Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 17

17
Yn Erbyn Damascus
1Yr oracl am Ddamascus:
“Wele fe beidia Damascus â bod yn ddinas;
bydd yn bentwr o adfeilion.
2Gwrthodir ei dinasoedd am byth#17:2 Felly Groeg. Hebraeg, Bydd dinasoedd Aroer wedi eu gwrthod.,
a byddant yn lle i ddiadelloedd
orwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.
3Derfydd am y gaer yn Effraim,
ac am y frenhiniaeth yn Namascus;
bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel,”
medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4“Ac yn y dydd hwnnw,
bydd gogoniant Jacob yn cilio
a braster ei gig yn darfod.
5Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd ŷd,
ac yn medi'r tywysennau â'i fraich,
bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.
6Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd,
dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau,
pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed,”
medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
7Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel. 8Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu. 9Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid#17:9 Cymh. Groeg. Hebraeg, fel tir coediog a rhosydd., a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.
10Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd;
ni chofiaist graig dy gadernid;
am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryd
a gosod impyn estron,
11a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy
ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy,
bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid
a gwendid nychlyd.
12Och! Twrf pobloedd lawer
yn taranu fel tonnau'r môr;
y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.
13Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion,
pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell;
erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt,
fel plu ysgall o flaen corwynt.
14Tua'r hwyrddydd wele drallod;
cyn y bore aeth y cyfan.
Dyma dynged ein hysbeilwyr,
dyma ran ein rheibwyr.

Dewis Presennol:

Eseia 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda