Psalmau 42
42
Y Psalm. XLII. Englyn Unodl Union.
1Fal y karw hwyrfarw wedi ei yrfa, — daith,
Y dŵr fe’i chwennycha,
Enaid mau felly dhymuna
Ar dy ol yn dhedhfol dha.
2Sych fy enaid, rhaid, yn lle rhodiaf — byth,
Am Dduw byw a garaf:
Pa bryd yn d’ŵydh, rhwydh yr af,
I gyssegr ymdhanghosaf?
3Dydh a nos, unnos yna, — yn egrwydh,
Fy nagrau wy ’n fwytta;
Trydar clywais, nid trada,
Mae dy Dduw? ammod oedh dha.
4O eigion calon, coelier, — Duw, d’wedais,
Didwyll goffa Mawrner;
Am im’ fyned, nodhed Nêr,
Dawn afiaeth, gyda nifer.
Mawl genais, blaenais a bloedh, — a da dhawn,
I dŷ Dduw ar gyhoedh;
Fal mawrder nifer llon oedh
Yn glodhest yn y gwledhoedh.
5Pa dristyd, f’enaid? pa drystiaw — o’m mewn?
Aros! mae Duw ’n helpiaw:
Waetiaf ar Dduw Naf, a dhaw;
Wych wedh, rho’f dhiolch idhaw,
6Am ei gymmorth a’m porthes, — o fwyn wedh,
Duw, fy Nuw dirodres:
Syrth f’enaid i laid, heb les,
Am dy goffa, mad gyffes,
O dir Urdhonen hyd ar — y mynydh,
Hermoniaid aflafar;
O ’r bryn bychan, gwiwlan, gwar,
A maes a elwid Misar.
7Vn dyfngadr raiadr sy ’n rhuo, — fan arw,
I tann arall ogof;
Dy ffrwd tonnau ’n gwau dan gof,
Ond traws ir aethant trosof.
8Dengys dydh yn rhydh ar ei hyd, — deg ran!
I garedigrwydh hyfryd:
Canaf y nos, gyfnos gyd,
Wedhi mau, Wiwdhuw ’ mywyd.
9Wyd fy ffelaig craig cẁr ogof, — a dadl
D’wedaf wrth Dduw mawrgof,
Pam i’m gedaist, gwedaist gof,
O fewn ing, fyfi ’n anghof.
Pam, Naf, y rhodiaf, er hoyw‐wadu — bar,
A galar heb gelu;
A’m gelyn, y deldhyn dû,
A gwarth rhoch, i’m gorthrechu.
10Tyr yn chwyrn f’esgyrn, e fydh — im’ gilwg
Gan y galon celfydh;
D’wedant, Ri, boeni beunydh,
Mae dy Dduw? am wawd i dhydh.
11Pa dristyd, f’enaid? pa drystiaw — o’m mewn?
Aros! mae Duw ’n helpiaw:
Waetiaf ar Dduw Naf, a dhaw;
Wych wedh, rho’f dhiolch idhaw.
Ef sydh hybarch, barch bob awr — yw’m hannerch,
A’m traserch, a’m trysawr;
A’m hiechyd ennyd unawr,
A’m da i’m hoes, a’m Duw mawr.
Dewis Presennol:
Psalmau 42: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.