Psalmau 50
50
Y Psalm. L. Unodl Gyrch, o ’r hen ganiad.
1Duw ’r duwiau, Arglwydh llafar,
D’wedodh, galwodh holl dhaear,
O gyfodiad haul heb hud
Hyd ei fachlud claiar.
2O Seion dirion dyrau,
Perffeithrwydh glendid golau,
Yr Arglwydh ymdhanghosawdh
A thywynawdh i ninnau.
3Duw a dhaw heb dhistewi,
A than o’i flaen yn llosgi;
A rhyferthwy, dymhestl mawr,
Nef a llawr yn todhi.
4Ef a eilw y nefoedh,
I dhwyn tystion ar gyhoedh,
A ’r holl dhaear, un Duw cu,
Pan êl i farnu ’r bobloedh.
5Gwelwch, medh ef, drwy fawrnerth,
Cesglwch fy saint yn brydferth,
Y sawla wnelo ammod
Trwy dhygymmod ac aberth.
6A ’r nefoedh oll a draethan’
I gyfiawnder, drwy dhatgan;
Can’s yr Arglwydh ydyw ’r Gŵr
Y sydh Farnwr ei hunan.
7Gwrandewch, bobloedh daearawl,
Mi a dystiolaetha ’n hollawl,
Degle Israel, Wyf dy Dduw,
Sef dy Wirdhuw nefawl.
8Ni ro’f gerydh i tithau
Am na wnaethost aberthau;
Ac ni cheisiaf fi, pe cawn,
Offrwm nawn a borau.
9Dy eidionau ni cheisiaf,
Na ’r afr, na ’r dhafad frasaf:
10Holl ’nifeiliaid mynydhoedh
A ’r fforestoedh a fedhaf.
11Myfi a adwaen beunydh
Yr holl adar o ’r mynydh;
A ’r ’nifeiliaid gwyllt a gwar,
Y cwbl sy ar y meusydh.
12Os newyn a dhaw arnaf,
Wrthyt ti nid achwynaf;
Myfi piau yr holl fyd,
Y cwbl i gyd sydh danaf.
13Cig y teirw ni’s bwyttaf,
A gwaed y geifr ni’s yfaf;
14Offrwm foliant i Dduw draw,
Tal adhaw ir Goruchaf.
15Galw di arnaf mewn amser
Pan dhêl trallod a blinder;
Mi a’th achubaf, a thydi
A’m gogonedhi ’n syber.
16Wrth y drwg, Duw a dh’wedodh,
Pam y traethi fy nghymmod?
Pam y cym ’ri yn dy ben
Fal pe b’ai sen fy nefod?
17Dy gospi a wrthodaist,
A’m geiriau a ’sgeulusaist;
18A phob lleidr, brynta’ gwr,
A godinebwr, rhennaist.
19Rho’ist dy enau ar frynti,
A’th dafod ar dhrygioni;
20Yn erbyn dy frawd un‐fam
Pob rhyw gam a dh’wedi.
21Gwnaethost hyn, tewais innau;
Tybiaist fy mod fal tithau:
Mi a wnaf arnat dhïal caeth
A llywodraeth weithiau.
22Ystyriwch hynny etto
Sawl sy ’n gollwng Duw ’n angho’;
Rhag im’ eich lladh yr awrhon,
Heb dhynion a’ch gwaredo.
23Sawl a offrymmo im’ foliant,
Ac urdhas, a gogoniant,
Ac a rodio ’n iawn ir byd,
Fe gaiff iechyd a llwydhiant.
Dewis Presennol:
Psalmau 50: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.