Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 43

43
Y Psalm. XLIII. Englyn Unodl Union.
1Barna fi, Geli, rhag galon, — dhwyffordh
Ymdhiffyn dy weision;
A gwared dy was gwirion
Rhag twyll y rhai drwg a’u tôn.
2Paham, gwarth Adam, gwrthodyd — im’ ras
Pan yr wyf mewn tristyd?
Drwy orthrymder ni’m gweryd,
Dïal oer boen, diawl a ’r byd.
3Gyr d’oleuad rhad a rhediant, — a’th wir,
Deubeth, Iôr, Anwylsant;
I’th fynydh glwys hwy’m t’wysant,
O serch i’th luest‐dai, Sant.
4Uwch dy fawr allawr tra allwyf — lluniaf
Fy llawenydh hirnwyf;
A ’r delyn, er a dalwyf,
Duw, fy Nuw, byth d’ofyn b’wyf.
5Pa dristyd, f’enaid? pa drystiaw — o’m mewn?
Aros! mae Duw ’n helpiaw:
Waetiaf ar Dduw Naf, a dhaw;
Wych wedh, rho’f dhiolch idhaw.
Ef sydh hybarch, barch bob awr — yw’m hannerch,
A’m traserch, a’m trysawr;
A’m hiechyd ennyd unawr,
A’m da i’m hoes, a’m Duw mawr.

Dewis Presennol:

Psalmau 43: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda