydd.#cywilydd-derau. Hebr., LXX. ni symudir eu. LXX. oni ddilyn gwaradwydd chwi yr hwn a ddywedwyd yn erbyn ty. Syr.
7Yr hwn a elwir tŷ Jacob,
A fyrhaodd ysbryd#ty Jacob a ddigiodd ysbryd yr. LXX. dywed ty I. a fyrhaodd. Vulg. digiodd ysbryd—wrth ei gynllwynion hyny. Syr. yr Arglwydd;
Ai y rhai hyn yw ei weithredoedd#feddyliau. Vulg. ef:
Oni wna fy ngeiriau ddaioni;#fy ngeiriau a lawenhant bobl uniawn. Syr. onid da ei eiriau ef. LXX.
I’r neb a rodio yn uniawn.
8A’m pobl eisoes#ac i’r gwrthwyneb. Vulg. o’r blaen. LXX. a godent i fyny yn elyn;#fel lleidr. Syr.
Oddiar y wisg isaf#ei groen a flingwch fel y parech i'w obaith fyned heibio. Syr. y diosgech fantell:
Oddiam y rhai a ânt heibio yn ddiofal;
Y rhai a ddychwelent o ryfel.#a droisoch i ryfel. Vulg.
9Gwragedd#blaenoriaid fy mhobl a deflir allan. LXX. fy mhobl a fwriwch allan;
O’u tŷ#o’i thy, ei phlant. Hebr. hyfryd:
Oddiar eu plant;
Y cymerwch#andwyasoch ogoniant. Syr. fy harddwch#fy mawl. Vulg. byth.
10Codwch ac ewch;
Canys nid hon yw yr orphwysfa:#cyfod a dos, canys nid hon sydd i ti yn orphwysfa o herwydd aflendid. LXX.
Am ei haflendid y dinystrir#dinystriwyd chwi trwy ddinystr. LXX. hi,
A thost fydd y dinystr.#a dinystr a orfydd. Syr. am ei haflendid yr andwyir hi â’r pydredd gwaethaf. Vulg.
11Os gŵr yn rhodio mewn ysbryd celwyddog,#oh pe na buaswn yn wr a’r ysbryd genyf ac y llefaraswn gelwydd yn hytrach. Vulg.
A ddywed yn gelwyddog;
Proffwydaf#defnynaf—defnynwr. Hebr. i ti am win a diod gadarn:#meddwdod. LXX., Syr. Vulg.
Efe fydd proffwyd y bobl hyn.
12Gan gasglu y’th gasglaf Jacob oll,
Gan gynull y cynullaf weddill Israel;
Yn nghyd y gosodaf hwynt fel defaid corlan:#Bosrah, mewn cyfyngder. cyfyngfan, Syr.
Fel praidd yn nghanol eu porfan;#gorweddfan. LXX., Syr. corlan. Vulg.
Trystiant gan amledd dyn.
13Yr hwn a dyr ffordd#porthor. Syr. a aeth i fyny o’u blaen hwynt;
Torasant a thramwyasant i’r porth,
Ac aethant trwyddo:
A thramwya#a thramwyodd. Syr. eu brenin o’u blaen hwynt;
A’r Arglwydd yn ben arnynt.#a’u tywys hwy. LXX.

Dewis Presennol:

Micah 2: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda