Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 49

49
Y Psalm. XLIX. Awdl Gywydd, o ’r hen ganiad.
1Yr holl bobloedh, er eich lles,
Dowch yn nes i wrando;
A de’ glywch chwi bawb y ’nghyd
Sydh yn y byd yn tario:
2Isel, uchel, man, a bras,
Cas, a chydymdeithion;
Y cyfoethawg, a phob tlawd,
Car, a brawd, ac estron.
3Ni dhaw dim o’m genau pêr
Onid doethder mwynffraeth;
A ’r myfyrdawd dan fy mron,
Fy nghalon, yw gwybodaeth.
4Yr wyf fi ’n bwriadu draw
Wrandaw ar dhamhegion;
Ac a draetha’ ngherdh fal hyn
Gyda ’r delyn gyson.
5Pam yr ofnaf, na dal gwg,
Er bod yn dhrwg y dydhiau?
A chwmpasu o bechod ffol
Hyd ar ol fy sodlau?
6Yn eu golud, wrth eu rhaid,
Yr ymdhiriaid annoeth:
Ac a fostiant yn eu byw
Amled yw eu cyfoeth.
7Nid all dyn gan Dduw a’i rhoes
Brynu einioes undyn;
Ac ni dhichon, mae ’n rhy drwm,
Dalu arianswm drostyn’.
8Gwerthfawr ydyw gan Dduw mau
Yr eneidiau duwiawl,
9Ger ei fron, Duw gorau fry,
A bery yn dragwydhawl.
10Nid all neb, er hyn o hawl,
Fyw ’n dragwydhawl dirion;
Rhaid yw idhynt fyn’d ir bedh,
A gorwedh gyda ’r meirwon.
Pawb a welwch ar eu hynt,
Rhaid idhynt feirw unawr;
Call ac anghall, dall a doeth,
A gado’u cyfoeth tramawr.
11A bwriadu gadu yw plant
Fedhiant yn eu tiroedh;
Plasau pleser, bryder brau,
I barhau oes oesoedh.
12Dyn ni phery yn ei ras,
Nag yn ei urdhas bydol;
Fe fydh farw dan y dail
Fal ’nifail pedwar carnol.
13Ni ochelant hyn ar ol,
Er bod yn ffol y llwybrau;
Yr un ffyrdh a gerdh eu plant,
A gerdhasant hwythau.
14Fal y gyrrir defaid mau
I ’r gordhlan cyn eu lladhfa;
Angau caeth a’u gyr hwy ir bedh
I orwedh wedi’u difa.
Y rhai cyfion ffrwythlon, ffraeth,
A gaiff lywodraeth arnynt;
Fe dhiflanna’u pryd a’u gwedh
Cyn myn’d ir bedh o honynt.
15Ond yr Arglwydh wrth fy rhaid
Sy ’n gwared f’enaid cyfion
Odhiwrth nerth y bedh a ’r gro
A’i derbyn atto ’n union.
16Na fid arnad ofn ychwaith
Er golud maith annuwiol;
A chynnydhu yn ei blas
I urdhas yn orchestol.
17Can’s ni chymmer gydag ef
Ddim yw gartref ola’,
Ac ni dhilyn ar ei ol
I falchder ffol odhiyma.
18A thra ’r ydoedh yn y byd,
Pawb a’u gwỳnfyd eiriau
Yn ei ganmol, trwy fawr hud,
O serch ei olud yntau.
19Rhaid yw idhynt fyn’d yn frau
Ar ol eu teidiau bydol;
Yn llaw angau, fal eu rhyw,
Ni’s gallant fyw ’n dragwydhol.
20Gŵr mewn urdhas ni bydh gall,
Ac ni dheall hynny,
Fal anifail hwn a fydh
Dan y gwŷdh yn rhynu.

Dewis Presennol:

Psalmau 49: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda