Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl
"GONESTRWYDD - Siarad â fi fy hun"
Dŷn ni'n gweld yr ail gynhwysyn - Gonestrwydd Creulon (Brutal Honesty) AHA yn Luc, pennod 15, adnod 17: "Yna o'r diwedd, calliodd, ac meddai..."
Doedd neb arall o amgylch. Dim ond e a'r moch oedd yna. Weithiau, y sgwrs anoddaf i'w chael yw'r un â thid dy hun. Mae Gonestrwydd creulon yn dechrau pan fydden yn edrych yn y drych ac yn datgan y gwirionedd am yr hyn dŷn ni'n ei wedl. Mae AHA yn gofyn i ti ddweud y gwir amdanat dy hun wrthot dy hun.
Roedd y mab wnaeth wrthryfela'n onest am beth roedd yn ei haeddu. Mae'r math yna o onestrwydd yn anodd. Bydde'n well gynnon ni ddeffroad heb onestrwydd creulon.
Fel y wraig sy'n deffro i'w hysbryd beirniadol ond yn gwrthod dweud, "Dw i'n anghywir i fod wedi bod mor negatif. Dw i'n gwybod bod angen fy anogaeth a cefnogaeth ar fy nghŵr, ond y cwbl dw i wedi'i wneud yw cwyno a beirniadu."
Fel y gŵr sy'n cydnabod ei bechod rhywiol ond yn gwrthod dweud, "Mae fy mhroblem gyda pornograffi wedi creu wal yn fy mhriodas a chaledu fy nghalon tuag at fy ngwraig."
Mae osgoi gonestrwydd creulon yn torri cylched newid hir dymor. Pan mae yna gydnabyddiaeth heb edifeirwch, dydy AHA ddim yn digwydd. Pan ddaeth y mab wnaeth wrthryfela ato'i hun, deliodd ag e ei hun yn eirwir. Mae'n rhaid i'r deffroad arwain i onestrwydd. Rhaid i argyhoeddiad arwain at gyfaddefiad.
Wedi'r cwbl. mae ein Tad nefol yn gweld a gwybod y cwbl, felly nod master o gael ein dal yw e. Mae'r gonestrwydd dw i'n siarad amdano yn fwy na cydnabyddiaeth syml, mae e'n fath o fethiant. Wrth gwrs, mi fedri di ddweud sori wrth y person wnaeth dy ddal, ond mae'n rhaid mynd tu hwnt i hynny. Mewn ennyd o onestrwydd a phan nad oes neb arall o amgylch, rhaid i ti ddweud y gwir wrthot ti dy hun amdanat ti dy hun a chydnabod dy fod yn sori.
Dyna'r gwahaniaeth rhwng difaru ac edifarhau.
*A wyt ti wedi gweithredu ar ddeffroad drwy fod yn greulon o onest gyda ti dy hun? A wyt ti'n ddigon gonest gyda ti dy hun i weld dy fethiant a sut mae e'n siomi Duw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?
More