1 Timotheus 1:12-17
1 Timotheus 1:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy’n rhoi’r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. Cyn dod yn Gristion roeddwn i’n arfer cablu ei enw; roeddwn i’n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i – doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i’n ei wneud. Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â’r cariad sy’n dod oddi wrth y Meseia Iesu. Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i’r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy’r gwaetha ohonyn nhw. Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i’n esiampl berffaith o’r math o bobl fyddai’n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol. Mae e’n haeddu ei anrhydeddu a’i foli am byth bythoedd! Fe ydy’r Brenin am byth! Fe ydy’r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy’r unig Dduw sy’n bod! Amen!
1 Timotheus 1:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a'm nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a'm penodi i'w wasanaeth; myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl. Gorlifodd gras ein Harglwydd arnaf, ynghyd â'r ffydd a'r cariad sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu. A dyma air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr: “Daeth Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid.” A minnau yw'r blaenaf ohonynt. Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol. Ac i Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a'r anweledig a'r unig Dduw, y byddo'r anrhydedd a'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
1 Timotheus 1:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth. A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, pennaf ydwyf i. Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol. Ac i’r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i’r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.