Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 2

2
Gweddi Hanna
1Gweddïodd Hanna a dweud:
“Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD,
dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD.
Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion,
oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth.
2Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD,
yn wir nid oes neb heblaw tydi,
ac nid oes craig fel ein Duw ni.
3Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus,
na gadael gair hy o'ch genau;
canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD,
ac ef sy'n pwyso gweithredoedd.
4Dryllir bwâu y cedyrn,
ond gwregysir y gwan â nerth.
5Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara,
ond y newynog yn gorffwyso bellach.
Planta'r ddi-blant seithwaith,
ond dihoeni a wna'r aml ei phlant.
6Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau,
yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu.
7Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi,
yn darostwng a hefyd yn dyrchafu.
8Y mae'n codi'r gwan o'r llwch
ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,
i'w osod i eistedd gyda phendefigion
ac i etifeddu cadair anrhydedd;
canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear,
ac ef a osododd y byd arnynt.
9Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid,
ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch;
canys nid trwy rym y mae trechu.
10Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD;
tarana o'r nef yn eu herbyn.
Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear;
fe rydd nerth i'w frenin
a dyrchafu pen ei eneiniog.”
11Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli.
Meibion Eli
12Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD. 13Arfer yr offeiriaid gyda'r bobl, pan fyddai unrhyw un yn offrymu aberth, oedd hyn: tra oeddent yn berwi'r cig, dôi gwas yr offeiriad gyda fforch deirpig yn ei law 14a'i tharo i mewn i'r badell, neu'r sosban, neu'r crochan neu'r llestr; yna cymerai'r offeiriad beth bynnag a ddygai'r fforch i fyny. Felly y gwneid yn Seilo gyda'r holl Israeliaid a ddôi yno. 15Ond dechreuodd gwas yr offeiriad ddod cyn llosgi'r braster hyd yn oed, a dweud wrth y dyn oedd yn offrymu, “Rho gig i'w rostio i'r offeiriad; ni chymer gennyt gig wedi ei ferwi ond cig ffres.” 16Os dywedai'r dyn, “Gad iddynt o leiaf losgi'r braster yn gyntaf, yna cymer iti beth a fynni,” atebai, “Na, dyro ar unwaith, neu fe'i cymeraf trwy rym.” 17Yr oedd pechod y llanciau yn fawr iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, oherwydd yr oedd dynion yn ffieiddio offrwm yr ARGLWYDD.
Samuel yn Seilo
18Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu gerbron yr ARGLWYDD mewn effod liain. 19Byddai ei fam yn gwneud mantell fach iddo, ac yn dod â hi iddo bob blwyddyn pan ddôi gyda'i gŵr i offrymu'r aberth blynyddol. 20A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, “Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD.” 21Ac fe ymwelodd yr ARGLWYDD â Hanna, a beichiogodd a geni tri mab a dwy ferch. Tyfodd y bachgen Samuel yn nhŷ'r ARGLWYDD.
Eli a'i Feibion
22Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wnâi ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod. 23Dywedodd wrthynt, “Pam y gwnewch bethau fel hyn? Rwy'n clywed gair drwg amdanoch gan y bobl yma i gyd. 24Na'n wir, fy meibion, nid da yw'r hanes y clywaf bobl Dduw yn ei ledaenu. 25Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?” Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd. 26Ac yr oedd y bachgen Samuel yn dal i gynyddu ac ennill ffafr gyda Duw a'r bobl.
Proffwydoliaeth yn erbyn Teulu Eli
27Daeth gŵr Duw at Eli a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Oni'm datguddiais fy hun i'th dylwyth pan oeddent yn yr Aifft yn gaethion#2:27 Felly Groeg. Hebraeg heb yn gaethion. yn nhŷ Pharo? 28Fe'u dewisais o holl lwythau Israel i fod yn offeiriaid i mi, i offrymu ar fy allor a llosgi arogldarth a gwisgo effod o'm blaen, a rhoddais i'th dylwyth holl offrymau llosg yr Israeliaid. 29Pam yr ydych yn llygadu fy aberth a chwennych fy offrwm a orchmynnais#2:29 Felly Groeg. Hebraeg, yn sarnu fy aberth a'm hoffrwm a orchmynnais yn fy nghysegr., ac anrhydeddu dy feibion yn fwy na mi, a'ch pesgi'ch hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?’ 30Am hynny,” medd ARGLWYDD Dduw Israel, “er yn wir imi ddweud y câi dy linach a'th deulu wasanaethu ger fy mron am byth, yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “pell y bo hynny oddi wrthyf, oherwydd y rhai sy'n f'anrhydeddu a anrhydeddaf, a diystyrir fy nirmygwyr. 31Y mae'r dyddiau ar ddod y torraf i ffwrdd dy nerth di a nerth dy dylwyth, rhag bod un hynafgwr yn dy dŷ. 32Yna, yn dy gyfyngdra, byddi'n llygadu holl lwyddiant Israel, ond ni fydd henwr yn dy dŷ di byth. 33Bydd unrhyw un o'r eiddot na fyddaf yn ei dorri i ffwrdd oddi wrth fy allor yn boen llygad ac yn ofid calon iti, a bydd holl blant dy deulu yn dihoeni a marw. 34Bydd yr hyn a ddigwydd i'th ddau fab, Hoffni a Phinees, yn argoel iti: bydd farw'r ddau yr un diwrnod. 35Sefydlaf i mi fy hun offeiriad ffyddlon a weithreda yn ôl fy nghalon a'm meddwl; adeiladaf iddo dŷ sicr a bydd yn gwasanaethu gerbron f'eneiniog yn wastadol. 36A bydd pob un a adewir yn dy dŷ di yn dod i foesymgrymu iddo am ddarn arian neu dorth o fara a dweud, ‘Rho imi unrhyw swydd yn yr offeiriadaeth, imi gael tamaid o fara’.”

Dewis Presennol:

1 Samuel 2: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda