Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 44

44
Y Psalm. XLIV. Cywydd Deuair Hirion.
1Duw, clywsom yn dacluswych
A ’n clustiau y geiriau gwych;
D’wedodh ein tadau wedi,
Oedh deg, dy weithredoedh di,
A wnaethost, gwirfost nid gau,
Nôd adhysg, yn eu dydhiau.
2Diwreidhiaist a’th law drwydhynt
Genhedloedh ar gyhoedh gynt;
A phlennaist hoff haelioni,
Ti ydyw Nêr, i ’n tadau ni:
Peraist, Nêr, kyfiawnder fu,
Ond hyfedr, idhynt dyfu.
3Dinystriaist y dyn estron
I b’le dhaeth y bobloedh, Iôn;
Ni fedhiannynt, fodh anhael,
Y tir o’u nerth mewn trin wael;
Nid eu braich, uniondeb rodh,
Na’u hoccedion, a’u cadwodh;
Dy fraich, deheulaw dy fron,
A’th lewych taerwych, tirion, —
Dy wyneb, dy ras dinam,
Difai, a’u cadwai rhag cam.
4O Duw tri, im’ o daw trin
Mawr iawn, ydwyd fy Mrenhin;
Gyr i Siacob, trwy obaith,
Gymmorth am ei gam gan gaith.
5Y gelyn dig galwn di,
A ysgiliwn, Duw, os gweli:
Trwy d’enw, Naf, troediwn ŵr,
Sy’m erbyn, gelyn, gwaelwr.
6Ymdhiriaid f’enaid ni fydh
Yn ’y mwa o’m awydh?
A dhichon fy nghledh awchus,
O b’ai raid, fy nghadw heb rus?
7Achubaist di nyni ’n wyr,
Iawn obaith, rhag gwrth ’nebwyr;
A gw ’radwydhaist, gryd waedhi,
Y sy ’n wyr i ’n cashau ni.
8I Dduw nef fyth rhodhwn fawl,
Ys da ydyw, ’n wastadawl;
Cyffeswn, koffa i oesoedh,
I enw ef fyth o nef oedh.
9Wyd weithion, hoyw union hyf,
Ddu erthwch, bell odhiwrthyf;
A dodi ni, Dad y nerth,
Y’m brae adfyd ammhrydferth;
Gyda ’n lluoedh, lle ’r oedh ran,
Deallir, nid ai allan.
10Gwn oll, O Dduw, y gwnai yn,
Gilio o flaen y gelyn:
Y gwas drwg y sydh gas draw,
A rhuthr, sydh i ’n anrheithiaw.
11Rhoi ni i ’n bwytta, rhyw nad,
Ofal dyfal, fal dafad;
Gwasgeri ni, gwaisg ran oedh,
Yn odlawd, ’mysg cenhedloedh.
12Gwerthi dy bobl a gwyrthiau
Yn lle tost, heb ennill tau;
Heb godi ’u gwerth, drudnerth dro,
Yn brittach a bar etto.
13Gwnai ni ’n dhirmig, dig yw ’r dôn,
A dig i ’n cymmydogion;
Dig drwy sen, a bric brennu,
A garw dôn, a phob gair dû;
Gan dhynion sydh, gelfydh gylch,
I ’n hymgais ni o amgylch.
14Dihareb wyf, nwyf, Iôn, oedh,
Cain udlais, ir cenhedloedh;
Cyfatgen arw awen rym —
Adwyth gan bobloedh ydym.
15A beunydh im’ bu anair,
Fy ngw ’radwydh i’m gŵydh a gair:
C’wilydh fy ngwyneb, Celi,
Accw oedh waeth i’m cudhio i:
16Gan lais a malais milain
Ysglandriwr a ’r cablwr cain,
A ’r gelyn, y deldhyn dig,
A ’r dïalwr dielwig.
17Daeth o drais hyn o daith draw,
Ing hefyd, heb dy anghofiaw;
Didwyll weithian, da ydyw,
Yn dy ammod, gyfnod gwiw.
18Ni throdh o’i hol, dedhfol dôn,
Coeliwch, mo gwraidh ein calon;
Nag allan, fal enw gwilliad,
O’th lwybrau, mewn camrau cad.
19Curaist ni i lawr, fal cawr cau,
O ’r drygwaith, i le ’r dreigiau:
Anhudhaist, gwesgaist gysgod
Angau i ni, angen nôd.
20O gollyngais, gwall anghof,
O drais gamp, enw Duw dros gof,
Na chodi draw dhwylaw ’n dhall
I Dduw dïeithr a deall;
21Oni chwili uchelwaith,
Da hoyw Nêr, Duw, hyn o waith?
Fe ŵyr Duw, diofer dôn,
Ddirgelwch dhiwair galon.
22Er dy fwyn, Iôr, Duw, F’anwyl,
Lledhir ni ’n faith, gwaith a gwyl;
Fe ’n rhifed, noethed neithwyr,
Fal dafad yw lladhiad llwyr.
23Cyfod, pam, Arglwydh kyfiawn,
Y cysgi, Duw Ri dewr iawn?
24Pam y cudhiaist, haedhaist hwyl,
Dy wyneb, O Duw anwyl?
Anghofi ’n trueni trin,
A ’n hadfyd, gwryd gerwin?
25Curwyd ein heneid, peidiwch,
I ’stôr llawn o ’r dwst a ’r llwch:
Ein bol a lŷn, fawdhyn far,
O dhiangc, wrth y dhaear.
26Cyfod, bu ammod im’ borth,
Accw imi, i’m cymmorth;
A phryn di ni, henwi hedh,
Drwy gariad dy drugaredh.

Dewis Presennol:

Psalmau 44: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda