Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 45

45
Y Psalm. XLV. Cywydd Deuair Hirion.
1Traethaf fyfyrdawd tratheg
A’m calon yn dirion deg;
A ganwyf oll a’m genau
Fydh angerdh brenhingerdh brau:
Cyflymach ag anach gwawd
Yn hyfedr yw fy nhafawd,
Na phin a llaw, canllaw côr,
Parawd ’sgrifennydh puror.
2Teccach, disymlach, da son,
Wyt hynod, na phlant dynion:
Mae gras ag urdhas yn gwau
O dwf îs dy wefusau:
Duw a’th fendigodh heb dawl,
Dro gwedhus, yn dragwydhawl.
3Gwisg i’th fordhwyd gloywlwyd gledh,
Wyd oruchaf, drwy wychedh;
A hyn a fydh, cerydh cant,
Yn deg iawn dy ogoniant.
4Rhwydhynt rhagod, hynod hedh,
Yn rhad a’th holl anrhydedh;
Marchawg ydwyt, Iôr mawrchwyrn,
Ar y gair, gwir, cenir cyrn,
Ag ufudh‐dawd parawd, pêr,
O fendith a chyfiawnder.
5Torfoedh y bobloedh o ’r byd
Tanad gostyngant ennyd.
6Duw uchel dy wehelyth,
Dy drwn fry a bery byth:
Dy deyrnwïalen ’splennydh,
Dyner, kyfiawnder a fydh.
7Cywraint kyfiawnder cerit;
Anwiredh, suredh, cas it’:
Duw a’th irodh, llawrodh llon,
Ag olew llawen galon
Yn Frenhin gwerin gariad,
Digydymaith, rhwydhwaith rhad.
8Mae arogl myrr, miragl mau,
Ar dy dhillad aur‐dhulliau;
Gwynt aloës gennyt eilwaith,
A sawr cassia, gwycha’ gwaith;
O’th balis gwefr, a’th blas gynt,
Yn wych lle, i’th lawenychynt.
9Merched brenhinoedh gwedi
Gyda’th wragedh, ryfedh ri’:
I’th dheheulaw hylaw, hir,
Faith aur affaith o ’r Ophir,
Y frenhines gynnesaur
A gysgai oll mewn gwisg aur.
10Gwrando, ferch, dhiweirferch dha,
Is dwyrain, degle, ystyria;
Gollwng, fal pe b’ai gwilliad,
Dros gof lwyth dylwyth dy dad.
11Didhan fydh dy wedh neu fin,
Eurber anadl, ir Brenhin.
12Merched Tirus, gwedhus, gwych,
A ’r rhai gorau rhagorwych,
Gostyngant, dygant, digwydh,
Ger dy fron anrhegion rhwydh.
13Dy dhillad brodiad a’u brig
Dodwyd o aur brodiedig.
14Yno i’th dhygir, gwelir gwin,
Ger ei fron, gorau Frenhin,
Mewn dillad, rhyw wisgiad rhwydh,
Weithian yd o waith nodwyd.
15Ac ar dy ol dedhfol dön’
(Freinniol) dy law‐forwynion.
16Yn lle dy dad, llwyda’ dyn,
Abl o untal, ca’i blentyn;
Hwnnw a fydh, Iôr rhydh y rhawg,
Un dewisawl, yn d’wysawg, —
Yn oruchaf, gwychaf, gwar,
A dhewis yr holl dhaear.
17Gwnaf d’enw, gwỳnfyd uniawn,
Yn dragwydhawl, dhedhfawl dhawn;
A diolch byth heb dewi,
Bu abl y tal y bobl i ti.

Dewis Presennol:

Psalmau 45: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda