Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 2

2
Y Cofrestriad dan Cesar.
1A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan ddeddf#2:1 Gr. dogma, barn, ordeiniad, ordinhad [Eph 2:15], cyfraith. oddiwrth Cesar Augustus, i wneyd cofrestriad#2:1 Gwneyd y cofrifiad swyddogol Rhufeinig, o enwau, oedran, a meddianau, fel sylfaen teyrnged neu dreth ar feddianau, yr hwn gyfrifiad a wnaed bob 5, 10, neu 15 mlynedd: Lladin, census. o'r holl fyd#2:1 H. y. gymaint o hono ag oedd dan lywodraeth Rhufain. trigianol. 2Hwn oedd y cofrestriad cyntaf#2:2 Cymmerodd yr ail le dan Quirinus pan oedd yn Llywodraethwr Syria, yn B. H. 6, sef deng mlynedd ar ol hyn. Y mae cyfrolau wedi cael eu hysgrifenu, a'r Testyn Sanctaidd wedi cael ei ddirboeni, er ymdrechu gwneyd ffwrdd a'r anhawsder amseryddol. Ond ar adeg genedigaeth Crist, yn ol Tacitus, yr oedd Quirinus yn y Dwyrain, ac yr oedd wedi hynodi ei hun yn Cilicia. Y ffeithiau hyn ac ystyriaethau eraill a arweiniant i'r casgliad [yn ol Zumpt ac eraill] fod Quirinus wedi bod yn llywodraethwr Syria ddwywaith, sef, y pryd hyn, a deng mlynedd ar ol hyn, yn ol tystiolaeth Josephus [gwel Alford]., pan yr oedd Quirinus#2:2 Y mae ffurf yr enw yn ansicr: defnyddir Quirinus a Quirinius, y blaenaf yw y mwyaf cywir. yn Llywodraethwr Syria. 3A phawb a aethant i gofrestru eu hunain, bob un i'w ddinas ei hun. 4A Joseph hefyd a aeth i fyny o Galilea, allan o ddinas Nazareth, i Judea, i Ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a theulu Dafydd, 5i gofrestru ei hun gyd â Mair, yr hon oedd wedi ei dyweddio#2:5 yn wraig A. Gad. א B C. iddo, yr hon oedd yn feichiog. 6A bu, tra yr oeddynt hwy yno, cyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor. 7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig#2:7 Neu, ei mab, ei chyntaf‐anedig., ac a'i rhwymodd mewn dillad magu, ac a'i gosododd i lawr mewn#2:7 mewn preseb א A B D L Brnd.; yn y preseb Δ preseb, am nad oedd iddynt le yn yr Orphwysfan#2:7 Golyga kataluma y khan neu y caravanserai, mor gyffredin yn ngwledydd y Dwyrain, lle y gorphwysai dynion ac anifeiliaid pan ar eu taith. Yr oedd wedi cael ei wneyd fynychaf o furiau ysgwar, y rhai a wasanaethent i gadw ffwrdd greaduriaid rheibus, neu a ddyogelent rhag poeth belydrau yr haul. Weithiau yr oedd lle i ddynion i orphwys ar y muriau, ac i'r anifeiliaid ar y llawr, lle yr oedd presebau, &c. Pan ddaeth Mair a Joseph, yr oedd y lle oedd ar làn yn barod wedi ei lanw; ac felly, gorfu iddynt ymfoddloni ar ‘orphwysfan’ yr anifeiliaid. Golyga pandocheion, Luc 10:34 ‘derbynfa i bawb,’ yr hwn dŷ a gedwid gan berson neu bersonau; ac felly, y mae ‘llety’ neu ‘gwest‐ty’ yn eiriau priodol am dano..
Cenadwri yr Angelion.
8Ac yr oedd yn y wlâd hono fugeiliaid yn trigo#2:8 byw yn yr awyr agored. allan yn y maes, yn cadw gwyliadwriaeth#2:8 Llyth.: yn gwylied gwyliadwriaethau y nos. drwy y nos ar eu praidd. 9Ac Angel#2:9 wele A D. Gad. א B L. yr Arglwydd a safodd#2:9 Epestê. Llyth.: a safodd drostynt. Cyflea hefyd y syniad o sydynrwydd yr ymddangosiad. Defnyddia Luc ef 18 o weithiau, 7 yn ei Efengyl, 11 yn yr Actau: hefyd, 3 gwaith gan Paul. yn sydyn gerllaw, a Gogoniant yr Arglwydd a ddysgleiriodd o amgylch iddynt: ac ofnasant gyd âg ofn mawr. 10A dywedodd yr Angel wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da#2:10 Mynegi i chwi newyddion da, sydd gyfieithiad o un gair, euanggelizomai, un o hoff eiriau Luc. Dygwyddia 25 o weithiau yn ei ysgrifeniadau: ac yn fynych yn eiddo Paul. Ni cheir ef yn un o'r Efengylwyr eraill. [Dyfyniad yw yn Matthew]. o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl: 11canys ganwyd i chwi heddyw, yn Ninas Dafydd,
IACHAWDWR, yr hwn yw CRIST YR ARGLWYDD.
12A hyn fydd yr arwydd i chwi: Chwi a gewch faban wedi ei rwymo â dillad plentyn, ac yn gorwedd mewn#2:12 mewn preseb א A B D L. &c., yn y preseb K. preseb. 13Ac yn ddisymwth fe ddaeth gyd â'r Angel luaws#2:13 Llyth.: byddin o filwyr (“byddin yn cyhoeddi heddwch” Bengel). o Lu Nefol#2:13 Nefol א Al. Diw. Y Nef B Tr., yn molianu Duw, ac yn dywedyd,
14Gogoniant yn#2:14 Neu, yn mhlith. y goruchafion#2:14 Neu, goruwch‐leoedd. i Dduw,
Ac ar y ddaear tangnefedd yn mhlith dynion o#2:14 Y gwahanol ddarlleniadau yma ydynt eudokia ac eudokias: a'r cwestiwn ydyw, A ddylai gair fod yn y cyflwr enwadol (nominative) neu genidol (genitive). Os yn y cyntaf, y mae yma dair brawddeg; os yn yr ail, nid oes ond dwy. Y mae mantol tystiolaeth yn troi o du yr olaf, gan mai hwn yw darlleniad א A B D, yr Hen Ladin, y Vulgate, &c., Al. La. Ti. Tr. WH. Diw.; eudokia L Pesh. Scr. ewyllys da#2:14 Eudokia, bwriad daionus, cymwynasgarwch, pleser, boddhâd, dymuniad taer (“fy nghalon” Rhuf 10:1). Golyga yma naill ai (1) yn mhlith dynion y mae Duw yn dangos ei gymwynasgarwch, ac yn rhoddi ei ffafr; neu (2) “yn mhlith dynion” yn y rhai y mae Duw yn cael boddhâd:— yn y rhai ei boddlonir ef..
15A bu, pan aeth ymaith yr Angelion oddiwrthynt i'r Nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd hyd Bethlehem, a gwelwn y peth#2:15 Gr. gair, dywediad. hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. 16A hwy a ddaethant ar frys, ac a ddarganfyddasant#2:16 Cael ar ol chwilio yn fanwl. Mair a Joseph, a'r baban yn gorwedd yn y preseb. 17A phan welsant, hwy a wnaethant yn hysbys ynghylch y gair a lefarwyd wrthynt am y plentyn hwn. 18A phawb a'r a'u clywsant a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt. 19Ond Mair a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn, gan eu pwyso#2:19 Llyth.: bwrw ynghyd, yna, ystyried yn ddifrifol, pwyso. yn ei chalon. 20A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a molianu Duw am#2:20 Llyth.: ar, ar sail. yr holl bethau a glywsant ac a welsant, fel y llefarwyd wrthynt.
Enwaedu ac enwi yr Iesu.
21A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i'w enwaedu ef#2:21 ef A B L Δ, y plentyn D., hefyd galwyd ei enw ef IESU, yr hyn y galwyd ef gan yr Angel, cyn y beichiogwyd arno yn y grôth.
Ei gyflwyniad yn y Deml.
22A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth hwy#2:22 hwy א A B Brnd. (ei phuredigaeth) hi D. [Nid oedd y baban yn cael ei ystyried yn aflan]., yn ol Cyfraith Moses#Lef 12:1–8, hwy a'i dygasant ef i fyny i Jerusalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd, 23(fel y mae yn ysgrifenedig yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pob gwrryw cyntaf‐anedig#2:23 Llyth.: a egyr y groth. a elwir yn Sanctaidd i'r Arglwydd, Ex 13:2, 12, 13), 24ac i roddi aberth yn ol yr hyn sydd wedi ei ddywedyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pâr o ddurturod, neu ddau gyw colomen#Lef 12:8.
Molawd Simeon.
25Ac wele, yr oedd gwr yn Jerusalem, a'i enw Simeon#2:25 Neu, Symeon.; a'r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol#2:25 eulabês, cymmeryd gafael dda, gochelgar, gofalus, duwiol., yn dysgwyl am Ddiddanwch yr Israel; a'r Yspryd Glân oedd arno. 26Ac yr oedd wedi ei ddadguddio#2:26 Llyth.: cael ymdriniaeth âg arall, yna, ymgynghori âg arall (fel yr ymgynghorid â'r oraclau paganaidd), cael ateb neu ddadguddiad oddiwrth arall. iddo gan yr Yspryd Glân, na welai farwolaeth cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. 27Ac efe a ddaeth yn yr Yspryd i'r Deml, a phan yr oedd rhieni y plentyn Iesu yn ei ddwyn i'r Deml, fel y gwnelent yn ol arferiad y Gyfraith mewn perthynas iddo, 28efe ei hun hefyd a'i derbyniodd ef i'w freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29Yn awr y gollyngi dy was#2:29 Gr. gaethwas., O Feistr#2:29 Despotês, Meistr, (fel yn wrthgyferbyniol i gaethwas, 1 Tim 6:1; 2 Tim 2:21; Titus 2:9; 1 Petr 2:18). Defnyddir ef am Dduw fel yr hwn a bia bawb a phob peth, Act 4:24; (Dad 6:10; 2 Petr 2:1, am Grist).,
Yn ol dy air, mewn tangnefedd:
30Canys gwelodd fy llygaid dy Iachawdwriaeth,
31Yr hon a barotoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd:—
32Goleuni i fod yn Ddadguddiad i'r Cenedloedd,
Ac yn Ogoniant i'th Bobl Israel.
33A'i Dâd#2:33 Ei Dâd a'i Fam א B D L Brnd., Joseph a'i Fam A X. a'i Fam oeddynt yn rhyfeddu am y pethau a lefarwyd am dano. 34A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei Fam ef, Wele, hwn sydd yn cael ei osod i fod er cwymp ac er cyfodiad i lawer yn yr Israel, ac i fod er arwydd yr hwn y mae dywedyd yn ei erbyn: 35(ac hefyd drwy dy enaid dy hun yr â cleddyf#2:35 Romphaia, picell hir a ddefnyddid yn Thracia, a'i blaen fel cleddyf. Yn y LXX. defnyddir y gair am gleddyf Goliath (1 Sam 17:51). Dygwydda chwech o weithiau yn y Dadguddiad.) fel y byddo i feddyliau allan o lawer o galonau gael eu dadguddio.
Anna y Broffwydes.
36Ac yr oedd Anna#2:36 Neu, Hannah., Proffwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedranus iawn#2:36 Llyth.: wedi myned yn mhell mewn llawer o ddyddiau., ac a fu byw gyd â gwr saith mlynedd o'i morwyndod, 37a hi yn weddw hyd#2:37 hyd א A B L Brnd.; ynghylch X. ei bod yn bedair a phedwar ugain mlwydd oed, yr hon nid ymadawodd o'r Deml, gan wasanaethu#2:37 Gwel 1:74 Duw mewn ymprydiau a deisyfiadau ddydd a nos. 38A hi gan ddyfod i fyny yr awr neillduol hono, a dalodd ddiolch#2:38 Llyth.: gwneuthur cytundeb, cydnabod yn mhresenoldeb un, gwneuthur llawn gyffes, talu diolch (am fendithion). i#2:38 i Dduw א B D L Brnd.; i'r Arglwydd A Δ. Dduw, ac a lefarodd am dano wrth bawb oedd yn dysgwyl Prynedigaeth Jerusalem#2:38 Jerusalem א B Brnd.; yn Jerusalem A D..
Bachgendod Crist.
39Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w Dinas eu hun, Nazareth. 40A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâodd#2:40 yn yr yspryd A. Gad. א B D L Brnd., wedi ei lanw â#2:40 â doethineb א B L; o ddoethineb A D. doethineb, a gras#2:40 Neu, ffafr. Duw oedd arno ef.
Ei ymweliad â Jerusalem a'r Deml.
41A'i rieni ef a arferent fyned bob blwyddyn i Jerusalem ar Wyl y Pasc#Ex 23:14–17. 42A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed#2:42 fel “mab y Gyfraith.”, a hwynt‐hwy yn myned i fyny yn#2:42 i Jerusalem A D. Gad. א B D L Brnd. ol arferiad yr Wyl, 43ac wedi gorphen y dyddiau, pan yr oeddynt yn dychwelyd, y bachgen Iesu a arosodd ar ol yn Jerusalem; a'i rieni#2:43 Felly א B D L Brnd.; a Joseph a'i fam A C. nis gwyddent. 44Eithr gan dybied ei fod ef yn mysg eu cymdeithion#2:44 Llyth.: taith gyd â chymdeithion, yna, cyd‐deithwyr., hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef yn ddyfal yn mhlith eu perthynasau a'u cydnabod. 45Ac heb ei gael, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei#2:45 ei geisio A X; ei geisio yn ddyfal B D L Brnd. geisio yn ddyfal. 46A bu, ar ol tridiau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd yn nghanol y Dysgawdwyr, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47A'r rhai oll a'i clywsant ef a synasant at ei ddeall a'i atebion. 48A phan welsant ef, hwy a darawyd â syndod. A dywedodd ei Fam wrtho, Fy mhlentyn, Paham y gwnaethost fel hyn a ni? Wele, dy Dâd a minau, yn ofidus iawn, fuom yn dy geisio di. 49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? Oni wybuech fod yn rhaid i mi fod yn Nhy#2:49 Llyth.: Oni wybuech fod yn rhaid i mi fod yn (mhethau, cynteddoedd, ty, &c.) fy Nhâd? Y mae yn rhaid cyflenwi gair i gwblhau y synwyr. Llawer a ddarllenant, “Rhaid i mi fod ynghylch materion, pethau, a berthyn i'm Tâd” (Alford); ond, yn fwy tebygol, y mae gair fel domata, ty, i'w ddeall. Yn y modd hyn, y mae dywediad yr Iesu yn ateb uniongyrchol i'w Fam. fy Nhad? 50A hwy ni ddeallasant y gair a lefarodd efe wrthynt. 51Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ufydd iddynt. A'i fam ef a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn yn ei chalon. 52A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb#2:52 Felly א A B C; corffolaeth a doethineb D L. a chorffolaeth#2:52 Golyga, Hêlikia, oedran (Luc 12:25; Ioan 9:21; Heb 11:11; ac, fel rheol, yn yr awduron clasurol); corffolaeth 19:3; Eph 4:13, ac mewn ffafr gyd â Duw a dynion.

Dewis Presennol:

Luc 2: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda