Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl
"Y fwydlen ar gyfer AHA"
Mae llyfr coginio gan fy ngwraig gartref oedd yn anrheg priodas. Yr enw arno ydy "The Three Ingredients Cookbook." Bydde hi'n hoffi i mi ddweud nad ydy hi'n ei ddefnyddio go iawn. Pan mae hi'n coginio, mae yna, wrth gwrs. fwy na thri cynhwysyn. Y gwir amdani yw, mai fi sy'n defnyddio'r llyfr.
Ar yr amseroedd prin hynny dw i'n cael mynd i'r gegin, dyma yw fy ffrind coginio. oherwydd, os ydw i'n onest, tri cynhwysyn yw'r mwyaf allaf i ddygymod ag e. Un o'r pethau dw i wedi'i ddysgu, ar fy ngwaethaf, wrth ddefnyddio'r Three Ingredients Cookbook fod y tri cynhwysyn yn angenrheidiol - na, yn hollol hanfodol.
Dyma'r anfantais i'r Three Ingredients Cookbook. Does dim modd twyllo. Os wyt ti'n defnyddio dau gynhwysyn yn unig, dydy e ddim yn gweithio'n dda iawn.
Mae'r un peth yn wir am brofiadau AHA.
Dw i wedi gwrnado ar brofiadau AHA cannoedd - os nad miloedd - o bobl dros y blynyddoedd. Dw i wedi astudio profiadau trawsnewidiol nifer o ffigyrau allweddol yn y Beibl. Gyda chysondeb trawiadol, mae gan AHA dri chynhwysyn bob amser. Os oes unrhyw un o'r cynhwysion hyn ar goll, mae e'n chwalu'r broses trawsnewid.
(1) Deffroad Sydyn (2) Gonestrwydd Creulon (3) Gweithrediad Uniongyrchol. (Yn Saesneg y geiriau dan sylw yw Awakening, Honesty, Action = AHA. felly bydd yr acronym AHA yn cael ei ddefnyddio yng ngweddill y testun am ei fod yn dod o lyfr yr awdur)
Os oes yna ddeffroad a gonestrwydd, yna, dydy AHA ddim am ddigwydd.
Os bydd deffroad a gweithrediad bydd AHA yn fyrhoedlog.
Ond pan mae Gair Duw a'r Ysbryd Glân yn dod â'r tri pheth hyn at ei gilydd yn dy fywyd, byddi'n profi AHA - cyffyrddiad gan Dduw fydd yn newid popeth.
*Wyt ti'n barod am gyffyrddiad gan Dduw sydd yn dy newid di? A wyt ti'n barod i fynd drwy'r tri cham yn y broses?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?
More