Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 46

46
Y Psalm. XLVI. Englyn Unodl Union.
1Duw yw ein gobaith, Dewin, — a’i wyrthiau,
A ’n nerthwr cyffredin;
I help ef oedh gynnefin,
Yn barawd mewn trallawd trin.
2Nid ofnwn, safwn, er sias — cur anial,
Cryned daear dhulas;
Cwymped mynydhoedh cwmpas
I lawr goror gloywfor glas.
3Er rhyferthwyf nwyf nofiaw, — a difrad
Dyfroedh wedi trwbliaw;
Er perigl mynydh siglaw,
Drwy donnau golchiadau gwlaw.
4Mae yn siwr ryw dhŵr a rydh wên — gwedi
I giwdawd Duw Iôr llên;
I ’r lluest seintwar llawen
Y Goruchaf haelaf, hên.
5Mae yndhi, gweli goelion, — Cûn eurfad;
Ni’m cynhyrfir weithion:
Yn forau Duw nef wirion
Y sydh draw yn helpiaw hon.
6Pe rhön’ draw rhuaw gwyr hawdh — at oernad,
Pob teyrnas cynhyrfawdh:
Taranau Duw a’u trinawdh,
Tan llachar daear a dawdh.
7Duw lluoedh ys oedh yn siwr — gyda ni,
Gadwn ef yn gyflwr;
Duw Iago nef, deg iawn Wr,
Wych obaith, yw ’n Hachubwr.
8Edrychwch, gwelwch waith Duw gwar, — eurglod,
Arglwydh nef digymmar:
Gwnaeth dhifrad, bu afrad bar,
Iraidh Dduw, ar y dhaear.
9Dymchwel y rhyfel rhifa, — iaith ofeg,
Hyd eithafion pella’:
Arfau ’r cadarn a dharnia,
Eu ceir a lysg, derfysg da.
10Gwastatta yna ennyd — ydoedh iawn,
Wyf dy Dduw a’th iechyd:
Uwch nef a daear hefyd
Y mynni barch mewn y byd.
11Duw lluoedh ys oedh yn siwr — gyda ni,
Gadwn ef yn gyflwr;
Duw Iago nef, deg iawn Wr,
Wych obaith, yw ’n Hachubwr.

Dewis Presennol:

Psalmau 46: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda