Marc 16
16
Angel yn mynegi Adgyfodiad Crist
[Mat 28:1–8; Luc 24:1–11; Ioan 20:1, 2]
1A phan oedd y Sabbath drosodd, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant#16:1 Neu, oeddynt wedi prynu. beraroglau, fel, pan y deuent, yr eneinient ef.
2Ac yn fore iawn ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos#16:2 Llyth.; ar y cyntaf o'r Sabbathau. Ond defnyddir y rhif lluosog [Sabbata] am un Sabbath, ac hefyd am un wythnos, fel ag y sonir am wleddoedd neillduol [azuma, genesia, &c.] yn y lluosog, neu am fod terfyniad y gair yn y Caldaeg [Sabbatha] yn debyg i'r terfyniad Groeg, yn y rhif lluosog yn y ganolryw., y maent yn dyfod at y bedd, a'r haul wedi codi. 3A hwy a ddywedasant wrthynt eu hunain, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd? 4Ac wedi edrych i fyny#16:4 Yr oedd y bedd wedi ei naddu allan o graig oedd ar uchelfan., y maent yn dal sylw fod y maen wedi#16:4 wedi ei dreiglo yn ol [anakekulistai] א B L Brnd. wedi ei dreiglo ymaith [apokekulistai] A C. ei dreiglo yn ol; canys yr oedd efe yn fawr iawn. 5Ac wedi iddynt fyned i#16:5 i mewn A C D Brnd. Gad. B. mewn i'r bedd, hwy a welsant ddyn ieuanc yn eistedd o'r tu deheu, ac yr oedd am dano#16:5 Llyth.: wedi taflu am dano. wisg#16:5 Gr. stolê, gwisg laes. wen: a hwy a gawsant ddychryn#16:5 Gwel 9:15.. 6Ac efe a ddywed wrthynt, Na ddychrynwch. Yr ydych yn ceisio Iesu o Nazareth, yr hwn a groeshoelwyd: efe a gyfododd: nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. 7Eithr ewch ymaith: dywedwch i'w Ddysgyblion ef ac i Petr, ei fod ef yn myned o'ch blaen#16:7 Llyth.: yn eich harwain chwi, fel y Bugail Da. chwi i Galilea: yno chwi a'i gwelwch ef, fel y dywedodd i chwi. 8A hwy, wedi myned allan#16:8 ar frys E. Gad. א B A C D Brnd., a ffoisant oddiwrth y bedd; canys cryndod a syndod a'u goddiweddodd: ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys yr oeddynt yn ofni.
Anghrediniaeth y Dysgyblion
[Mat 28:9, 10; Luc 24:13–48; Ioan 20:11–23]
9[Ac#16:9 Gwel y nodiadau ar ddiwedd Efengyl Marc. wedi ei adgyfodi yn fore y Dydd Cyntaf o'r wythnos#16:9 Neu, Ac wedi ei adgyfodi yn fore y dydd Cyntaf o'r wythnos, efe a ymddangosodd, &c., efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r#16:9 apo. Llyth.: oddiwrth A X. Para, o ymyl C D L. (Nid yn unig bwriodd hwynt allan, ond danfonodd hwynt ymaith). hon yr oedd efe wedi bwrw allan saith o gythreuliaid#16:9 Neu, demoniaid.. 10Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gyd âg ef, yn awr yn galaru ac yn wylo: 11a hwynt‐hwy, pan glywsant ei fod ef yn fyw, a'i weled o hono ganddi, a anghredasant. 12Ond ar ol y pethau hyn, efe a amlygwyd mewn ffurf wahanol i ddau o honynt, fel yr ymdeithient ac yr aethent i'r wlad. 13A hwythau a aethant ymaith, ac a fynegasant i'r gweddill: ac ni chredasant iddynt hwythau.
14Yn ddiweddarach#16:14 Neu, yn ddiweddaf oll., efe a amlygwyd i'r Un‐ar‐Ddeg eu hunain, fel yr eisteddent i fwyta, ac efe a warthruddodd#16:14 Neu, efe a edliwiodd iddynt eu hanghrediniaeth. eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasant y rhai a'i gwelsant ef wedi iddo gael ei gyfodi.
Y Commissiwn mawr
[Mat 28:16–20]
15A dywedodd efe wrthynt,
Ewch i'r holl fyd,
A phregethwch yr Efengyl i'r holl greadigaeth#16:15 H. Y. i'r holl greadigaeth foesol, sef, i'r holl ddynolryw.:
16A phwy bynag a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig:
Eithr yr hwn ni chredo a gondemnir.
17A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid#16:17 Gr. demoniaid.; llefarant â thafodau#16:17 newyddion A La. Al. Diw. Gad. C L Δ Tr. WH.; 18ac yn#16:18 yn eu dwylaw C L X Δ Tr. Gad. A Al. Diw. eu dwylaw y codant seirff i fyny; ac os yfant ddim marwol ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y gosodant eu dwylaw, a hwy a fyddant iach.
Ei Esgyniad i'r Nef, a'i gyd‐weithrediad ar y ddaear
[Luc 24:49–52; Act 1:4–12]
19Yr Arglwydd Iesu#16:19 Iesu C L Δ Tr. WH. Diw. Gad. A Al. gan hyny, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fyny i'r Nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant yn mhob man, a'r Arglwydd yn cyd‐weithio, ac yn cadarnhâu y Gair, trwy yr arwyddion oeddynt yn canlyn#16:20 Amen C L X Δ. Gad. A Brnd..]#16:9–20 NODIAD AR ADNODAU 9–20. Fel rheol, nid oes gan feirniadaeth destynol ddim i wneyd ond â geiriau neu frawddegau unigol; ond yma, amheuir purdeb deuddeg adnod. Nis gellir meddwl fod Marc wedi dwyn ei Efengyl i derfyn gyda adnod 8, “Canys yr oeddent wedi ofni.” Felly, os yw yr adnodau hyn yn anmhur, naill ai ni chafodd ei Efengyl ei gorphen, neu fe gollwyd y rhan ddiweddaf o honi cyn ei hadysgrifenu. Y dybiaeth ddiweddaf yw y mwyaf tebygol, a rhoddwyd diweddglo arall iddi yn fore iawn, oblegyd dyfynir adnod 9 gan Irenæus fel rhan o'r Efengyl. Gellid tybied ar yr olwg gyntaf na ddylai unrhyw amheuaeth fod yn nghylch purdeb y wahanran hon, oblegyd y mae y mwyafrif o lawer o'r prif‐lawysgrifau yn ei chynnwys. Y mae yn y canlynol:— A C D E G K L M S U V X Γ Δ; er hyny, y mae ystyriaethau lawer yn profi yn amlwg na chafodd ei hysgrifenu gan Marc. Nid yw yn א B; ond gadawa yr olaf gyfwng maith rhwng diwedd adnod 8 a dechreu Efengyl Luc, fel pe byddai yr ysgrifenydd yn meddwl fod, neu yn y man lleiaf, dylai rhywbeth gael ei ychwanegu. Y mae dystawrwydd y ddwy lawysgrif uchod yn hynod bwysig. Yn L, ar ol adnod 8, cawn ychwanegiad gwahanol. Cawn y geiriau hyn fel math o ragymadrodd, gan ddangos ar unwaith nad yw yr hyn a ychwanegir uwchlaw drwgdybiaeth yn meddwl yr ysgrifenydd:— “Cofnodir yn rhywle y pethau hyn hefyd: ‘A'r holl bethau a orchymynwyd iddynt a adroddasant yn uniongyrchol i'r rhai oeddynt gyda Petr; ac ar ol y pethau hyn, yr Iesu ei hun a ddanfonodd allan drwyddynt genadwri sanctaidd ac anllygredig ei iachawdwriaeth dragywyddol o godiad yr haul hyd ei fachludiad.’ ” Cawn yr un ychwanegiad hefyd yn y llawysgrif redegog 274, ac ar ymyl y ddalen yn y Syriaeg diweddaraf. Hefyd yn L, ar ol y diweddglo byr uchod, cawn yr adnodau dau sylw; ac o'u blaen y mae y frawddeg hon, “Y pethau canlynol hefyd a gofnodir ar ol y geiriau ‘Canys yr oeddynt wedi ofni.’ ” Mewn perthynas i'r adnodau hyn, y mae tystiolaeth uniongyrchol y Tadau yn dechreu gyda Eusebius. Un o'i weithiau oedd ar “Anghyssonderau yn yr Efengylau.” Yr oedd Marinus wedi gofyn “Pa fodd y mae cyssoni adroddiad Matthew a Marc yn nghylch adgyfodiad Crist,” ac ateba Eusebius fel hyn — “Gellir rhoddi atebiad dauddyblyg. Gwna rhai wrthod yr hyn a ddyfynir o Marc, gan ddweyd nad ydyw mewn llawer o gopiau o'i Efengyl; hyny yw, y mae y copïau cywiraf yn dangos mai y geiriau, ‘Canys yr oeddent wedi ofni,’ sydd yn diweddu Efengyl Marc; ond nid yw yr hyn a ganlyna ond yn bresenol mewn ychydig o gopiau, a dylid ei wrthod, yn enwedig os yw yn anghysson â'r hyn a ddywed yr Efengylwyr ereill.” Y mae yn amlwg oddiwrth dystiolaeth Eusebius nad oedd yn ystyried adnod 9–20 fel yn perthyn i wir Efengyl Marc. Y mae tystiolaeth Victor a Jerome i'r un perwyl. Cawn yn yr adnodau hyn, yn mhlith pethau ereill, y pethau canlynol:— (1) Hanes (un o bedwar) o'r hyn a gymmerodd le ar ol yr Adgyfodiad. (2) Hanes (un o dri) o'r Esgyniad. (3) Yr unig grybwylliad yn yr Efengylau Hanesyddol am yr Eisteddiad ar y Llaw ddeheu. (4) Un o'r mynegiadau mwyaf cryf a diamwys o angenrheidrwydd Ffydd. (5) Arddangosiad o angenrheidrwydd Bedydd Y mae llawer o'r Tadau yn ymdrin â'r pynciau pwysig hyn, ac eto, ni cheir ynddynt unrhyw gyfeiriad at yr adnodau yma. Pe credasent eu bod yn rhan o Efengyl Marc, buasent yn sicr o'u dyfynu; ond ysgrifena llawer o honynt fel pe na fuasent yn gwybod dim am danynt. Yn holl lenyddiaeth Groeg cyn Cynghor Nice, nid oes ond dau gyfeiriad atynt; ac ni sonir dim am danynt yn holl ysgrifeniadau Origen a Clement o Alexandria. Yn holl ddarlithiau Cyril o Jerusalem ar Eistedd ar ddeheulaw y Tad, ar yr Esgyniad, ar Fedydd, &c., ni wna unrhyw ddefnydd o'r adnodau hyn, y rhai fuasent mor briodol iddo i'w defnyddio. Y casgliad naturiol yw, nad oedd yn gwybod dim am danynt. Ni chyfarfyddwn ychwaith ag unrhyw gyfeiriad atynt yn ysgrifeniadau lluosog Athanasius, Basil, Gregori o Nazianzus, Gregori o Nyssa, Cyril o Alexandria, a Theodoret. Os darllenwn weithiau y Tadau Lladinaidd, gwelwn eu bod yn anadnabyddus i Tertullian a Cyprian. Ysgrifenodd Tertullian lyfr ar Fedydd mewn ugain o bennodau, gan sylwi yn neillduol ar berthynas bedydd â ffydd; eto ni chyfeiria gymmaint ag unwaith at yr adnod a fyddai ar unwaith yn cadarnhâu ei bwnc. Y mae yn amheus pa un a gyfeiria Justin neu peidio at yr adnodau hyn; os felly, Irenæus yw yr unig un o'r Tadau cyn Cynghor Nice a wna ddefnydd amlwg o honynt. Yn y pedwerydd canrif, dyfynir hwynt gan Emrys ac Awstin. Yr Hen Syriaeg yw y cyfieithiad mwyaf pwysig ag sydd yn ffafriol iddynt. Mor bell ag y mae y tystiolaethau uchod yn myned, y maent yn dangos nad yw yr adnodau yn ddiweddglo a ysgrifenwyd gan Marc i'w Efengyl, ond eu bod wedi cael eu hychwanegu er yn fore iawn, ac yn lled adnabyddus yn y pedwerydd a'r pumed canrif. Ond pa beth allwn gasglu oddiwrth brawfion tufewnol? 1. Nid yw yn debyg y byddai i'r Efengylwr ddiweddu ei Efengyl gyda adnod 8. Os felly, buasai yn ddiweddiad rhyfedd o sydyn ac annysgwyliadwy. Ymddangosa yn fwy gwrthun yn y Groeg nag yn y Gymraeg, oblegyd cyssylltiad (gar) yw y gair diweddaf. Teimlodd yr hwn a ychwanegodd y Diweddglo Byraf, yr hwn a ddyfynwyd uchod, fod rhywbeth yn eisieu, ac felly cyflenwodd yr angen. Ni fuasai dim ond marwolaeth neu ddamwain hynod yn peri i Marc osod heibio ei ysgrifell ar ddiwedd adnod 8. 2. Y mae iaith a dullwedd yr adnodau hyn (9–20) yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth bob rhan arall o'r Efengyl. Wrth gymharu Groeg y rhai hyn â Groeg yr hyn a ä o'r blaen, gwelwn wahaniaeth dirfawr rhyngddynt. Er enghraifft, ni ddefnyddir mewn unrhyw ran arall o'r Efengyl y geiriau a gyfieithir ‘dydd cyntaf o'r wythnos’ (adnod 9), ‘hithau’ (adnod 10), ‘a aeth’ (adnod 10, 12, 15), ‘i'r rhai a fuasent gydag ef’ (adnod 10), ‘ei weled ef’ (adnod 11), ‘ac wedi hyny’ (adnod 12), ‘o'r hon’ (apo ac nid ek, adnod 9), a llawer ereill. 3. Os ystyriwn fater neu bwnc yr adnodau hyn, gwelwn yn amlwg na ddaethant o law Marc. Yn adnod 9, eir yn ol, ac nid yn y blaen. Yn adnod 1–8, dywedir pa fodd y gwnaeth Mair Magdalen a'r gwragedd ereill barotoi peraroglau, y daethant at y bedd, y cawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith, y gwelsant fab ieuanc yn eistedd yn y bedd, y derbyniasant o'i enau genadwri i'r Dysgyblion, ac y ffoisant mewn dychryn. Os yw yr adnodau dylynol yn bur, dylent gyfateb i Mat 28:9, &c.; ond yn lle hyny, yma (1) enwir Mair Magdalen yn unig, fel pe na fuasai y gwragedd ereill gyda hi. (2) Yn adnod 9, ar ol Mair Magdalen, ysgrifenir, “O'r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.” Pe buasai yr ysgrifenydd yn dechreu yr hanes, byddai y frawddeg hon yn hollol briodol; ond y mae yn hollol ddialw am dani pan yr ystyriom fod Mair wedi ei henwi yn barod. (3) Y mae yr ymadraddion “Wedi adgyfodi,” ac “a ymddangosodd yn gyntaf,” yn briodol yn nechreu hanes yr Adgyfodiad; ond y maent yn swnio bron yn chwithig mor bell yn mlaen ynddo. (4) Y mae rhyw ail‐adroddiad llaes yn adnod 9 ar ol darllen adnod 2. Darllena adnod 2 fel hyn, “Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o'r wythnos,” &c., ac adnod 9 fel hyn, “Ac wedi adgyfodi yn fore y dydd cyntaf o'r wythnos,” &c. Y mae y geiriau olaf yn briodol iawn yn nechreu adroddiad, ond yn hollol ddibwynt yn y man y maent. (5) Nis gallwn gyfrif yn iawn am adawiad allan y gair Iesu yn adnod 9; oblegyd nid oes ond rhyw un cyfeiriad dygwyddiadol tuag ato yn yr wyth adnod flaenorol. Cymharer Mat 28:9, “Wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt,” Luc 24:15, “Yr Iesu ei hun hefyd a neshâodd,” Ioan 20:14, “Ac a welodd yr Iesu yn sefyll.” Y mae yr ystyriaethau hyn, gyda llawer ereill, yn dangos yn amlwg nad yw adnod 9–20 yn barhâd naturiol, esmwyth, a chysson o adnod 1–8. Gwelir, felly, mai nid rhan gynhenid o Efengyl Marc yw yr adnodau hyn, ond ychwanegiad iddi. Yna, cyfoda y gofyniad, “Pwy a'u gosododd i fewn?” neu, “O ba le y daethant?” Dywed rhai iddynt gael eu chwanegu gan Marc yn mhen amser ar ol iddo ysgrifenu y rhan flaenorol. Ond nid yw hyn ond tybiaeth heb sylfaen iddi. Barn ereill ydyw, fod y rhan olaf o'r Efengyl wedi ei cholli; a chan fod adnod 8 yn terfynu mor sydyn, fod rhyw olygydd neu ysgrifenydd wedi gosod i fewn yr adnodau olaf fel diweddglo. Y mae y syniad hyn yn naturiol mor bell ag y mae y Diweddglo Byraf yn myned; ond nid yw adnodau 9–20 yn debyg i'r hyn a ychwanegid gan adysgrifenydd neu olygydd; felly, teflir ni yn ol ar y syniad canlynol, yr hwn a ymddengys i ni y mwyaf tebygol:— Sef fod y rhan ddiweddaf o Efengyl Marc wedi ei cholli (dyweder un ddalen) cyn i gopiau o honi gael eu gwneyd; a bod un adysgrifenydd wedi chwanegu yr hyn a elwir y Diweddglo Byraf; ond fod yn meddiant ysgrifenydd arall draddodiad neu hanes byr o ddyddiau olaf ein Harglwydd ar y ddaear; a'i fod wedi gosod hwn fel diwedd naturiol yn lle yr hyn a gollasid. Yn ein tyb ni, y syniad hwn yw yr unig un a gyfrif am ffeithiau a neillduolion y rhan olaf o'r Efengyl fel y mae yn bresenol yn ein meddiant. Mewn cyfieithiad diwygiedig, ni ddylent ar un cyfrif gael eu gadael allan; eto, dylid eu gwahaniaethu mewn rhyw fodd neu gilydd oddiwrth yr hyn a ysgrifenwyd gan Marc ei hun, dyweder, trwy eu gosod rhwng cromfachau.
Dewis Presennol:
Marc 16: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.