Luc 1
1
Yr Arweiniad i fewn.
1Yn gymaint ag i lawer ymgynyg i osod mewn trefn#1:1 Neu, i gyfansoddi, i dynu i fyny, i drefnu drachefn: (yma yn unig yn y T. N.) adroddiad#1:1 Neu, draethiad, hanes [Llyth.: arweiniad trwy hanes, &c.] Defnyddid y gair mewn modd neillduol am draethawd meddygol; naturiol i Luc y physigwr. o'r#1:1 Llyth.: am y. pethau sydd wedi eu llwyr‐gadarnhâu#1:1 Rhoddir dau ystyr i'r gair plêrophoreô, sef (1) cyflawnu, ac (2) rhoddi sicrwydd, argyhoeddi, peri i gredu. Y mae enghreifftiau eraill yn y T. N. o'r un ferf (“Ac yn gwbl sicr,” Rhuf 4:21: “Bydded pob un yn sicr,” Rhuf 14:5 Gwel hefyd 2 Tim 4:17) ac yn enwedig o'r enw plêrophoria (“Mewn sicrwydd mawr,” 1 Thess 1:5; “Er mwyn llawn sicrwydd gobaith,” Heb 6:11). Yn ffafr (2), “Y pethau sydd wedi eu llawngadarnhâu (h. y. eu llwyr‐gredu) yn ein plith ni.” yn ein plith ni, 2megys y traddodasant hwy i ni, sef, y rhai oeddynt o'r dechreuad#1:2 o ddechreuad gweinidogaeth gyhoeddus Crist. yn llygad‐dystion a gweinidogion#1:2 Llyth.: gwas, gweinydd [Llyth.: is‐rwyfwr]. y Gair: 3rhyngodd bodd i minau hefyd, wedi manwl‐ddylyn#1:3 Llyth.: dylyn ar hyd, olrhain rhediad. yr oll yn gywir o'r dechreuad#1:3 o ddyfodiad a gweinidogaeth Ioan., i ysgrifenu atat mewn iawn drefn#1:3 Llyth.: yn olynol, y naill ar ol y llall., O Anrhydeddusaf Theophilus, 4fel y cait lawn‐wybod y sicrwydd am y pethau#1:4 Llyth.: geiriau. y'th holwyddorwyd#1:4 Gr. Katêcheô. Llyth.: swnio tu ag at: yna, dysgu trwy lafar. ynddynt.
Cenedliad Ioan Fedyddiwr.
5Yr oedd yn nyddiau Herod, Brenin Judea, ryw offeiriad a'i enw Zechariah, o ddosparth dyddiol#1:5 ddosparth dyddiol, [ephêmeria], dosparth o offeiriaid i ddwyn yn mlaen y dyddiol wasanaeth. Gwasanaethent am wyth diwrnod — bob chwe mis. Yr oedd y dosparthiadau hyn ar y dechreu yn 24. Pan ddychwelasant o'r Gaethglud, nid oeddynt ond 4, y rhai a amlranwyd i 24. Cylch Abiah oedd yr wythfed [gwel 1 Cr 24:1–19; Neh 12:24]. Abiah, ac yr oedd iddo wraig o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth#1:5 Heb. Elisheba, Ex 6:23. 6Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion ac ordinhadau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn anmhlantadwy, ac yr oeddynt ill dau wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau. 8A bu ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad#1:8 Llyth.: yn offeiriadu. yn nhrefn ei ddosparth#1:8 ddosparth dyddiol, [ephêmeria], dosparth o offeiriaid i ddwyn yn mlaen y dyddiol wasanaeth. Gwasanaethent am wyth diwrnod — bob chwe mis. Yr oedd y dosparthiadau hyn ar y dechreu yn 24. Pan ddychwelasant o'r Gaethglud, nid oeddynt ond 4, y rhai a amlranwyd i 24. Cylch Abiah oedd yr wythfed [gwel 1 Cr 24:1–19; Neh 12:24]. gerbron Duw, yn ol arfer yr offeiriadaeth, 9syrthiodd i'w ran trwy goelbren#1:9 Bwrid coelbren bedair gwaith y dydd i ddewis offeiriaid, (1) i lanhâu yr allor, (2) i offrymu yr aberth, (3) i losgi arogl‐darth, (4) i dywallt y ddiod‐offrwm, &c. i fyned i mewn i Gysegr yr Arglwydd i arogl‐darthu#1:9 Gwel Ex 30:1–10; Num 16:1–40.. 10A holl luaws y bobl oedd yn gweddio tu allan ar awr yr arogl‐darthiad. 11Ac ymddangosodd iddo Angel yr Arglwydd yn sefyll o'r tu deheu i Allor yr Arogl‐darth: 12A Zechariah, pan welodd, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno ef. 13Ond yr Angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zechariah; oblegyd gwrandawyd dy ddeisyfiad, a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. 14A bydd i ti lawenydd a gorfoledd#1:14 llawenydd, teimlad dedwydd yn y galon, a gorfoledd, yr amlygiad allanol o hono. Gr. agalliasis, gorfoledd, o agan, llawer, ac hallomai, dawnsio. Gwel 1 Petr 1:6., a llawer a lawenychant ar ei enedigaeth ef. 15Canys mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf efe ddim gwin, na diod feddwol arall#1:15 Sikera, gair Heb. yn dynodi unrhyw ddiod gadarn, ond a wneir o rawnwin, megys o yd, palmaeron, &c.: “Gwin na diod gadarn nac ŷf di,” Lef 10:9 (Wyclif a gyfieitha, sydir).; ac efe a lenwir o'r Yspryd Glân o grôth ei fam: 16a llawer o feibion Israel a ddychwel efe at yr Arglwydd eu Duw; 17ac efe a â o'i flaen ef, yn ei olwg#1:17 Sef, yn ngolwg Duw., yn yspryd a gallu Elias,
I droi calonau tadau at blant,
A rhai anufydd i#1:17 Llyth.: yn eu troi fel y byddant byw yn nghallineb, &c. gallineb#1:17 Phronêsis, un o briodoleddau doethineb, Sophia, sef, doethineb ymarferol. Y mae anufydd‐dod yn ymarferol, ac felly callineb. rhai cyfiawn,
I barotoi i'r Arglwydd bobl hollol ddarparedig#Mal 3:1; 4:5, 6.
18A dywedodd Zechariah wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? Canys henafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd wedi myned yn mhell mewn dyddiau. 19A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel#1:19 Gabriel, gwr neu arwr Duw, [Dan 8:16; 9:21]; Gabriel yw cenad heddwch a thrugaredd: Michael (Judas 9) yw cenad digter Duw., yr hwn wyf yn sefyll#1:19 Llyth.: sefyll yn agos. yn mhresenoldeb Duw; ac fe'm hanfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegu i ti y newyddion da#1:19 Llyth.: i efengylu hyn i ti. hyn. 20Ac wele, ti a fyddi ddystaw#1:20 Neu, yn fud., ac heb allu llefaru, hyd y dydd y daw oddiamgylch y pethau hyn, o herwydd na chredaist fy ngeiriau, y rhai a gyflawnir yn eu hamser priodol. 21Ac yr oedd y bobl yn dysgwyl am Zechariah, ac yr oeddynt yn rhyfeddu at ei fod yn aros cyhyd yn y Cysegr. 22A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant iddo weled gweledigaeth yn y Cysegr: ac yr oedd efe ei hun yn amneidio iddynt; ac efe a barhâodd yn fud#1:22 Kôphos, wedi pylu, yna, mud (Mat 9:32; 12:22); byddar (Mat 11:5; Marc 9:25).. 23A bu, fel y cyflawnwyd dyddiau ei wasanaeth swyddogol#1:23 Golyga leitourgia, gwaith a berthyn i'r bobl, yna, gwasanaeth cyhoeddus: yma, cyflawnu ei swydd fel offeiriad: yn gyffredin yn y T. N. gweinidogaeth yr Apostolion, athrawon, &c., efe a aeth ymaith i'w dŷ#1:23 Neu, i'w gartref ei hun. 24Ac ar ol y dyddiau hyn, ei wraig Elisabeth a feichiogodd, ac a ymguddiodd yn hollol am bum mis, gan ddywedyd, 25Fel hyn y mae yr Arglwydd wedi gwneyd â mi mewn dyddiau yn y rhai yr edrychodd arnaf, i dynu ymaith fy ngwaradwydd yn mhlith dynion.
Ymweliad Gabriel a Mair.
26Ac yn y chweched mis, anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea o'r enw Nazareth, 27at forwyn wedi ei dyweddio i wr o'r enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. 28A'r Angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well#1:28 Neu, Llawenha!! Tydi sydd wedi derbyn ffafr#1:28 Yn hytrach nag Yr hon a gynysgaethwyd â gras.: yr Arglwydd sydd#1:28 Neu, fyddo. gyd â thi.#1:28 Bendigedig wyt yn mhlith gwragedd A C D La. Ti. [Tr.] Gad. א B L Al. WH. Diw. 29A hithau#1:29 Felly א B D L X Al. Tr. Diw. A hithau, pan ei gwelodd ef, a gythryblwyd, &c., A C. a gythryblwyd yn ddirfawr wrth yr ymadrodd, ac a ymresymodd ynddi ei hun pa fath gyfarchiad oedd hwn. 30A'r Angel a ddywedodd wrthi, Nac ofna Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw. 31Ac wele, ti a feichiogi yn dy grôth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. 32Hwn fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd ei dâd; 33ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd#1:33 Llyth.: i'r oesau.: ac i'w Deyrnas ni bydd diwedd. 34A dywedodd Mair wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr? 35A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a Gallu y Goruchaf a gysgoda#1:35 Y mae y ffugyr yn dyfod o gwmwl gwlithog sydd yn taflu ei gysgod, neu gwmwl fel arwyddlun o bresenoldeb Duw’ [Ex 40:34]. drosot: am hyny hefyd y peth sanctaidd#1:35 Neu, y peth a genedlir a elwir yn sanctaidd, Mab Duw. a genedlir#1:35 o honot C. Gad. א A B D, &c., a elwir yn FAB DUW. 36Ac wele, Elisabeth, dy gares#1:36 Neu, berthynas, gyfnesaf., y mae hithau hefyd wedi beichiogi ar fab yn ei henaint; a hwn yw y chweched mis iddi hi, yr hon a arferid alw yn anmhlantadwy. 37Canys pob gair#1:37 rhêma, gair: yn gwahaniaethu oddiwrth logos, fel y gwahaniaetha rhan oddiwrth yr oll. Felly golyga, ymadrodd, brawddeg, dywediad. Defnyddir ef 70 weithiau yn y T. N. a gair yw ei ystyr yn mhob enghraifft, ac nid peth.#1:37 oddiwrth א B D L Brnd.; gyd â A C. oddiwrth Dduw ni fydd yn anmhosibl#1:37 Neu, yn ddieffaith, yn ddirym.. 38A dywedodd Mair, Wele law‐forwyn#1:38 Llyth.: gaeth‐forwyn. yr Arglwydd: bydded i mi yn ol dy air di. A'r Angel a aeth ymaith oddiwrthi.
Molawd Elisabeth.
39A Mair a gyfododd yn y dyddiau hyny, ac a aeth i'r mynydd‐dir ar frys, i ddinas yn Juda#1:39 Neu, (yn ol rhai) Juttah, sef, dinas yn Judah (Jos 15:55).; 40ac a aeth i mewn i dŷ Zechariah, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. 41A bu pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r baban yn ei chrôth hi lamu#1:41 Gwel 6:23; Gen 25:22: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân; 42a llefain a wnaeth â llef uchel, ac a ddywedodd,—
Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd,
A bendigedig yw ffrwyth dy grôth di.
43Ac o ba le y mae hyn i mi,
Fod mam fy Arglwydd yn dyfod ataf fi?
44Canys wele, mor gynted ag y daeth llais dy gyfarchiad i'm clustiau,
Y baban a lamodd gan orfoledd yn fy nghrôth.
45A gwyn fyd yr hon a gredodd#1:45 Neu, a gredodd y bydd cwblhâd, &c.:
Canys bydd cwblhâd#1:45 gorpheniad, cyflawniad, dygiad i ben. i'r pethau sydd wedi eu llefaru wrthi oddiwrth yr Arglwydd.
Molawd Mair: Trugaredd Duw i'w Bobl.
46A dywedodd Mair,
Y mae fy enaid#1:46 Yr enaid (psuchê) yw y bywyd naturiol, gyda'i serchiadau a'i ddymuniadau. yn mawrhâu yr Arglwydd,
47A gorfoleddodd fy yspryd#1:47 Yr yspryd yw yr elfen anfarwol a berthyn i ddyn fel bod moesol, lle y mae sedd cydwybod (1 Thess 5:23; 1 Cor 2:10). Yr enaid yw yr hyn a gyssyllta dyn â'r byd: yr yspryd yw yr hyn a'i cyssyllta â Duw. yn#1:47 Llyth.: ar. Nuw fy Iachawdwr.
48Canys efe a edrychodd ar iselder ei law‐forwyn#1:48 Llyth.: gaeth‐forwyn.;
Canys wele, o hyn allan, yr holl genedlaethau a'm galwant yn wynfydedig;
49Canys yr Hwn sydd Alluog a wnaeth i mi bethau mawrion,
A sanctaidd yw ei Enw;
50A'i drugaredd ef sydd i genedlaethau#1:50 Felly B C L Brnd.; i genedlaethau o genedlaethau A D. a chenedlaethau
I'r rhai a'i hofnant ef.
51Efe a wnaeth#1:51 Neu, a ddangosodd. gadernid â'i fraich:
Efe a lwyr‐wasgarodd y beilchion yn#1:51 Neu, trwy. nychymyg#1:51 Dianoia, y meddwl fel cynneddf deall, dychymygu, teimlo, dymuno, &c.: hefyd, ffrwyth neu gynnyrch meddwl, meddyliau (Eph 2:3). eu calon;
52Efe a dynodd i lawr y Cedyrn#1:52 Llyth.: y rhai galluog. oddiar orseddau;
Ac a ddyrchafodd yr isel:
53Y newynog a lanwodd efe â phethau da;
A'r rhai goludog a anfonodd efe ymaith yn weigion.
54Efe a gynorthwyodd#1:54 Llyth.: cymmeryd gafael ar, cymmeryd meddiant; yna, rhoddi help llaw, dal i fyny, cynorthwyo. ei was#1:54 Llyth.: blentyn, yna, gwas, caeth‐was [fel y Lladin puer]. Israel,#Es 41:8–9
Er mwyn iddo gofio trugaredd
55(Fel y llefarodd efe wrth ein Tadau)
I Abraham a'i hâd ef yn dragywydd#1:55 Gelwir Emyn Mair Y Magnificat, ar ol y gair Cyntaf ynddi yn y cyfieithiad Lladin. Yn yr un modd gelwir eiddo Elisabeth Y Benedictus. Cymharer Emyn Mair a Chân Hannah (1 Sam 2:1–10)..
56A Mair a arosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
Genedigaeth Ioan Fedyddiwr.
57A'r amser i Elisabeth i esgor a gyflawnwyd: a hi a esgorodd ar fab. 58A'i chymydogion a'i pherthynasau a glywsant fawrhâu o'r Arglwydd ei drugaredd tu ag ati; a hwy a gyd‐lawenychasant â hi. 59A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu y plentyn; ac yr oeddynt am ei alw ar enw ei dâd, Zechariah. 60A'i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly: ond Ioan y gelwir ef. 61A hwy a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th waedoliaeth a elwir ar yr enw hwn. 62A hwy a wnaethant amnaid#1:62 Felly yr oedd Zechariah yn fyddar yn gystal a mud. ar ei dâd ef, pa beth y mynai efe iddo gael ei alw. 63Ac wedi iddo ofyn am ysgrif‐lech#1:63 Byddai yr ysgrif‐lech yn fynych wedi ei gorchuddio a chŵyr, a defnyddid pin caled i ysgrifenu. Safai y gair hefyd am logell‐lyfr y meddygon., efe a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd#1:64 Yn ebrwydd (parachrêma). Llyth.: gyda'r mater, yna, yn y man. Defnyddir y gair 19 o weithiau yn y T. N.: 17 o weithiau gan Luc. O'r rhai hyn, dygwydda 13 mewn cyssylltiad â gwyrthiau o iachâd, &c. Eutheôs yw y gair a geir mor fynych yn Efengyl Marc., a'i dafod a ryddhawyd; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65Ac ofn a ddaeth ar bawb oedd yn trigo o'u hamgylch; a thrwy holl fynydd‐dir Judea y soniwyd llawer am yr holl ddywediadau hyn. 66A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonau, gan ddywedyd, Beth fydd y plentyn hwn? Canys#1:66 Canys א B C D L. Gad. A. llaw yr Arglwydd hefyd oedd gyd âg ef.
Molawd Zechariah: Iachawdwriaeth Israel.
67A Zechariah ei dâd a lanwyd o'r Yspryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd,
68Bendigedig#1:68 Eulogêtos, Gwir‐fendigedig, y term a ddefnyddir am Dduw sydd gryfach nag eulogêmenos, yr hwn a ddefnyddir am ddynion. Ymddybyna yr olaf ar farn ddynol, y blaenaf ar deilyngdod naturiol a gwirioneddol. “Bendigedig [eulogêmenos, LXX.] fyddo Abraham … a gwir‐fendigedig [eulogêtos] fyddo Duw,” Gen 14:19, 20 yw yr Arglwydd, Duw Israel;
Canys efe a dalodd ymweliad#1:68 Llyth.: edrychodd ar, yna, edrych mewn trugaredd, cariad, &c., edrych ar, er cynorthwyo, darparu.,
Ac a wnaeth Brynedigaeth#1:68 Llyth.: gollwng yn rhydd ar dderbyniad pridwerth. i'w Bobl;
69Ac efe a ddyrchafodd Gorn#1:69 Gwel Esec 29:21; Gal 2:3; 1 Sam 2:10; Salm 132:17, &c. Iachawdwriaeth i ni,
Yn nhŷ Dafydd ei was:
70Megys y llefarodd drwy enau ei Brophwydi sanctaidd,
Y rhai oedd o'r Dechreuad#1:70 Llyth.: o oes, o ddechreuad oes, yna, o ddechreuad oes y byd.;
71 Sef, Iachawdwriaeth oddiwrth ein gelynion,
Ac o law pawb a'n cashânt:
72I wneyd trugaredd â'n Tâdau,
Ac i gofio ei Gyfamod sanctaidd:
73Y llw a dyngodd#1:73 Gen 12:3; 17:4; 22:16, 17; Heb 7:13–17 wrth Abraham ein Tâd;
74I roddi i ni (wedi i ni gael ein gwaredu o law gelynion#1:74 gelynion א B Al. Tr. ein gelynion A C D Diw.)
Fel y gwasanaethom ef yn gyhoeddus#1:74 Latreuô. Llyth.: gwasanaethu am gyflog [latron, cyflog]. Yn y T. N. cyflawnu gwasanaeth crefyddol, addoli Duw trwy gadw yr ordinhadau a'r arferion a sefydlodd efe; felly, gwasanaethu yn gyhoeddus. yn ddiofn,
75Mewn sancteiddrwydd#1:75 tu ag at Dduw. a chyfiawnder#1:75 tu ag at ddynion. Sanctaidd, yn Heb. Chasid; Chasidim, Phariseaid; cyfiawn, yn Heb, Tsaddik; Tsaddikim, Sadduceaid. yn ei olwg ef ein holl ddyddiau#1:75 ein holl ddyddiau (neu, trwy ein holl ddyddiau) א B C D L; holl ddyddiau ein bywyd, Test. Derb. heb unrhyw brif‐law ysgrif..
76A thithau hefyd, blentyn, a gei dy alw yn Brophwyd y Goruchaf;
Canys ti a âi o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef#Mal 3:1, 4, 5.;
77I roddi gwybodaeth Iachawdwriaeth i'w Bobl yn maddeuant eu pechodau,
78O herwydd calon#1:78 Splangchna, ymysgaroedd, yn enwedig y galon, yr ysgyfaint, &c. Tybid mai yn y rhai hyn yr oedd sedd y serchiadau: felly cyfieithir y gair, calon. trugaredd ein Duw, trwy yr hon y Wawr‐ddydd#1:78 Anatolê. Llyth.: cyfodiad, tarddiad allan: felly defnyddir y gair am Flaguryn [Jer 23:5; Zech 6:12] ac am y Wawr, neu gyfodiad yr haul [Es 60:19 LXX.; Es 60:1; Mal 4:2] o'r uchelder a#1:78 a ymwel א B L Diw. WH. a ymwelodd A C D Al. Tr. Ti. ymwel#1:78 Neu, a edrych arnom ni. a ni,
79I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu,
I gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâwyd mewn yspryd, a bu yn y diffeith‐leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad#1:80 Defnyddir y gair am ddadganiad cyhoeddus o appwyntiad swyddogol. cyhoeddus i Israel.
Dewis Presennol:
Luc 1: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.