Job 8:5-7
Job 8:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os ceisi di Dduw yn ddyfal, ac ymbil ar yr Hollalluog, ac os wyt yn bur ac uniawn, yna fe wylia ef drosot, a'th adfer i'th safle o gyfiawnder. Pe byddai dy ddechreuad yn fychan, byddai dy ddiwedd yn fawr.
Rhanna
Darllen Job 8Job 8:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond os gwnei di droi at Dduw a gofyn i’r Duw sy’n rheoli popeth dy helpu, os wyt ti’n ddi-fai ac yn byw yn iawn, bydd e’n dy amddiffyn di, ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn. Er bod dy ddechrau’n fach, bydd dy lwyddiant yn fawr i’r dyfodol.
Rhanna
Darllen Job 8Job 8:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os tydi a foregodi at DDUW, ac a weddïi ar yr Hollalluog; Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.
Rhanna
Darllen Job 8