Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 16

16
1Anfonodd llywodraethwr y wlad ŵyn
o Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.
2Y mae merched Moab wrth rydau Arnon
fel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.
3“Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir;
bydded dy gysgod fel nos drosom,
hyd yn oed ar ganol dydd;
cuddia'r ffoaduriaid,
paid â bradychu'r crwydriaid.
4Bydded i ffoaduriaid#16:4 Felly Groeg. Hebraeg, fy ffoaduriaid. Moab aros gyda thi;
bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd.”
Pan ddaw diwedd ar drais,
a pheidio o'r ysbeilio,
a darfod o'r mathrwyr o'r tir,
5yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch,
ac arni fe eistedd un ffyddlon
ym mhabell Dafydd,
barnwr yn ceisio barn deg
ac yn barod i fod yn gyfiawn.
6Clywsom am falchder Moab—
mor falch ydoedd—
ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd,
heb sail i'w hymffrost.
7Am hynny fe uda Moab;
uded Moab i gyd.
Fe#16:7 Felly Fersiynau. Hebraeg, Cewch. riddfana mewn dryswch llwyr
am deisennau grawnwin Cir-hareseth.
8Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma;
drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion;
buont yn cyrraedd hyd at Jaser,
ac yn ymestyn trwy'r anialwch.
Yr oedd ei blagur yn gwthio allan,
ac yn cyrraedd ar draws y môr.
9Am hynny wylaf dros winwydd Sibma
fel yr wylais dros Jaser;
dyfrhaf di â'm dagrau, Hesbon ac Eleale;
canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.
10Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd;
mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd,
ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau,
a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.
11Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab,
a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.
12Pan ddaw Moab i addoli,
ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa;
pan ddaw i'r cysegr i weddïo,
ni thycia ddim.
13Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt. 14Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, “Ymhen tair blynedd, yn ôl tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys.”

Dewis Presennol:

Eseia 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda