1 Samuel 3
3
Yr ARGLWYDD yn Ymddangos i Samuel
1Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron Eli, yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych. 2Un noswaith yr oedd Eli yn gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau'n methu gweld. 3Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr ARGLWYDD, lle'r oedd arch Duw. 4Yna galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, “Dyma fi.” Rhedodd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf.” 5Atebodd ef, “Nac oeddwn, dos yn ôl i orwedd.” Aeth yntau a gorwedd. 6Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, “Samuel!” Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn fy ngalw.” Ond dywedodd ef, “Nac oeddwn, fy machgen, dos yn ôl i orwedd.” 7Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr ARGLWYDD, a chyn bod gair yr ARGLWYDD wedi ei ddatguddio iddo. 8Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, “Samuel!” A phan gododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf,” deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen. 9Felly dywedodd Eli wrth Samuel, “Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, ‘Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando’.” Aeth Samuel a gorwedd yn ei le. 10Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!” A dywedodd Samuel, “Llefara, canys y mae dy was yn gwrando.”
11Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth yn Israel a fydd yn merwino clustiau pwy bynnag a'i clyw. 12Y dydd hwnnw dygaf ar Eli y cwbl a ddywedais am ei dŷ, o'r dechrau i'r diwedd; 13a dywedaf wrtho fy mod yn barnu ei dŷ am byth, oherwydd gwyddai fod ei feibion yn melltithio Duw#3:13 Felly Groeg. Hebraeg, am byth, am y drygioni a wyddai; am fod ei feibion yn melltithio iddynt., ac ni roddodd daw arnynt. 14Am hynny tyngais wrth dŷ Eli, ‘Ni wneir iawn byth am ddrygioni tŷ Eli ag aberth nac ag offrwm’.”
15Gorweddodd Samuel tan y bore, yna agorodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD; ond ofnai ddweud y weledigaeth wrth Eli. 16Galwodd Eli ar Samuel, “Samuel, fy machgen.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna holodd, “Beth oedd y neges a lefarodd ef wrthyt? 17Paid â'i chelu oddi wrthyf. Fel hyn y gwnelo Duw iti, a rhagor, os cuddi oddi wrthyf unrhyw beth a lefarodd ef wrthyt.” 18Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, “Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg.”
19Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu. 20Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD. 21A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.
Dewis Presennol:
1 Samuel 3: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004